Cynnydd anabledd yn ‘frith o gyfleoedd a gollwyd a methiannau’

Cyhoeddwyd: 03 Apr 2017

Mae’r cynnydd tuag at gydraddoldeb gwirioneddol i bobl anabl dros yr ugain mlynedd diwethaf yn annigonol ac yn ‘frith o gyfleoedd a gollwyd a methiannau’.

Dyna a ddywedodd Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dilyn cyhoeddiad Bod yn anabl ym Mhrydain: Taith llai cyfartal, y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr erioed ar sut y gwarchodir hawliau pobl anabl ym Mhrydain Fawr.

Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn, wrth sylwi ar yr adroddiad cyflwr y genedl newydd damniol i fywyd pobl anabl:

“Ar yr olwg gyntaf, rydym wedi teithio’n bell, ond mewn gwirionedd cafodd pobl anabl eu gadael ar ôl yn y gymdeithas, mae eu cyfleoedd mewn bywyd yn parhau’n wael iawn ac nid yw agweddau cyhoeddus wedi newid dim o’r braidd.

“Ni ellir anwybyddu’r dystiolaeth hon bellach. Dyma’r amser ar gyfer ffocws cenedlaethol newydd ar hawliau’r un deg tri miliwn o bobl anabl sydd yn byw ym Mhrydain. Rhaid iddyn nhw gael yr un hawliau, cyfleoedd a pharch â dinasyddion eraill.

“Mae rhaid i hawliau pobl anabl fod yn ganolog i’n cymdeithas. Ni allwn, a rhaid i ni beidio â chaniatáu i’r ugain mlynedd nesaf ailadrodd y gorffennol.”

Canfu’r adroddiad, sydd yn cwmpasu chwe maes bywyd allweddol, fod pobl anabl ym Mhrydain yn profi anfanteision ymhob un ohonyn nhw, a manyla ar feysydd hanfodol sydd angen eu gwella ar frys. Er y cynnydd sylweddol ym maes deddfau sydd yn gwarchod  hawliau pobl anabl, ni chân nhw o hyd eu trin fel dinasyddion cyfartal ac ni chân nhw’r cyfle na’r deilliannau o hyd y mae pobl nad ydyn nhw’n anabl yn eu cymryd yn ganiataol.

Mae hyn yn cynnwys: diffyg cyfleoedd cyfartal mewn addysg a chyflogaeth; rhwystrau rhag cael mynediad i gludiant, gwasanaethau iechyd a thai; y bwlch cyflog anabledd parhaus ac sydd yn lledu; mynediad sydd yn gwaethygu i gyfiawnder; a diwygiadau lles sydd yn effeithio’n arwyddocaol ar safonau byw pobl anabl sydd eisoes yn isel.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi tynnu sylw’r Cenhedloedd Unedig at y problemau hyn, ar gyfer eu harolygiad sydd ar ddod i sut mae’r Deyrnas Unedig yn cymharu â safonau rhyngwladol hawliau pobl anabl (Y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau).

Datgela’r adroddiad heddiw:

  • Er bod y bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng plant anabl a phlant nad ydyn nhw’n anabl wedi lleihau ers 2009/10, mae perfformiad disgyblion anabl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn dal yn gryn dipyn yn is. Yn Lloegr, mae cyfran y plant ag Anghenion Addysg Arbennig sydd yn cyflawni o leiaf 5 A*-C TGAU yn deirgwaith yn is nag yw i blant nad ydyn nhw’n anabl (20.0% a 64.2% yn y drefn honno). Maen nhw hefyd yn arwyddocaol yn fwy tebygol o gael eu gwahardd yn barhaol neu dros dro.
     
  • Mae’r bwlch cymwysterau rhwng pobl anabl a phobl nad ydyn nhw’n anabl wedi culhau, ond roedd y gyfran o bobl anabl heb gymwysterau bron deirgwaith yn fwy na phobl nad ydyn nhw’n anabl, ac roedd y gyfran o bobl anabl gyda gradd yn parhau’n is.
     
  • Yn gyffredinol mae mwy o bobl anabl a phobl nad ydyn nhw’n anabl mewn cyflogaeth ym Mhrydain yn 2015/16 o’i gymharu â 2010/11. Er hyn, mae llai na hanner oedolion anabl mewn cyflogaeth (47.6%), o’i gymharu â bron 80% o oedolion nad ydyn nhw’n anabl, ac mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp hyn wedi lledu ers 2010/11. Fodd bynnag, nid dyma fel y mae ar draws yr holl fathau o namau, ac i’r rheini gyda ‘chyflyrau iechyd meddwl’ a’r rheini gydag ‘anableddau corfforol’, mae’r bwlch rhyngddyn nhw wedi culhau.
     
