Astudiaeth cydraddoldeb yn datgelu diffyg amrywiaeth ymysg cynghorwyr yn yr Alban

Cyhoeddwyd: 08 Mar 2019

Datgelodd ein hastudiaeth i brofiadau ymgeiswyr etholiadau lleol yn yr Alban ddiffyg clir o amrywiaeth ymysg cynghorwyr.

Archwiliodd yr astudiaeth, y cyntaf o’i math, y rhwystrau i gyfranogiad wrth sefyll ar gyfer etholiad i lywodraeth leol yn yr Alban.

Wedi’i gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (Dydd Gwener 8 Mawrth), canfu’r ymchwil gynrychiolaeth annigonol o fenywod. Dim ond 29% o’r holl gynghorwyr sydd yn fenywod, o’i gymharu â 51% o’r boblogaeth yn yr Alban.

Dengys y dystiolaeth dangynrychiolaeth ymysg nodweddion gwarchodedig eraill, megis hil ac oed.

Roedd cyfran sylweddol o gyfranogwyr ymchwil wedi dioddef ymddygiad dieisiau yr oedden nhw wedi’i ystyried yn waradwyddus, sarhaus neu’n ymosodol.

Yn ein harolwg i ymgeiswyr, dywedodd 48% o fenywod eu bod wedi dioddef yr ymddygiad hwn, o’i gymharu â 12% o ymgeiswyr gwrywaidd.

Meddai Lesley Sawers, ein Comisiynydd yn yr Alban:

‘Er i ni weld rhywfaint o gynnydd o ran amrywiaeth ymysg gwleidyddion etholedig, o ran cynrychiolaeth ymysg menywod, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc, mae amrywiaeth yn wael o hyd o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.  

'Mae’n wirioneddol ofidus bod bron hanner yr holl fenywod a arolygwyd yn dweud eu bod wedi dioddef aflonyddu, ac roedd nifer llai o ymgeiswyr lleiafrifoedd ethnig wedi dioddef aflonyddu hiliol.

‘Mae amrywiaeth gwleidyddion lleol etholedig yn sicr yn bwysig, gyda phenderfyniadau allweddol yn cael ei wneud ar lefel llywodraeth leol.

'Mae gwleidyddion lleol hefyd yn ffurfio rhan hanfodol o’r gronfa o ymgeiswyr posib ar gyfer dethol ar lefelau eraill o lywodraeth, gan gynnwys Holyrood a San Steffan.

'Heb wella amrywiaeth ymysg swyddogion etholedig ar lefel lleol, gallai fod yn anoddach i wneud cynnydd ar draws wleidyddiaeth etholedig.’

Canfu’r astudiaeth nad yw data bob amser yn cael ei gasglu’n rheolaidd gan bleidiau gwleidyddol ynglŷn â lefelau cynrychiolaeth ym maes aelodaeth, rhestr gymeradwy o ymgeiswyr, ymgeiswyr ar gyfer eu dethol, ac ymgeiswyr ar gyfer eu hethol.

Mae hyn yn ei wneud yn amhosibl gwybod a yw grwpiau nodweddion gwarchodedig eraill, megis anabledd, yn cael eu tangynrychioli.

Mae’r diffyg hwn o ddata yn rhwystr rhag sicrhau bod pleidiau’n deall ac yn gweithredu i daclo’u problemau amrywiaeth.

Rydym yn galw ar lywodraeth y DU i ddod ag adran 106 Deddf Cydraddoldeb 2010 i rym, sy’n gofyn i bleidiau gwleidyddol gasglu a chyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig ymgeiswyr i etholiadau seneddol y DU, etholiadau Ewropeaidd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban.

Canfu’r astudiaeth, er bod rhai pleidiau gwleidyddol yn cymryd camau i wella amrywiaeth eu hymgeiswyr etholedig, gan gynnwys cwotas, rhestri byr i fenywod yn unig, a llefydd wedi’u neilltuo, prin yw gweithdrefnau neu bolisi arall o ran amrywiaeth.

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau ynghylch hybu cynrychiolaeth menywod, gyda llai o ganolbwyntio ar grwpiau eraill, megis pobl anabl neu leiafrifoedd ethnig.

Roedd materion eraill ynghylch amrywiaeth wedi’u nodi yn ein hastudiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

Nid yw prosesau anffurfiol bob amser yn gynhwysol

Roedd rhai o’r rheini a gafodd eu cyfweld yn credu nad oedd rheolau dethol plaid ffurfiol yn hybu amrywiaeth a bod rhannau anffurfiol y broses (megis mynychu cyfarfodydd, adeiladu rhwydweithiau a chymorth) yn cau’r dewis i’r rheini y tu allan i gliciau plaid mewnol, ac aelodau plaid hir sefydlog.

Cyllidau personol

Roedd cyllidau personol yn rhwystr mawr, gyda diffyg adnoddau ariannol yn ei wneud yn anoddach i lawer o bobl sefyll ar gyfer etholiad, yn enwedig y rheini gyda chostau ychwanegol, fel gofal plant, a rhai pobl anabl.

Mae’n anoddach i bobl gyda chyfrifoldebau gofalu 

Roedd amser yn rhwystr allweddol i lawer, eto gyda goblygiadau i’r rheini gyda phlant â chyfrifoldebau gofalu eraill.

Mae sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau plaid yn cael eu cynnal mewn ffyrdd hygyrch ac ar adegau cyfleus yn hanfodol i amrywio’r rheini sydd yn sefyll ar gyfer swydd etholedig.

Caiff hiliaeth ei reportio o hyd 

Cafodd hiliaeth ei reportio gan nifer o gyfranogwyr, ac mae astudiaethau eraill yn yr Alban yn ategu hynny yn ogystal ag enghreifftiau diweddar o hiliaeth sydd wedi cael sylw gan y cyfryngau cenedlaethol.

Pwysau o fewn lleiafrifoedd ethnig

Cafodd rhwystrau o fewn lleiafrifoedd ethnig eu reportio hefyd. Mae rhai pobl dan bwysau i bleidleisio fel bloc neu arddel safbwyntiau tebyg i eraill, gyda gofidion ynglŷn â chanlyniadau negyddol i’r rheini na wnaiff felly.

Nodweddion gwarchodedig cudd 

Roedd y rheini â nodweddion gwarchodedig cudd, er enghraifft anhwylder iechyd meddwl, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhyweddol, yn wynebu rhwystrau penodol.

Roedd adweithiau aelodau plaid a phleidleiswyr weithiau yn llai positif na’r adwaith i nodweddion mwy gweledol.

Roedd cyfranogwyr ymchwil yn teimlo bod angen i bleidiau wneud mwy mewn ymateb i adroddiadau gwahaniaethu, aflonyddu neu ymddygiad amhriodol.

Diffyg ymwybyddiaeth a phroses  

Roedd yr ymchwil hefyd yn awgrymu bod rhai pleidiau yn methu cydnabod bod problem amrywiaeth, efallai, ganddyn nhw o gwbl.  

Hyd yn oed os byddan nhw’n ei adnabod, dydyn nhw ddim yn angenrheidiol yn gwybod y manylion, megis pa grwpiau nodweddion gwarchodedig sydd dan sylw.  

Soniodd cyfranogwyr am ddryswch ynglŷn â’r llinellau cyfrifoldeb a phwyntiau atebolrwydd wrth ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ceir yr adroddiad llawn ar ein gwefan.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)