Cyfyngiadau COVID-19 a’r effaith ar hawliau dynol

Cyhoeddwyd: 22 Sep 2020

Wrth roi sylwadau ar oblygiadau hawliau dynol cyfyngiadau ar fywydau pobl oherwydd y pandemig COVID-19, meddai Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Rebecca Hilsenrath:

“Rydym yn cerdded ar raff dynn. Mae angen i ni gydbwyso rhwng achub bywydau rhag y coronafeirws a chaniatáu i bobl y rhyddid a frwydrwyd mor galed i’w hennill sydd yn fframwaith i’r bywydau hynny - megis yr hawl i fywyd preifat a theuluol, i ryddid ymgynnull ac i addysg. Rhaid i hyn fynd llaw yn llaw ag adferiad economaidd sydd yn darparu safon byw ddigonol i bawb.

“Ar yr un pryd, rhaid i ni ddiogelu’r nifer o fywydau eraill hynny a chaiff eu rhoi dan risg heb fynediad i iechyd a gofal cymdeithasol priodol, megis pobl hŷn a phobl anabl, cleifion â chancr neu â heriau iechyd meddwl – neu mewn perygl oherwydd cyfraddau cynyddol trais domestig.  

“O dan gyfyngiadau symud clywsom sut y cafodd y rheiny mewn gofal preswyl eu diogelu gymaint â phosib rhag y feirws, ond clywsom hefyd sut y cafodd pobl eu hamddifadu o deulu pan roedd eu hangen arnynt fwyaf. Roedd aros adref i ddiogelu’r GIG yn neges syml ond gallai fod wedi atal sgrinio a’r hawl i ofal iechyd ar gyfer y rheiny â chyflyrau eraill megis cancr. Gallai dulliau cyffredinol esgor ar ganlyniadau eraill. Ni fydd y feirws yn diflannu’n fuan iawn a rhaid i ni sicrhau na fydd ein hymdrechion i fyw’n rhydd rhag y coronafeirws yn esgor ar bris rhy uchel.

“Wrth i ragor o gyfyngiadau gael eu hystyried, rydym yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod amddiffynfeydd yn gymesur, wedi’u mesur a bod gwyddoniaeth a’r gyfraith wrth eu gwreiddiau. Rhaid i unrhyw newidiadau sydd yn cyfyngu ar ein hawliau fod yn hyblyg, gydag adolygiad a phwyntiau terfyn, ac yn aros yn agored i her. Os ydym am ddiogelu iechyd cyhoeddus ac achub bywydau, yna mae angen i newidiadau gyfannu neu gryfhau’n hawliau dynol, nid eu trin fel dewisol.”

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)