Galw ar gyflogwyr i gynyddu amrywiaeth pobl yn cael mynediad i brentisiaethau yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 04 Mar 2019

Yn ôl y corff cydraddoldeb cenedlaethol, mae angen i fwy o gyflogwyr gydnabod buddion defnyddio camau cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth prentisiaethau yng Nghymru, a helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae grwpiau, gan gynnwys menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn eu hwynebu mewn cyflogaeth ehangach.  

Canfu adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y cyd â Phrifysgol Caer a’r Young Women’s Trust ar ddechrau’r Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol, mai dim ond ychydig o gyflogwyr ym Mhrydain sy’n manteisio ar y pŵer a roddwyd iddyn nhw yn 2010 o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i daclo’r anfantais a’r cynrychioliad annigonol a ddioddefir gan rai grwpiau. Er i’r astudiaeth ddod o hyd i rai enghreifftiau o gwmniau yn annog prentisiaethau i ferched, roedd llai o gynlluniau neu fesurau camau cadarnhaol yn ymwneud â hil ac anabledd.   

Mae canfyddiadau’r adroddiad sy’n berthnasol i Gymru yn cynnwys:

  • Yng Nghymru, roedd menywod yn ffurfio 60% o’r prentisiaethau yn 2016/17, o’i gymharu â 49% yn Lloegr (17/18) a 39% yn yr Alban (17/18).
  • Fodd bynnag, yn y rhaglenni adeiladu a pheirianneg, dim ond 360 o brentisiaethau oedd gyda menywod ynddyn nhw o’i gymharu â 8,330 o brentisiaethau gyda dynion ynddyn nhw (1 fenyw i bob 23 o ddynion).
  • Ym maes gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, roedd 2,825 o brentisiaethau gyda dynion o’i gymharu â 15,120 gyda menywod.
  • Yng Nghymru ar gyfer 2016/17, dim ond 1.5% o’r rheini ar raglenni prentisiaeth oedd yn bobl anabl.*
  • Yng Nghymru, bu cynrychioliad lleiafrifoedd ethnig mewn prentisiaethau oddeutu 3% ers 2008 – oddeutu hanner y boblogaeth darged o bobl ifanc 16–24 oed o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i gyflenwi 100,000 o brentisiaethau o ansawdd erbyn 2021 ac, yn arbennig, i gynyddu nifer yr uwch brentisiaethau mewn gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg.  

 

Meddai Ruth Coombs, Pennaeth Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

‘Mae prentisiaethau yn gyfle amhrisiadwy i unigolion gael mynediad i gyflogaeth daledig, hyfforddiant yn y swydd a chymwysterau. Dengys ein hadroddiad nad oes gennym, ar hyn o bryd, degwch i bawb, gyda rhai grwpiau heb gynrychioliad digonol o bell ffordd mewn prentisiaethau yng Nghymru. Mae’r anghydbwysedd hyn yn arbennig o amlwg mewn rhai sectorau, megis y diwydiannau adeiladu a pheirianneg lle mae gwrywod yn goruchafu.  

‘Er bod mwy o brentisiaethau yng Nghymru gyda menywod ynddyn nhw na dynion, mae prentisiaethau lle mae menywod ynddyn nhw yn parhau’n arwyddocaol heb gynrychioliad digonol yn y diwydiannau sy’n talu’n well ond yn cael eu gorgynrychioli yn y sectorau â thâl salach megis gofal yn y blynyddoedd cynnar.

‘Os gallwn sicrhau cydraddoldeb mewn prentisiaethau yng Nghymru, gwnawn gymryd camau bras tuag at gau bylchau cyflog a chael gwared â’r syniad hen ffasiwn unwaith ac am byth y dylai rhai mathau o bobl wneud rhai mathau o swyddi.

‘Mae Cynllun Gweithreu Prentisiaethau Cynhwysol Llywodraeth Cymru sydd newydd ei gyhoeddi i’w groesawu. Mae angen i’r cynllun hwn helpu sicrhau bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd erbyn 2021 yn cael ei gyflenwi mewn ffordd sy’n cynnig cyfleoedd teg i bawb.’

