Gallai rhagfynegi graddau yn ystod COVID-19 gyfyngu dyfodol pobl ifanc

Cyhoeddwyd: 30 Apr 2020

Rydym wedi ymateb i ymgynghoriad ffurfiol Ofqual ar ei benderfyniad i ragfynegi graddau yn ystod y pandemig COVID-19, yn lle’r asesiadau’r haf eleni yn Lloegr.

Darllen ein hymateb i ymgynghoriad Ofqual ar gymwysterau cyffredinol penodedig

Darllen ein hymateb i ymgynghoriad Ofqual ar gymwysterau galwedigaethol a thechnegol

Gallai defnyddio graddau rhagfynegol yn lle asesiadau’r haf eleni waethygu’r anghydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli ym myd addysg a rhoi dyfodol pobl ifanc difreintiedig dan anfantais os na chaiff y broses ei rhoi ar waith yn gywir, rhybuddia David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Rydym wedi cyflwyno’n hymateb i ymgynghoriad Ofqual ar benderfyniad y rheolydd cymwysterau i ganslo ystod o arholiadau ac asesiadau ledled Lloegr yn sgil y pandemig coronafeirws. 

Yn ein hymateb i Ofqual, rhybuddiom, fel gwarchodwr cydraddoldeb Prydain, y gallai rhagfynegi graddau gael effaith barhaol ar bobl ifanc o rai cefndiroedd lleiafrif ethnig, disgyblion anabl a’r sawl ag anghenion addysg arbennig, sydd eisoes yn aml dan anfantais o’u cymharu â’u ffrindiau.

Awgryma ymchwil fod, o bosib, batrymau ymwybodol neu anymwybodol o ragfarn hiliol wrth ragfynegi graddau. O ystyried hynny, mae perygl y gallai rhagfynegi graddau effeithio’n andwyol ar rai grwpiau difreintiedig.

Meddai Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac:

“Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd i bobl yn gweithio ym myd addysg. Mae hefyd yn anodd i ddisgyblion. Ar ôl blynyddoedd o waith caled, ni fydd ganddyn nhw unrhyw reolaeth ar eu graddau. Os na gawn ni hyn yn iawn mae dyfodol rhai pobl ifanc difreintiedig mewn perygl.

“Ni allwn ganiatáu i’r argyfwng effeithio ar ddyfodol disgyblion difreintiedig, yn arbennig pan fo cynifer o ddisgyblion anabl a’r rheini o gefndir lleiafrifoedd ethnig eisoes yn wynebu brwydr anodd.

“Rhaid i ddyfodol pobl ifanc barhau’n ganolog i ymatebion – rydym yn barod i weithio gyda Ofqual i sicrhau y gall pobl ifanc gyflawni’u potensial ac na chân nhw eu cyfyngu gan unrhyw rwystr a ddaw iddyn nhw yn ystod yr argyfwng.

“Yn y cyfnod hwn mae’n hanfodol bwysig bod awdurdodau cyhoeddus, yn bodloni gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i’w gorau glas ac ystyried anghenion ac anfanteision sy’n wynebu pobl a nodweddion gwarchodedig gwahanol ganddyn nhw, wrth iddyn nhw benderfynu a gweithredu’u hymateb i’r argyfwng Coronafeirws.”

Gwnaethom nifer o argymhellion, sydd yn cynnwys:

  1. dylai’r Adran Addysg gyhoeddi canllaw i ysgolion ar yr ymagwedd y dylai athrawon ei chymryd wrth ragfynegi graddau a rhestri disgyblion yn eu trefn er mwyn lleihau’r risg o ragfarn ymwybodol neu anymwybodol gymaint â phosib
  2. dylai Ofqual gyhoeddi adroddiad yn gwerthuso’r broses rhagfynegi graddau a’r deilliannau i ddisgyblion. Os yw’r gwerthuso yn datgelu anghyfartalwch uwch na’r gyfartaledd i ddisgyblion a nodweddion gwarchodedig ganddyn nhw, dylid archwilio’r rhain yn drwyadl, a chymryd camau unioni priodol
  3. pan fydd disgyblion yn anhapus gyda chanlyniad eu hasesiadau a’r radd a ddyfarnwyd iddyn nhw, rhaid bod ganddyn nhw lwybr ystyrlon a phrydlon ar gyfer gwneud apêl

Fel corff cyhoeddus yn Lloegr, mae gan Ofqual ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus drwy sicrhau na chaiff unrhyw bobl ifanc eu rhoi dan anfantais yn sgil ei benderfyniadau, yn arbennig y rheini a nodweddion gwarchodedig ganddyn nhw megis hil ac anabledd.

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)