  • Mae’r bwlch cyflog anabl hefyd yn parhau i agor. Gan bobl ifanc anabl 16-24 oed a menywod anabl oedd yr enillion canolrif isaf fesul awr.
     
  • Mae mwy o bobl anabl na phobl nad ydyn nhw’n anabl yn byw mewn tlodi ac wedi’u hamddifadu’n sylweddol.
     
  • Mae diwygiadau nawdd cymdeithasol wedi cael effaith arbennig o anghymesur a chronnus ar hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol a chael safon byw ddigonol. Mae teuluoedd yn y DU gydag aelod anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi cymharol na theuluoedd heb anabledd.
     
  • Ar draws y DU, ystyriwyd bod 18.4% o bobl anabl 16-64 oed mewn tlodi bwyd o’i gymharu â dim ond 7.5% o bobl nad oedden nhw’n anabl. Roedd pobl anabl dros 65 oed ddwywaith yn fwy tebygol â phobl nad oedden nhw’n anabl yn yr un grŵp oed i fod mewn tlodi bwyd.
     
  • Mae pobl anabl yn parhau i wynebu problemau wrth geisio dod o hyd i dai digonol, oherwydd prinder tai hygyrch ar draws Prydain, ac yn yr Alban mae nifer tai’r awdurdodau lleol sydd wedi’u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn i bobl ag anabledd corfforol wedi lleihau. Roedd pobl anabl ym Mhrydain yn llai tebygol hefyd o berchen eu tai eu hunain.
     
  • Mae cael mynediad i wasanaethau gofal iechyd yn anodd i bobl anabl, ac maen nhw’n llai tebygol o adrodd am brofiadau positif. Mae diffygion sylweddol yn parhau yn y tair gwlad o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl, lle mae oedolion anabl yn fwy tebygol o adrodd am iechyd meddwl a lles gwael na rhai nad ydyn nhw’n anabl.
     
  • Mae taer angen i garchardai fonitro a rhoi gwybod am iechyd meddwl carcharorion. Mae carcharorion yn fwy tebygol o fod â chyflyrau iechyd meddwl o’i gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol, ac roedd gan 70% o’r carcharorion a fu farw yn sgil sefyllfa a achoswyd ganddyn nhw’u hunain rhwng 2012 a 2014 gyflyrau iechyd meddwl a oedd eisoes wedi’u nodi.
     
  • Mae cadwadau yng Nghymru a Lloegr dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn parhau i gynyddu. Cynyddodd y nifer o gadwadau mewn ysbyty o 46,600 yn 2009 i 2010 i 63,622 yn 2016.
     
  • Mae newidiadau i gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi effeithio’n negyddol ar fynediad pobl anabl i gyfiawnder.  Ar draws Prydain, bu 54% o ostyngiad o ran hawliadau mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth yn sgil gwahaniaethu ar sail anabledd yn dilyn cyflwyno ffioedd fis Gorffennaf 2013.

Aeth David Isaac ymlaen i ddweud:

“Dylid defnyddio’r adroddiad hwn fel galwad i’r gad. Ni allwn anwybyddu bod pobl anabl yn cael eu gadael ar ôl a bod rhai pobl – yn arbennig y rheini â chyflyrau iechyd meddwl ac anableddau dysgu – yn profi rhwystrau sydd hyd yn oed yn fwy.

“Rhaid i ni ymdrechu ar y cyd i gyflenwi’r newidiadau sydd eu hangen ar frys. Mae gwelliannau hanfodol yn angenrheidiol i’r gyfraith a pholisïau, a rhaid i wasanaethau ddiwallu anghenion pobl anabl.

“Rhaid i Brydain fod yn gymdeithas deg a chynhwysol y mae gan bawb ynddi gyfleoedd cyfartal i ffynnu a llwyddo.”

Mae’r adroddiad yn galw ar lywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban i osod ffocws cenedlaethol newydd ar gydraddoldeb anabledd, fel y gwireddir hawliau pobl anabl yn llawn ac i gyflawni gwelliannau o ran eu profiadau a’u deilliannau.

Mae’r rhain yn cynnwys lleihau’r bylchau addysg a chyflogaeth i bobl anabl; gan sicrhau bod gwasanaethau hanfodol megis tai, iechyd a chludiant yn diwallu anghenion pobl anabl; ac yn gwella cyfreithiau a pholisïau presennol i warchod a hybu hawliau pobl anabl yn well.