Meddai Prif Weithredwr Young Women’s Trust, Dr Carole Easton OBE:

“Mae menywod yn parhau i gael eu cau allan o rannau allweddol yr economi oherwydd stereoteipio rhywedd hen ffasiwn yn ogystal â diffyg cefnogaeth. Gall cyflogwyr wneud llawer mwy i weithredu o fewn y ddeddfwriaeth gyfredol i greu tegwch, a dyna’r rheswm bod angen ymwybyddiaeth a dealltwriaeth well o sut y gall mesurau megis camau cadarnhaol wneud gwahaniaeth a’u galluogi i recriwtio’r bobl orau.”

Meddai’r Athro Chantal Davies ym Mhrifysgol Caer: 

“O’i ddefnyddio’n briodol ac yn gadarn, gall camau cadarnhaol ddarparu ffyrdd effeithiol o daclo anfantais  a than-gynrychioliad, ond yn anffodus, prin yw’r gwerthuso ymarferol ar ddefnyddio camau cadarnhaol ym maes prentisiaethau ac yn y gyflogaeth ehangach.  

Mae llawer o enghreifftiau o gyflogwyr sydd wedi arddangos ymrwymiad i fanteisio ar fesurau camau cadarnhaol sydd yn cael eu caniatáu mewn perthynas â phrentisiaethau a thu hwnt yn y sectorau hynny lle nad oes cynrychioliad digonol o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a menywod. Fodd bynnag, yr hyn a ganfuom yn y drafodaeth bord gron a helpodd i lywio’r adroddiad hwn, oedd bod diffyg ymwybyddiaeth a/neu hyder gan gyflogwyr i osod mesurau camau cadarnhaol effeithiol. Drwy’r adroddiad hwn, a’r gwaith rwy’n ei wneud gyda’r Young Women’s Trust, rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth hwn (a hyder) ar ddefnyddio camau cadarnhaol mewn perthynas â phrentisiaethau a grwpiau heb gynrychioliad digonol.”​

Nododd yr ymchwil nifer o resymau am y defnydd cyfyngedig o gamau cadarnhaol, gan gynnwys diffyg ymwybyddiaeth ymysg cyflogwyr ynglŷn â’u gallu i gymryd camau cadarnhaol, diffyg hyder i osod mesurau effeithiol ac ofn atebolrwydd cyfreithiol a chyfeiliorni o ran gwahaniaethu cadarnhaol. 

Mae’r CCHD yn argymell i gyflogwyr monitro recriwtio, dargadw a dyrchafiad yn ôl ethnigrwydd, anabledd a rhywedd i nodi anfanteision a wyneba grwpiau arbennig a thaclo’r rhain drwy gymryd:

  • camau cadarnhaol cyffredinol megis neilltuo llefydd ar gyfer grŵp gwarchodedig ar gyrsiau hyfforddi neu ddarparu mentora i grŵp arbennig;
  • camau cadarnhaol wrth recriwtio a dyrchafu drwy ddefnyddio’r ddarpariaeth ‘torri’r ddadl’ i benodi unigolyn o grŵp gwarchodedig dros unigolyn arall lle nad oes gan y grŵp hwnnw gynrychioliad digonol neu’i fod dan anfantais ac mae’r ymgeiswyr yn gyfartal o ran cymwysterau. 

Mae’n galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i ddal darparwyr prentisiaeth i gyfrif drwy ofyn i sefydliadau y mae’n ariannu i osod a bodloni targedau er cyfranogiad gwell gan grwpiau heb gynrychioliad digonol ac i ddefnyddio caffael cyhoeddus i hybu mwy o ddefnydd o gamau cadarnhaol.  

Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan y CCHD.  

Nodiadau i olygyddion

  • * Dylid nodi nad yw anawsterau dysgu yn cael eu cynnwys o fewn diffiniad ‘anabledd’ at ddibenion y data a gasglwyd. Gall yr 1.5% o brentisiaethau lle mae pobl anabl ynddyn nhw eu cyferbynnu â’r 22.5% o bobl oed gweithio yng Nghymru sydd ag anabledd ganddyn nhw.  
  • Hefyd, caiff canfyddiadau’r adroddiad a’i oblygiadau i gyflogeion, cyflogwyr a chyrff sector eu trafod yn ystod cynhadledd Camau Cadarnhaol ar Waith ar 13 Mawrth a drefnwyd gan yr Young Women’s Trust. 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)