Cyhoeddwyd: 16 Jun 2017
Mae’r artist iaith lafar a rapiwr, George the Poet, wedi rhyddhau ffilm newydd, mewn partneriaeth â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mewn ymdrech i helpu trechu trosedd casineb cyn y ‘The Great Get Together’ – penwythnos o ddathliadau cymunedol wedi’i ysbrydoli gan Jo Cox a lofruddiwyd ym mis Mehefin y llynedd.
Daw lansiad y ffilm mewn cyfnod pan fo’r heddlu ym Manceinion a Llundain wedi adrodd am godiadau llym yn nifer achosion trosedd casineb yn dilyn yr ymosodiadau terfysgaeth diweddar.
Yn y ffilm, sydd ar gael ar wefan y Comisiwn , yn ogystal â’i sianeli Facebook a Twitter, mae George yn adrodd darn dwy funud o farddoniaeth am yr hyn y golyga trosedd casineb iddo ef ac mae’n annog y cyhoedd i adrodd am unrhyw achosion ohono.
Wrth drafod y darn, meddai George:
"Yn ystod cyfnodau fel y rhain, mae’n bwysig i ni arddel y gwerthoedd tegwch a pharch sydd yn ein nodweddu ni fel bodau dynol.”
Daw’r ffilm wrth i Gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac, rybuddio am y perygl rhag dychwelyd i’r gymdeithas “nhw a ni” a allai niweidio cydlyniad cymunedol, ac mae’n gofyn i bobl ddod ynghyd i herio achosion o aflonyddu, gelyniaeth a chasineb a chynnal y gwerthoedd Prydeinig cryf o oddefgarwch a pharch.
Meddai Mr Isaac:
“Mae’r ymosodiadau diweddar wedi rhoi ysgytwad i ni ac wedi’n tristau ni oll. Mae angen i ni sefyll gyda’n gilydd a dangos i’r bobl sydd am ein rhannu ein bod ni’n unedig. Wnawn ni ddim mynd yn ôl i’r diwylliant “nhw a ni” lle mae drwgdybiaeth a chasineb yn bodoli, a’r ffordd orau i helpu cael gwared â rhagfarn yw siarad â’n gilydd a deall ein cymunedau amrywiol. Mae’r Comisiwn yn galw am ddull dim goddefgarwch tuag at elyniaeth a chasineb a byddwn yn annog unrhyw un sydd yn dioddef trosedd casineb neu yn dyst iddo i adrodd amdano.
“Fel y dywed George yn ei ddarn barddoniaeth, ‘cyfnod i’n diffinio bydd hwn’ a dyna’r rheswm y bûm yn gofyn am ba fath o wlad yr ydym am Brydain i fod? Byddwn yn pwyso ar y llywodraeth i roi system effeithiol o ddeddfwriaeth trosedd casineb ar waith a dangos arweinyddiaeth wrth gydlynu sut mae’r heddlu, awdurdodau lleol a darparwyr addysg yn gweithio gyda’i gilydd i daclo’r broblem hon.”
Er bod y ffocws diweddar wedi bod ar drosedd casineb tuag at fewnfudwyr a lleiafrifoedd ethnig, caiff ei gyfeirio’n aml hefyd at bobl anabl a’r gymuned LGB&T. Dim ond un elfen o raglen ehangach o waith y Comisiwn ar drosedd casineb yw ffilm George.
Ni adroddwyd am y rhan fwyaf o achosion casineb y llynedd. Mae’r Comisiwn yn galw ar y llywodraeth i wella’n bellach ymateb cyfiawnder troseddol i drosedd casineb, gan alw am ddod â’r system cyfiawnder dwy-haen i ben, system sydd wedi creu hierarchaeth o drosedd casineb. Mae’r Comisiwn yn galw hefyd am gefnogaeth well i ddioddefwyr a thystion. Mae’r Comisiwn yn gofyn am:
- i’r cyfreithiau a’r systemau ar gyfer rheoleiddio a monitro trosedd casineb fod yn gryfach, yn fwy cydlynol ac wedi’u cydlynu’n well;
- effeithiolrwydd data a’i werthuso i lywio cynnydd: a
- chymorth priodol i ddioddefwyr a thystion trosedd casineb.
I ganfod rhagor am y Comisiwn, trosedd casineb a sut i adrodd amdano, ymwelwch â'r dudalen hon