Cyhoeddwyd: 05 Nov 2020
Agorodd corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain ymchwiliad statudol i anghydraddoldeb hiliol gweithwyr lleiafrifoedd ethnig mewn rolau is eu tâl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ei gylch gorchwyl, dywed y CCHD y bydd yn archwilio profiadau gweithwyr o ystod o leiafrifoedd ethnig wedi’u cyflogi mewn rolau is eu tâl o fewn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.
Bydd hefyd yn bwrw golwg ar ffactorau sydd eisoes yn bodoli yn y gwaith, megis amodau’r gweithle, polisïau a hyfforddiant a allai fod wedi cyfrannu at eu risg o COVID-19.
Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae’r pandemig wedi datgelu anghydraddoldeb hiliol ar draws y wlad. Gwyddom fod grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi’u gorgynrychioli mewn rolau is eu tâl ac mae effaith y pandemig ar y rheiny sydd yn gweithio yn y swyddi hyn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn fater o fyw neu farw.
“Rhaid i ni ddeall y materion strwythurol sydd wedi gadael pobl o ystod o leiafrifoedd ethnig mewn mwy o risg. Bydd yr ymchwiliad hwn yn helpu ateb y cwestiynau hynny a gwneud argymhellion y gellir eu cymhwyso i nifer o amgylcheddau gweithio eraill lle bo lleiafrifoedd ethnig wedi’u gorgynrychioli ar y lefelau cyflog isaf.
“Mae hyn yn cynnwys y rheiny ar y llinell flaen sydd wedi bod yn ein cefnogi ni oll trwy’r heriau aruthrol a wynebon eleni.
Dros y misoedd i ddod, bydd y CCHD yn ceisio deall profiadau pobl yn gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol oedolion, yn ogystal ag edrych i’r sefydliadau sydd yn comisiynu a rhedeg y gwasanaethau hyn megis y GIG, awdurdodau lleol, cyrff ymbarél a chwmnïau sector preifat sydd yn cyflawni gofal yn y cartref a chymuned.
Caiff galwad am dystiolaeth ei gyhoeddi yn yr wythnosau i ddod, yn ogystal â manylion pellach am Banel Cynghori allanol a fydd yn helpu tywys y gwaith.
Cam diweddaraf rhaglen y CCHD ar hil yw’r ymchwiliad hwn, sydd hefyd yn cynnwys asesiad cyfreithiol ar bolisïau ‘amgylchedd gelyniaethus’ y Swyddfa Gartref. Galwodd y CCHD hefyd dro ar ôl tro i’r Llywodraeth lunio strategaeth cydraddoldeb hil gynhwysfawr i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol ar draws holl feysydd bywyd.