System cyfiawnder troseddol yn methu pobl anabl

Cyhoeddwyd: 11 Jun 2020

Dywed corff gwarchod fod y system cyfiawnder troseddol yn methu dinasyddion anabl ac yn eu drysu

Ar ôl yn ddiweddar cynhyrchu canfyddiadau dros dro wrth ymateb i’r pandemig coronafeirws, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) heddiw wedi rhybuddio’n bellach bod y system cyfiawnder troseddol yn methu’r rheiny ag anableddau dysgu, anhwylderau sbectrwm awtistig ac anafiadau i’r ymennydd ac mae angen ei ddiwygio er mwyn sicrhau treial teg i bawb.

Wrth iddo lansio canfyddiadau llawn ei ymchwiliad i a yw’r system cyfiawnder troseddol yn trin pobl anabl yn deg, dywed y CCHD na fo’r system yn systematig yn cydnabod anghenion pobl anabl, gan olygu bod diffynyddion a phobl gyhuddedig o dan y risg o beidio â gallu cyfranogi’n briodol yn y broses gyfreithiol. 

Eglura hefyd fod gorgynrychiolaeth o bobl ag anableddau dysgu a chyflyrau iechyd meddwl o fewn y system y mae’r llywodraeth wedi methu â’u dogfennu, ac nad yw’r rheiny sydd wedi’u cyhuddo wedi’u darparu’n rheolaidd ag addasiadau sydd eu hangen arnynt i gyfranogi yn y broses cyfiawnder, ac nad yw cryn nifer o weithwyr proffesiynol cyfreithiol yn cael hyfforddiant digonol i ddelio â namau.

Gan amlygu bod digidoleiddio cynyddol y system yn bygwth mynediad pobl anabl i gyfiawnder oherwydd y risg o adael pobl yn gynyddol o heb allu deall yn iawn yr hyn sy’n digwydd yn ystod proses y treial, a chyfathrebu na phan maent yn cyfranogi’n bersonol – mae’r CCHD yn pwysleisio pwysigrwydd diwygio’r system i ddiwallu anghenion pobl, ac yn ei dro yn ei wella ar gyfer pob defnyddiwr llys.  

Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Bydd system cyfiawnder troseddol nad yw’n gwahaniaethu, y gall pawb gyfranogi ynddo, yn tanategu ein cymdeithas. Mae’n sefyll dros ddemocratiaeth, cydraddoldeb a gweithredu’r gyfraith. Dylai roi i bob un ohonom gyfle i dreial teg, waeth pwy ydym ni. Ond mae pobl anabl yn aml yn wynebu rhwystrau rhag deall eu sefyllfa a sicrhau bod pawb arall yn eu deall yn briodol. Yn sgil hynny gallant gael eu drysu gan y system a’u trin yn annheg, sydd yn rhoi eu hawl i dreial teg o dan risg.

Yn glir mae angen ail-ddylunio’r system. Mae angen i Lywodraethau’r DU a’r Alban i’w wneud yn flaenoriaeth i ddeall anghenion pobl anabl yn y system, gan ystyried yn ddifrifol ein canfyddiadau ac argymhellion, ac ymrwymo i wneud ein systemau cyfiawnder troseddol yn deg i bawb.”

Ochr yn ochr â’i ganfyddiadau, mae’r adroddiad yn gwneud pum argymhelliad i Lywodraethau’r DU a’r Alban ac asiantaethau perthnasol:

  • sicrhau bod adrannau ac asiantaethau gweithredol yn mynd i’r afael â bylchau wrth gasglu, monitro a dadansoddi data anabledd, a sicrhau bod goruchwylio rheoleiddiol clir i fonitro’u cyfranogiad effeithiol.

 

    • Yn Lloegr, dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r  Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM sefydlu sail tystiolaeth eglur ar effaith diwygio llysoedd ar gyfer diffynyddion anabl a mynd i’r afael â rhwystrau sydd eisoes yn bodoli i ddiffynyddion anabl cyn i fesurau pellach cael eu cyflwyno neu’u hymestyn
  • datblygu sgrinio cynnar ac effeithiol i bob diffynnydd a phobl gyhuddedig ac ystyried sut y gallai sgrinio weithio i’r sawl mewn achosion troseddol lle na fo’r llwybr yn cynnwys yr heddlu a/neu gystodaeth

 

    • Yn Lloegr, dylai NHS England ystyried cyflwyno sgrinio cyffredinol gan wasanaethau NHS L&D, gan adeiladu ar ymarfer gorau sydd eisoes yn bodoli a dysgu gan wleidyddiaeth gyfredol
  • sicrhau mynediad amserol i wybodaeth a’i rhannu
    • Yn Lloegr, dylai NHS England sicrhau bod mecanweithiau ganddynt ar waith i alluogi rhannu’n briodol wybodaeth sydd yn benodedig i achos â systemau TG rheoli achos y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ar anghenion sydd wedi’u nodi ac addasiadau a argymhellwyd
  • cefnogi’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol a pharchu hawliau treial teg
    • Yn Lloegr, dylai Llywodraeth y DU roi’r argymhellion ar waith ar gyfer diwygio deddfwriaeth ym Mhennod 2 adroddiad y Comisiwn Cyfraith ar ‘Unfitness to Plead’ i roi hawl statudol i ddiffynyddion gael canolwyr a mesurau arbennig eraill.
  • sicrhau bod hyfforddiant cymhwyster proffesiynol cychwynnol ar gyfer myfyrwyr cyfraith yn cynnwys ymwybyddiaeth o anabledd, a bod pob cod ymddygiad perthnasol a safonau yn cael eu gwella i gynnwys ymwybyddiaeth o anabledd yn benodol fel gofyniad proffesiynol, a bod ymwybyddiaeth o anabledd yn elfen orfodol datblygiad proffesiynol parhaus i’r rheiny sydd yn gweithio ym maes cyfraith droseddol.

Am fwy o wybodaeth ymwelwch ag equalityhumanrights.com

Nodiadau

Mae canfyddiadau llawn yr adroddiad fel a ganlyn:

  • Nid yw’r system cyfiawnder wedi’i dylunio oboptu anghenion a galluoedd pobl anabl, ac mae diwygiadau yng Nghymru a Lloegr yn peryglu lleihau cyfranogiad yn fwy
  • Ni nodir bob amser namau sydd efallai’n gofyn am addasiadau – mae hyn yn rhwystr rhag cyfranogiad effeithiol
  • Ni wneir addasiadau bob amser i bobl anabl oherwydd na chaiff gwybodaeth am eu namau ei hestyn ymlaen
  • Mae’r fframwaith sydd eisoes yn bodoli i ddarparu addasiadau i sicrhau cyfranogiad effeithiol i ddiffynyddion anabl a phobl gyhuddedig yn annigonol
  • Nid yw gweithwyr proffesiynol cyfreithiol yn gyson yn cael y canllaw neu’r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i allu adnabod namau, eu heffaith, neu sut y gellir gwneud addasiadau

Lansiodd y CCHD ei ymchwiliad A yw’r system cyfiawnder troseddol yn trin pobl yn deg? ym mis Mawrth 2019. Ei bwrpas oedd ymateb i bryderon sylweddol gan elusennau, cyfreithwyr a theuluoedd pobl â chyflyrau iechyd meddwl, namau gwybyddol a chyflyrau niwro-amrywiaeth yn dioddef gwahaniaethu ac yn cael eu rhoi dan risg o gamweddau cyfiawnder oherwydd diffyg cymorth yn y system cyfiawnder troseddol. 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)