Diwedd y dydd i ddatganiadau peidio datgelu, meddai corff cydraddoldeb cenedlaethol

Cyhoeddwyd: 27 Mar 2018

Mae diwylliannau gwaith cyrydol wedi tawelu lleisiau dioddefwyr aflonyddu rhywiol sydd wedi ei normaleiddio, meddai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (y Comisiwn) heddiw wrth iddo gyhoeddi cyfres o argymhellion i ddiogelu pobl yn y gwaith yn well.

Yn ffocysu ar newid diwylliant, gwella tryloywder, a chryfhau amddiffyniad cyfreithiol, mae’r argymhellion yn gawl ar y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth yn atal cyflogwyr rhag defnyddio cytundebau peidio datgelu i guddio aflonyddu rhywiol ac amddiffyn eu henw da. Yn hytrach, dylid eu defnyddio ar gais y dioddefwr yn unig.

Mae’r argymhellion hyn hefyd yn galw am ymestyn y terfyn amser i ddod â hawliad o aflonyddu rhywiol i dribiwnlys i chwe mis, gan ystyried yr amser a gymer i nifer o unigolion godi cwynion.

Wrth ddatblygu’r argymhellion, gofynnodd y Comisiwn i’r cyhoedd rannu eu profiadau o aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac ysgrifennu at gyflogwyr blaenllaw, yn cynnwys Cadeiryddion cwmnïau FTSE 100 ynghyd â chwmnïau cyfreithiol y cylch hud, yn eu hatgoffa o’u dyletswydd gyfreithiol o ran diogelwch ac urddas eu cyflogeion ac yn gofyn am dystiolaeth o’u polisi ac arferion.

Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

'Aethom ati i ganfod sut mae cyflogwyr yn delio ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, a sut mae unigolion yn ei brofi. Roedd yr hyn a ddysgom yn wirioneddol syfrdanol. Mae yna ddiffyg gweithredu cyson, effeithiol gan gyflogwyr, ac mae gyrfaoedd ac iechyd meddyliol a chorfforol pobl yn cael ei niweidio o ganlyniad.

'Mae diwylliannau cyrydol wedi tawelu unigolion ac aflonyddu rhywiol wedi ei normaleiddio. Nid ydym yn rhoi digon o bwys i'w faint ac yn anystyriol o’i effaith.  Rydym angen gweithredu ar frys i droi'r fantol mewn gweithleoedd ym Mhrydain; gan symud o’r diwylliant presennol o unigolion yn peryglu eu swyddi ac iechyd i adrodd aflonyddu, i roi’r pwyslais ar gyflogwyr i’w atal a’i ddatrys. Dyna beth mae ein hargymhelliad yn anelu i’w wneud.

'Ni all fod yn iawn fod miliynau o bobl yn mynd i’r gwaith yn ofni beth allai fod wedi digwydd erbyn eu bod yn dod adref. Mae angen i gyflogwyr sefyll i fyny a chymryd cyfrifoldeb am derfynu aflonyddu rhywiol o bob gweithle ym Mhrydain.'

Dywedodd un fenyw:

'[Roeddwn] yn 17 [ac] wedi gorfod cloi fy hun yn y toiled wedi i jôcs am dreisio droi'n fygythiadau [a] gweinyddwyr hŷn yn cellweirio ynghylch pwy fyddai’n cael fy ngwyryfdod ar ôl dysgu fy mod yn eglwyswraig. Dyna [oedd] ei diwedd hi yn dilyn nifer o ddigwyddiadau eraill. Dywedodd [fy] mos wrtha i mai dyna sut mae dynion yn siarad ac y dylwn i fynd adref.'

Mynegodd un arall yn syml:

'Fe gollais fy swydd, fy enw da a fy iechyd.'

Meddai Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Menywod Ifanc, Dr Carole Easton OBE:

'Mae’r Ymddiriedolaeth Menywod Ifanc yn croesawu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Rhaid nawr symud ymlaen gyda’r argymhellion i’w gwneud yn haws i adrodd am ddigwyddiadau, sefydlu prosesau diduedd nad ydynt yn cosbi dioddefwyr ac yn gwella diwylliant y gweithle. Gall fod yn anodd adrodd am aflonyddu rhywiol ac yn arbennig felly os ydych mewn rôl iau, ar gyflog isel neu'n ansicr yn eich gwaith, gan ofni colli eich swydd a’ch incwm. Mae'n rhaid i hyn newid. Rydym wedi clywed cryn dipyn o dystiolaeth sy'n dangos pa mor eang yw’r broblem hon, ond hyd yma ychydig iawn o weithredu a welwyd. Rhaid i'r Llywodraeth a chyflogwyr nawr ymroi i weithredu yn ddi-oed.'

Wedi eu casglu ynghyd dan un teitl ‘Troi’r fantol: terfynu aflonyddu rhywiol yn y gweithle’, mae’r argymhellion eraill yn cynnwys gofyn:

i Lywodraeth y Deyrnas Unedig...

  • weithredu dyletswydd gyfreithiol bositif newydd ar i gymryd camau effeithiol i atal aflonyddu neu erledigaeth yn y gweithle. Bydd y ddyletswydd yn cael ei gorfodi gan y Comisiwn
  • gynhyrchu cod ymarfer statudol sy'n sefydlu'r camau mae angen i gyflogwyr gymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd hon, gydag ychwanegiad posibl o 25% pan fydd cyflogwr yn torri’r cod
  • gryfhau amddiffyniad ar gyfer y rhai sydd wedi eu haflonyddu gan gwsmeriaid a chleientiaid
  • chasglu data gan unigolion ar draws Cymru, Lloegr, a’r Alban pob tair blynedd i bennu amlder a natur aflonyddu rhywiol a chynhyrchu cynllun gweithredu i daclo’r problemau a ddatgelwyd

i ACAS...