Mae cyflwyniad diweddar y Comisiwn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau ag Anableddau, a luniwyd ar y cyd â chomisiynau cydraddoldeb a hawliau dynol eraill ar draws y DU, hefyd yn tynnu sylw at yr angen i wneud mwy i warchod hawliau dynol pobl anabl. Mae’n cynnwys 75 o argymhellion i lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ar sut allan nhw wella’r hawliau mae pobl anabl yn eu mwynhau ar draws feysydd megis tai, cludiant, gofal cymdeithasol a chyflogaeth. Bydd y prif arolygiad cyhoeddus o’r DU gan Bwyllgor y CU yn digwydd fis Awst 2017, a bydd y Comisiwn yn gweithio gyda’r comisiynau cydraddoldeb a hawliau dynol eraill yn y DU, pobl anabl a’u sefydliadau i helpu wireddu’r argymhellion.

At hynny, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith parhaus a anelir i wella bywydau pobl anabl, gan gynnwys gorfodi’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gyfreithiol, gwella mynediad i wasanaethau cyhoeddus, tai a chludiant, dadansoddi effaith diwygiadau lles a dylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd.

Meddai Andrew McDonald, Cadeirydd yr elusen anabledd, Scope:

“Mae’n gywilyddus bod pobl anabl yn 2017 yn parhau i wynebu lefelau mor uchel o anghydraddoldeb; gartref, yn yr ysgol ac yn y gwaith. Ac mae ymchwil gan Scope yn dangos bod gormod yn parhau i wynebu rhagfarn yn feunyddiol.

“Ond mae gweithredu’r llywodraeth wedi bod yn ddigyswllt. Er y bu ambell i ymroddiad positif, mae effaith gostyngiadau a chyfyngiadau  diweddar i fudd-daliadau a diffyg gweithredu ynghylch gofal cymdeithasol yn bygwth i wneud bywyd yn anoddach i lawer o bobl anabl.

“Gobeithio bydd yr adroddiad hwn yn ysgytwad. Mae angen gweithredu ar frys. Os yw’r llywodraeth o ddifrif ynghylch llywio cymdeithas sydd yn effeithiol i bawb, dylai’r Prif Weinidog gymryd camau yn awr i fanylu ar strategaeth drawsadrannol i daclo’r anghyfiawnderau mae pobl anabl yn eu hwynebu.”

Meddai Liz Sayce, Prif Weithredwr Disability Rights UK:

“Profiad syber a siomedig yw darllen yr adroddiad, ac mae’n tynnu sylw at yr annhegwch mae pobl anabl yn dal yn ei wynebu yn feunyddiol.

“Fel cymdeithas, rydym yn dweud ein bod am gynnydd tuag at bobl anabl yn cymryd rhan lawn yn y gymdeithas; ond yn lle hynny, rydym yn ymddangos fel ein bod yn mynd yn ôl. Mae angen cynlluniau pendant arnom gan y llywodraeth, gyda’r deilliannau’n cael eu mesur yn rheolaidd, i sicrhau ein bod ni’n mynd yn ôl ar y trywydd cywir. Rydym yn croesawu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac yn awyddus i weithio gyda nhw ac eraill i daclo gwahaniaethu.”

Meddai Robert Meadowcroft, Prif Weithredwr Muscular Dystrophy UK:

“Mae cryn dipyn o’r adroddiad heddiw yn rhoi rhifau llym ar yr hyn rydym yn ei glywed bob dydd gan bobl a chyflyrau nychdod cyhyrol ganddyn nhw am yr anawsterau dirfawr o ddod o hyd i swydd, man diogel i fyw a chael mynediad i gyfleoedd y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.  

“Mae rhaid i’r llywodraeth ymateb yn gadarnhaol ac ar frys i erwinder y canfyddiadau heddiw, yn enwedig wrth gael gwared ag agweddau niweidiol diwygiadau budd-daliadau, ond nid y nhw yw’r unig bobl sydd yn gyfrifol am wneud cymdeithas yn hygyrch i bawb.

“Gall cyflogwyr fod yn fwy rhagweithiol ynglŷn â gwneud eu gweithleoedd a’u polisïau recriwtio yn fwy agored i bobl anabl. Gall cynghorwyr lleol gynyddu’u targedau tai hygyrch. A gallwn ar y cyd wirio ein hagweddau ein hunain i sicrhau bod gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newyddion gwell i adrodd amdano ymhen ugain mlynedd. Mae’r adroddiad brawychus hwn yn rhoi ysgytwad i ni y dylem ei ystyried.”

