Cyhoeddwyd: 31 Mar 2021
Y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymateb i adroddiad gan y Comisiwn Anghyfartalwch Ethnig a Hil.
“Mae anghydraddoldeb hil yn gymhleth ac mae cysylltiadau â ffactorau eraill megis cefndir cymdeithasol a theuluol, tlodi a daearyddiaeth. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’n gymwys achosion amrywiol anghyfartalwch ac wrth wneud argymhellion i fynd i’r afael â nhw, mae’n rhoi cyfle i lywodraeth lunio polisi sy’n targedu ffynonellau’r anghydraddoldeb. Mae nifer o argymhellion y gallwn gymryd rhan arweiniol ynddynt ac rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth y byddai cyllid ychwanegol yn ein helpu i ymgymryd â’n gwaith pwysig i daclo camwahaniaethu ac anfantais.
"Er bod Prydain wedi gwneud cynnydd mawr tuag at gydraddoldeb hil yn yr 50 o flynyddoedd diwethaf, mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Fel dywed yr adroddiad, mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i gymryd ein llwyddiannau, dysgu ohonynt, a’u cymhwyso i ble mae angen i ni wneud gwelliannau pellach. Mae angen ymagwedd ar y cyd. Dyma’r amser i weithredu ac rydym yn barod i wneud ein rhan.”