  • ddatblygu hyfforddiant aflonyddu rhywiol targedig ar gyfer rheolwyr, staff a ‘hyrwyddwyr’ aflonyddu rhywiol yn y gweithle

i gyflogwyr...

  • fod yn dryloyw a chyhoeddi eu polisi aflonyddu rhywiol unigol a’r camau i'w weithredu a’i werthuso mewn rhan hawdd ei chyrraedd o’u gwefan allanol er mwyn i gyflogeion cyfredol a photensial llu gweld sut mae’r mater pwysig hwn yn cael ei daclo.

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae pob cyflogwr yn atebol ar gyfer gweithredoedd o aflonyddu rhywiol gan un cyflogai tuag at un arall oni bai ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i’w atal. Ar hyn o bryd nid oes gofynion sylfaenol, ond dylai camau rhesymol gynnwys polisi gwrth aflonyddu a gweithdrefnau priodol ar gyfer adrodd am aflonyddu a gweithredu.

Mae aflonyddu rhywiol yn ymddygiad nas dymunir o natur rywiol a fwriadwyd i neu sydd â’r effaith o, ymyrryd ag urddas unigolyn neu greu amgylchedd sy’n codi ofn, sy’n elyniaethus, yn waradwyddus neu ymosodol iddynt. Mae enghreifftiau yn cynnwys cyswllt corfforol digroeso, sylwadau rhywiol, addewidion yn gyfnewid am ffafrau rhywiol ac arddangos lluniau graffig rhywiol. Hyd yn oed os na fwriedir i ymddygiad digroeso achosi trallod, mae'n bosibl y bydd yn dal yn cael yr effaith o dramgwyddo ar urddas rhywun neu greu amgylchedd sarhaus. Mae p'un a yw ymddygiad rhywiol digroeso yn tramgwyddo ar urddas rhywun neu'n creu amgylchedd sarhaus yn ddibynnol ar safbwynt y dioddefwr ac a yw ei ymateb yn rhesymol dan yr holl amgylchiadau.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r argymhellion wedi eu hysbysu gan dystiolaeth a gasglwyd gan bron i 1000 o unigolion a chyflogwyr a ganfu:

  • y cyflawnwyr aflonyddu rhywiol mwyaf cyffredin oed cydweithiwr uwch
  • roedd un o bob pump o'r rhai a ymatebodd wedi eu haflonyddu gan gwsmeriaid neu gleientiaid
  • roedd tua hanner yr ymatebwyr heb adrodd eu profiad o aflonyddu i unrhyw un yn y gweithle

Roedd rhwystrau i adrodd yn cynnwys:

  • y farn nad oedd pwynt codi'r mater gan nad oedd y sefydliad yn ystyried y mater i fod yn un difrifol
  • cred y byddai'r cyflawnwyr honedig, yn arbennig staff uwch, wedi eu hamddiffyn
  • ofn erledigaeth
  • diffyg gweithdrefnau adrodd priodol

Yn tua hanner yr achosion ble gwnaeth unigolion adrodd y digwyddiad, dywedodd ymatebwyr na chymerodd y cyflogwyr unrhyw gamau o ganlyniad a ble cafwyd gweithredu roedd hyn yn aml yn negyddol ar gyfer y sawl a adroddodd y mater.

  • roedd tua dau draean o’r cyflogwyr a ymatebodd yn hyfforddi rheolwyr llinell ar aflonyddu. Roedd hyn yn gostwng i tua hanner mewn perthynas â hyfforddiant a gynigiwyd i staff eraill
  • dim ond tua un o bob pump cyflogwyr gynhwysodd wybodaeth ar aflonyddu yn eu prosesau ymsefydlu
  • roedd llai na thraean o'r cyflogwyr a ddarparodd dystiolaeth yn gwerthuso effeithlonrwydd eu polisi aflonyddu trwy ddulliau megis arolygon staff rheolaidd
  • dim ond tua chwarter y cyflogwyr a ymatebodd oedd â gwybodaeth i gwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth ar ymddygiad priodol tuag at staff        
  • pan ofynnwyd iddynt am y camau a gymerwyd i sicrhau y teimlai cyflogeion y gallent adrodd am aflonyddu rhywiol, nododd mwyafrif y cyflogwyr y ffaith fod ganddynt bolisi cwynion cyffredinol. Ni ymddengys fod y gweithdrefnau cwyno hyn yn delio â’r rhwystrau arwyddocaol i adrodd a ddisgrifiwyd gan unigolion a rannodd eu profiadau
  • roedd tua un o bob chwe chyflogwr a ddarparodd dystiolaeth naill ai heb gymryd unrhyw gamau i atal erledigaeth neu nid oeddynt yn siŵr a oedd camau o'r fath wedi eu cymryd
  • er i'r rhan fwyaf o gyflogwyr ddweud eu bod wedi gweithredu, ym mwyafrif yr achosion roedd hyn yn ymddangos i fod yn gyfyngedig i gael polisi neu fath arall o ddogfennaeth oedd yn cyfeirio at erledigaeth

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)