Meddai Paul Spencer, Rheolwr Polisi ac Ymgyrch yn Mind:

“Rydym yn croesawu’r adroddiad cynhwysfawr hwn sydd yn taflu golau ar y materion eang eu hystod mae pobl anabl yn dod ar eu traws. Nid yw’n dderbyniol bod pobl anabl yn yr oes sydd ohoni yn dal yn wynebu cymaint o anfanteision ar draws gymaint o feysydd gwahanol eu bywydau o’i gymharu â phobl nad ydyn nhw’n anabl.

“Mae’r canfyddiadau yn adleisio ein hymchwil ein hunain, yn arbennig o ran gwaith a budd-daliadau. Yn ein profiad ni, pan mae gennych broblem iechyd meddwl rydych yn wynebu nifer o rwystrau o gael a chadw swydd, gan gynnwys agweddau cyflogwyr a system lles sydd yn canolbwyntio ar gosbau yn hytrach na chefnogi pobl yn ôl i waith priodol. Gwyddom fod atal budd-daliadau i rywun neu fygwth wneud hynny, pan maen nhw’n rhy sâl i weithio, yn greulon, amhriodol ac yn aneffeithiol wrth eu helpu yn ôl i gyflogaeth. Rydym yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth i hanneru’r bwlch cyflogaeth anabledd, ond os ydym i wireddu hyn, mae angen ar frys i ni weld archwiliad radicalaidd o’r system budd-daliadau a dychwelyd i’r gwaith, a gweithleoedd yn gwerthfawrogi y cyfraniad y gall cyflogeion anabl ei wneud.

“Mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod wedi ymrwymo i drin iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn gyfartal, eto fyth os oes problem iechyd meddwl gennych, rydych yn llai tebygol o fod yn gymwys i fudd-daliadau fel Taliad Annibyniaeth Personol. Wedi blynyddoedd o dangyllido gwasanaethau iechyd meddwl yn ofnadwy, mae pobl yn dal yn wynebu pob math o anghyfiawnder beunyddiol. Boed hynny wrth orfod teithio cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’u cartrefu neu’u hanwyliaid i ddod o hyd i wely mewn ysbyty iechyd meddwl neu aros am fisoedd ar gyfer therapïau siarad neu hyd yn oed cael eu cadw mewn cell yr heddlu pan rydych yn sâl gan nad oes unrhyw le arall ar gael i’ch cymryd. Rydym yn falch bod mwy o fuddsoddi wedi’i addo dros y pum mlynedd nesaf ond rydym o hyd yn bell o le mae rhaid i ni fod. Mae toriadau i gyllid llywodraeth leol wedi rhoi straen ar y cymorth sydd ar gael i bobl allu byw’n dda yn y gymuned, ac effaith cronnus  hyn yw bod pobl anabl yn dal heb gael mynediad i ofal holistaidd a’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ar yr adeg pan fo’i angen.”

Nodiadau i olygyddion

Darllen yr adroddiad: Bod yn anabl ym Mhrydain: taith llai cyfartal

Gweld yr wybodaeth ategol a fideos.

Ystadegau pellach

Addysg

  • Er bod canran y plant ag Anawsterau Penodol a’r rheini ag Anawsterau Cymedrol yn cyflawni o leiaf 5 A* i C TGAU wedi dyblu i 25.1% a 7.8%, roedd cyfradd gwahardd plant ag Anghenion Addysg Arbennig (AAA) yn fwy na 5 gwaith yr hyn oedd i blant nad oedd wedi’u henwi ag AAA. Yng Nghymru yn 2014 i 2015, roedd tua 7 gwaith yn uwch.
  • Mae pobl ifanc anabl 16 i 18 oed ym Mhrydain Fawr tua dwywaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) na phlant nad ydyn nhw’n anabl.

Gwaith

  • Mae’r bwlch cyflog anabledd yn parhau. Enillodd pobl anabl £9.85 o’i gymharu â £11.41 i bobl nad ydyn nhw’n anabl (cyflog canolrif fesul awr).
  • Mae pobl anabl hŷn (dros 50 oed) yn aros yn y farchnad lafur yn hirach (o 34.9% yn 2001 i 41.7% yn 2012), ac mae nifer y rheini sydd yn cael anabledd ac yn parhau mewn cyflogaeth hefyd wedi cynyddu o 160,000 (58%) rhwng 2001 a 2012.
  • Mae pryderon penodol ynglŷn ag effeithiolrwydd y diwygiad i raglennu cymorth cyflogaeth llywodraeth y DU megis Mynediad i Waith a’r Rhaglen Waith i bobl anabl. Yn benodol, mae pobl nad ydyn nhw’n anabl (35%) yn ddwywaith yn fwy tebygol na phobl anabl (18%) i gael swydd ar y Rhaglen Waith.  

Safon byw

  • Mae’r tâl tan-feddiannaeth (‘treth ystafell wely’) wedi effeithio ar gyfran uwch o bobl anabl nag ar bobl nad ydynt yn anabl. Mae’r tâl wedi effeithio hefyd ar deuluoedd gyda phlentyn anabl.
  • Yng Nghymru a Lloegr, pobl anabl yw o leiaf 47% o’r hawlwyr budddal tai y mae’r tâl tan-feddiannaeth yn effeithio arnynt.
  • Ar draws Prydain, roedd 59% o deuluoedd gyda phlant a oedd yn cynnwys unigolyn anabl yn byw mewn amddifadedd sylweddol yn 2014/15, o’u cymharu â chyfradd gyfartalog o 20%.
  • Roedd pobl anabl 65 oed a hŷn yn ddwywaith yn fwy tebygol na phobl nad ydyn nhw’n anabl yn yr un grŵp oed o fod mewn tlodi bwyd: 6.8% o’i gymharu â 3.3%.
  • O’r cynghorau yn Lloegr gyda chynllun tai, mae llai na 17% wedi manylu ar strategaethau i adeiladu cartrefi sydd yn ystyried pobl anabl.
  • Roedd pobl anabl ym Mhrydain yn llai tebygol i berchen eu tŷ eu hunain yn 2012-14 (62.6%) na phobl nad ydyn nhw’n anabl  (76.2%).

Iechyd a gofal

  • Yn Lloegr, cwtogwyd yr amser aros ar gyfer cyrraedd therapïau seicolegol i 28 diwrnod, ac mae rhai pobl wedi aros am fwy na 90 diwrnod.
  • Mae’r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn yr Alban wedi methu â chyrraedd y targedau i sicrhau mynediad i therapïau seicolegol i bob claf, sef o fewn 18 wythnos o’r atgyfeiriad i’r driniaeth.
  • Ar gyfartaledd, mae dynion â phroblemau iechyd meddwl yn marw 20 mlynedd yn gynt na’r boblogaeth yn gyffredinol, a menywod 13 mlynedd yn gynt.
  • Mae angen gweithredu i leihau’r defnydd o ataliaeth gorfforol a chemegol at ddibenion rheoli ymddygiad yn yr ysbyty neu mewn lleoliadau gofal.

Cyfiawnder a chadwad

  • Yn yr Alban, nid oedd pobl anabl yn fwy tebygol na phobl nad ydyn nhw’n anabl i ddioddef trosedd (15% yr un yn 2014 i 2015).
  • Cynyddodd troseddau casineb anabledd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2015/16 o 44% o’r flwyddyn flaenorol, a allai o bosibl fod yn adlewyrchiad o well arferion adrodd a chofnodi.
  • Yn yr Alban yn 2014/15, cynyddodd troseddau a adroddwyd amdanynt ynghylch gwaethygiad o ran rhagfarn yn ymwneud ag anabledd o 20% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chafodd 86% ohonynt eu dwyn gerbron llys.

Cyfranogiad a hunaniaeth

  • Ar draws Prydain, roedd cynnydd cyffredinol rhwng 2009-11 a 2012-14 yng nghanran yr oedolion anabl a heb fod yn anabl a ddywedodd eu bod yn cael anhawster cyrraedd gwasanaethau iechyd, budd-daliadau, trethi, diwylliant, chwaraeon a hamdden. Yn 2012-14 roedd hyn yn 45.3% ar gyfer pobl anabl, o’i gymharu â 31.7% ar gyfer rhai nad oeddent yn anabl.

Argymhellion yr adroddiad i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yw:

1. Leihau’r bylchau o ran cyrhaeddiad addysgol a gwaith i bobl anabl.

2. Sicrhau bod gwasanaethau hanfodol, megis tai, iechyd, cludiant a chyfiawnder yn diwallu anghenion penodol pobl anabl ac yn cynorthwyo’u hannibyniaeth a’u llesiant.

3. Hybu cynhwysiant a chyfranogiad pobl anabl yn eu bywyd fel dinasyddion a’u bywyd gwleidyddol.

4. Cryfhau dewis pobl anabl a’u hanibyniaeth a rheolaeth dros benderfyniadau a gwasanaethau.

5. Gwella’r ddeddfwriaeth, y polisïau, y fframweithiau a’r cynlluniau gweithredu sy’n bodoli ar hyn o bryd er mwyn amddiffyn a

hyrwyddo hawliau pobl anabl yn well.

6. Gwella’r sail tystiolaeth a deilliannau pobl anabl, ynghyd â’r gallu i asesu pa mor deg yw Prydain ar gyfer pob unigolyn anabl

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)