Cyhoeddwyd: 19 Aug 2020
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi dechrau cytundeb cyfreithiol gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) sydd yn rhwymo’r adran i wella cymorth ar gyfer cwsmeriaid Byddar yn ceisio’i gwasanaethau ar y ffôn.
Cododd dau gynghorydd achwyniad gyda’r CCHD ar ran pedwar o bobl â nam ar eu clyw a oedd angen defnyddio'r gwasanaeth ffôn gyda chyfieithydd Iaith Arwyddion Prydeinig i’w helpu i benderfynu p’un ai a cheisio am fenthyciad cartref neu beidio.
Wynebodd pob un o’r pedwar anawsterau wrth ddelio â staff y DWP a Serco nad oeddent yn gwybod sut i drefnu gwasanaeth cyfieithu. Llwyddodd un o’r pedwar neilltuo cyfieithydd, ond dim ond ar ôl tri mis o drafferth.
Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Rhaid i bobl anabl allu cael gwasanaethau’r un modd â defnyddwyr eraill. Daw’r perygl o gymorth annigonol hyd yn oed yn fwy wrth i chi gyfuno anhawster cael gwasanaethau hanfodol â’r angen ar gyfer benthyciad i sicrhau cartref.
“Mae cyfieithydd ac addasiadau rhesymol eraill yn hanfodol i bobl Fyddar wrth iddynt geisio cael gwasanaethau ar y ffôn ac rydym yn falch bod y DWP wedi ymrwymo i wneud y gwelliannau allweddol hyn.
“Gobeithio bydd y fath newidiadau nid yn unig yn gwella mynediad i’r gwasanaethau hyn ar gyfer pobl anabl, ond hefyd gallu staff y DWP i ddeall pa addasiadau sydd yn ofynnol a sut i’w gwneud, fel y gall pawb gael mynediad digonol i’r help a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.”
Meddai llefarydd ar ran DWP:
“Gyda mwy na 87,000 o ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig yn byw yn y DU ar hyn o bryd, mae’n hanfodol bod pob un o’n gwasanaethau yn hygyrch i bobl fyddar a’r rheiny â nam ar eu clyw. Rydym yn hollol ymrwymedig i barhau i wella’r cymorth a ddarparwn ac mae’r cytundeb hwn yn cadarnhau’r sefyllfa honno ac yn ein gosod ar y llwybr iawn ar gyfer y dyfodol.
“Rydym eisoes wedi gosod Gwasanaethau Cyfnewid Fideo ar Gredyd Cynhwysol, cyflwyno budd-daliadau anabledd a’r Cynllun Mynediad i Waith, gan helpu i ddileu rhwystrau diangen ar gyfer pobl yn ceisio’r rhwyd diogelwch lles. Mae’r cynllun gwelliant hwn yn cynnwys cyflwyno rhaglen barhaus o godi ymwybyddiaeth staff a byddwn yn parhau i weithio ar y cyd gyda’r CCHD dros y 12 mis nesaf i roi hyn ar waith.”
Yn ei chytundeb gyda’r CCHD, mae’r DWP wedi ymrwymo i gynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r problemau y nododd y cwynion hyn.
Mae’r cynllun gweithredu’n ymrwymo’r DWP i:
- Ddarparu Gwasanaeth Cyfnewid Fideo (VRS) ar draws gwasanaethau teleffoni i bob budd-dal a gwasanaeth. Galluoga VRS i ddefnyddwyr Byddar gysylltu â DWP drwy gyfnewid fideo gan ddefnyddio cyfieithydd;
- Sicrhau y gall cwsmeriaid ddod o hyd yn hawdd i’r hyn sydd ei angen arnynt er mwyn gofyn am wybodaeth mewn fformatau hygyrch amgenach;
- Gwella’i system gwybodaeth cwsmer fel y cofnodir anghenion cyfathrebu pobl anabl a’u rhannu;
- Gwella defnydd ‘Equality Analysis’ wrth ddylunio a chyflenwi pob newid.
Bydd y CCHD yn monitro cynllun gweithredu’r DWP yn fisol i sicrhau bod y camau a gytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni.