Diffyg cynnydd ar hawliau anabledd yw ‘bathodyn cywilydd’ cymdeithas

Cyhoeddwyd: 20 Jul 2016

Bydd Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud heddiw bod angen ymdrech genedlaethol newydd i hyrwyddo hawliau anabledd oherwydd bod ‘cynnydd wedi sefyll yn stond’.

Wrth gyhoeddi ymateb y Comisiwn i adroddiad Pwyllgor Dethol yr Arglwyddi ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'i heffaith ar fywydau pobl anabl (PDF), mae David Isaac wedi galw am ffocws cenedlaethol newydd ar hawliau anabledd fel na thrinnir pobl anabl mwyach fel ‘dinasyddion ail ddosbarth’.

Mae’n galw ar y llywodraeth i ddangos arweinyddiaeth gryfach drwy roi pob darpariaeth sydd yn weddill yn y Ddeddf Cydraddoldeb ar waith heb oedi i ganiatáu mynediad gwell i gludiant, tai a chynrychiolaeth ym maes gwleidyddiaeth i bobl anabl.

Mae hefyd wedi galw ar fwytai, theatrau, mannau cyngerdd, stadia chwaraeon a’r rheini oll sy’n darparu gwasanaethau i wneud yn well fel na fo pobl anabl dan anfantais. Rhaid i fusnesau ddefnyddio technoleg ddigidol fel cyfle i wneud yn hawdd i bobl anabl ddefnyddio eu gwasanaethau ar-lein. Mewn gair, nid yw gwrthod mynediad i sylfaen fawr o gwsmeriaid yn arfer busnes da a rhaid i fannau mawr ei wneud yn haws i gwsmeriaid anabl gael mynediad i docynnau a’u prynu.

Meddai David Isaac:

“Bathodyn cywilydd  i’n cymdeithas yw’r ffaith nad yw miloedd o bobl anabl o hyd yn cael eu trin fel dinasyddion cyfartal a bod hawliau bob dydd pobl nad ydyn nhw’n anabl y maen nhw’n eu cymryd yn ganiataol, megis gallu cael mynediad i gludiant, tai, bwytai, theatrau a digwyddiadau mabolgampau, o hyd yn cael eu gwrthod iddyn nhw.

“Mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu â rhoi hawliau ar waith yn llawn i bobl anabl, a dyma’r amser i symud hyn yn ei flaen. Byddai rhoi pob darpariaeth ar waith sydd yn weddill yn y Ddeddf Cydraddoldeb yn ymwneud â meysydd megis cludiant ac addasiadau rhesymol i feysydd cyffredin tai a rentir yn helpu dod â’r gwahaniaethu hyn i ben, gan gynyddu annibyniaeth a gallu pobl i gyfranogi yn y gymdeithas.

“Fodd bynnag, nid gwaith y llywodraeth yw hyn i gyd. Rhaid i’r Comisiwn ddefnyddio ei safle i ddwyn pobl ynghyd ac mae angen i fusnesau chwarae eu rhan. Er y bu rhywfaint o welliant ar gyfer mynediad corfforol mae llawer i’w wneud o hyd. Mae angen i stadia mabolgampau a mannau cyngerdd wneud llawer mwy a gwneud yn well. Mae’n gywilyddus mai dim ond un y cant o le sydd ar gael mewn mannau mabolgampau i gefnogwyr anabl. Byddwn yn dal y mannau hyn i gyfrif os na ddaw newid.”

Rhaid i’r Comisiwn ddefnyddio ei safle i ddwyn pobl ynghyd ac mae angen i fusnesau chwarae eu rhan.

Mae ymateb y Comisiwn i’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r camau a gymera dros y flwyddyn nesaf:

  • ymchwiliad pwysig i dai ar gyfer pobl anabl i helpu deall yn llawn lle mae’r rhwystrau a gwneud argymhellion ar sut i gefnogi byw annibynnol
  • yr ymchwil mwyaf cynhwysfawr i bob maes bywydau pobl anabl, gan gynnwys materion gwahanol sy’n cael eu hwynebu gan bobl ag anableddau gwahanol, yn ogystal â’r rheini â nodweddion gwarchodedig lluosog (megis aelodau anabl lleiafrifoedd ethnig)
  • adroddiad ar effaith diwygiadau llesiant gyda ffocws neilltuol ar y problemau a wyneba pobl anabl
  • adroddiad pwysig i Bwyllgor y CU ar Hawliau Personau ag Anableddau ar gynnydd y DU
  • adroddiad ar y bylchau cyflog mae pobl anabl yn eu hwynebu, gydag argymhellion ar y camau sydd angen eu cymryd
“Mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu â rhoi hawliau ar waith yn llawn i bobl anabl, a dyma’r amser i symud hyn yn ei flaen.

Dylai’r llywodraeth ddechrau ar unwaith i ddod â darpariaethau canlynol yn y Ddeddf Cydraddoldeb i rym:

Gwahaniaethu deuol

Mae’r mesur hwn yn galluogi hawliadau o wahaniaethu uniongyrchol ar sail bod gan hawliwr gyfuniad o unrhyw ddwy nodwedd warchodedig berthnasol.

Llongau a llongau hofran

Caiff llongau a llongau hofran eu cynnwys gan reoliad UE a deddfwriaeth ddomestig a ddiddymwyd, ac nid gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu nad oes rhwymedigaeth i wneud cyfleusterau, megis siopau a barrau yn hygyrch.

Addasiadau rhesymol i rannau cyffredin eiddo preswyl a rentir (Cymru a Lloegr yn unig)

Mae tenantiaid anabl, a allai fel arall fyw yn gwbl annibynnol, yn ei chael hi’n anodd cyrraedd eu fflatiau sydd ar yr ail neu drydydd llawr oherwydd bod landlordiaid yn gwrthod i wneud mannau cyffredin  - megis cynteddau, grisffyrdd a chyfleusterau hamdden - yn hygyrch. Rhaid i lywodraethau weithio gyda’r sector tai i wireddu newidiadau yn gofyn i lanlordiaid wneud  addasiadau, neu i ganiatau i denantiaid eu gwneud.

Hygyrchedd tacsi

Mae llawer o bobl anabl yn wynebu problemau wrth gymryd tacsi. Dywedodd y Llywodraeth y byddai’n dod â dwy adran o’r Ddeddf Cydraddoldeb i rym. Rydym yn croesawu hyn, ond mae angen gwneud mwy. Mae angen yr holl ddarpariaethau’n llawn arnom ac amserlen sydd wedi’i hamlinellu.

Hygyrchedd bysys a choetsis

Cafodd y rhan fwyaf o ddarpariaethau hygyrchedd bysys a choetsis (Pennod 2 Rhan 12) eu heithrio tan 28 Chwefror 2017, gyda phosibilrwydd o eithrio pellach. Trwy bwerau a gafodd eu cynnwys yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, mae rhaid i fysys gydymffurfio erbyn 2017 gyda rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) 2000, a choetsis erbyn 2020. Mae PSVAR yn gymwys i gerbydau gyda mwy na 22 o deithwyr. Mae’r rheoliadau yn cwmpasu mannau i gadeiriau olwyn, offer dringo ar fws, arwyddion, seddau blaenoriaeth, canllawiau a systemau penlinio.

Y gofyniad i bleidiau gwleidyddol i adrodd ar amrywiaeth ymgeiswyr.

Rydym yn gofidio am rif isel ASau anabl a gafodd eu hethol i Senedd San Steffan yn 2015. Rydym yn argymell:

  1. bod gofyn i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi data amrywiaeth am eu hymgeiswyr
  2. casglu data anabledd gan Aelodau etholedig Tŷ’r Cyffredin, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban i sicrhau bod aelodau anabl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gyfranogi’n llawn ym myd bywyd cyhoeddus; ac arolwg anabl o bob aelod o Dŷ’r Arglwyddi
  3. y llywodraeth i ailagor y Cyllid Mynediad i Swydd Etholedig yn Lloegr, a gweithio gyda’r Llywodraethau yn yr Alban a Chymru i archwilio opsiynau i weithredu’r cynllun, neu ariannu tebyg, ar draws Prydain Fawr.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)