Cyhoeddwyd: 28 Feb 2017
Cyhoeddodd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb heddiw ei adroddiad ar gyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl Brexit.
Meddai Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Rebecca Hilsenrath:
“Mae gan Brydain draddodiad hir o gynnal hawliau pobl a herio annoddefgarwch. Mae Brexit yn gyfle gwych i’r llywodraeth amlinellu ei gweledigaeth o’r math o wlad yr ydym ei heisiau, ac i gryfhau’r amddiffynfeydd hawliau dynol yn y DU, unwaith i ni adael cyfreithiau’r UE ar ôl.
"Rydym yn cytuno â’r Pwyllgor bod angen i ni sicrhau bod pob amddiffynfa bresennol yn cael ei chynnwys yng nghyfraith y DU. Mae’n hanfodol na fydd unrhyw amddiffynfeydd rydym yn dibynnu arnyn nhw o ddydd i ddydd yn cael eu gwanhau. Mae angen i ni hefyd gryfhau ein hamddiffynfeydd a luniwyd yn y wlad hon, gan gynnwys drwy gyflwyno hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb y gall unrhyw gyfreithiau newydd gael eu profi yn ei herbyn i sicrhau eu bod yn bodloni’r safon tegwch sydd yn ganolog i werthoedd Prydain. Mae hyn yn hanfodol os ydym i gyfannu rhai o’r rhaniadau a fu cyn ac ers y refferendwm.
“Rydym yn barod i helpu’r llywodraeth i roi’r argymhellion hyn ar waith a gweithio gyda nhw i amddiffyn a gwella cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol.”
Nodiadau i olygyddion
Canfod rhagor am y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb.