Cyhoeddwyd: 04 Sep 2018
Lansiwyd ymchwil newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) heddiw i archwilio a yw rhai dioddefwyr gwahaniaethu yn ei chael yn anodd cael mynediad i gyfiawnder yn sgil y newidiadau i gyllid cymorth cyfreithiol.
Yn dilyn newidiadau i gymorth cyfreithiol yn 2012, ni ellir cael arian ar gyfer y rhan fwyaf o achosion gwahaniaethu ond trwy gael mynediad yn unig drwy borth ffôn yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (CLA). Awgryma tystiolaeth fod darpariaeth cymorth cyfreithiol cychwynnol ar gyfer achosion gwahaniaethu wedi gostwng bron i 60% ers cyflwyno’r porth, ac ers 2015 mae nifer yr achosion gwahaniaethu sydd wedi’u hatgyfeirio at gynghorwyr arbenigol y CLA wedi parhau i ddisgyn, o 3558 yn 2014/15 i 2608 yn 2016/17.
Er bod gwasanaeth gweithredwr y CLA yn delio â mwy na 18,000 o achosion gwahaniaethu ers 2013, dim ond 16 o bobl a gafodd eu hatgyfeirio at gyngor wyneb i wyneb rhwng 2013/16, ac ni atgyfeiriwyd neb at gyngor wyneb i wyneb yn 2016/17. Awgryma ymchwil hefyd nad yw’r porth hwn bob amser yn hygyrch i bobl anabl a’r sawl sydd â sgiliau iaith Saesneg gyfyngedig.
Mae’r CCHD yn gofidio bod diffyg ymwybyddiaeth a mynediad cyfyngedig y porth, efallai yn golygu nad yw dioddefwyr gwahaniaethu yn cael yr arweiniad a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i bennu a allai eu sefyllfa fod yn anghyfreithlon.
Mae pryderon hefyd am effeithiolrwydd y CLA. Yn 2013/14 dim ond pedwar achos a gafodd eu cofnodi fel cael dyfarniad gan lys neu dribiwnlys. Awgryma’r nifer isel hwn o achosion llwyddiannus nad yw’r sawl sy’n cael cymorth cyfreithiol hyd yn oed bob amser yn cael yr help a’r cynrychioliad sydd eu hangen arnynt i gael mynediad effeithiol i gyfiawnder.
Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Pan fod unrhyw un wedi cael cam neu ei erlid, mae’n hanfodol ei fod yn gwybod am ei hawliau cyfreithiol a chael mynediad i gyngor a chymorth i gael cyfiawnder. Ni ddylai mynediad i gyfiawnder fod ar gael yn unig i’r sawl a all ei fforddio.
“Rwy’n gofidio bod y nifer o bobl bellach sy’n cael mynediad i gymorth cyfreithiol ar gyfer achosion gwahaniaethu wedi gostwng yn arwyddocaol. Mae gen i bryderon gwirioneddol y gallai fod rhwystrau sylweddol sy’n atal pobl rhag sicrhau mynediad i gyfiawnder. Mae’n hanfodol bod y system cyfiawnder yn gweithio i bawb, ac fel gorfodwyr y Ddeddf Cydraddoldeb, bod y CCHD yn barod i ddefnyddio’i bwerau i archwilio a yw pethau’n mynd o chwith a sut y gellir eu gwella.”
Nod yr ymchwiliad yw pennu a yw cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion gwahaniaethu yn darparu mynediad effeithiol i gyfiawnder i’r sawl sydd wedi dioddef gwahaniaethu. Yn benodol bydd yn archwilio:
- sut mae achosion gwahaniaethu yn cael eu hariannu gan gymorth cyfreithiol;
- sawl unigolyn sydd wedi cael arian cymorth cyfreithiol ar gyfer hawliadau gwahaniaethu, gan gynnwys cynrychioliad neu gynhorthwy gyda dwyn achos gerbron llys neu dribiwnlys, a sut mae’n cymharu â thystiolaeth o’r nifer o unigolion sydd yn ceisio am gyngor ynglŷn â gwahaniaethu;
- p’un ai a oes rhwystrau i fynediad effeithiol i gymorth cyfreithiol;
- a oes rhai unigolion wedi profi anawsterau penodol wrth geisio mynediad i gymorth cyfreithiol, er enghraifft oherwydd anawsterau ieithyddol neu lythrennedd, neu oherwydd nodwedd warchodedig;
- gweithrediad porth ffôn gofynnol fel pwynt mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o gyngor gwahaniaethu; ac
- a yw cymorth cyfreithiol yn darparu mynediad effeithiol i gyfiawnder ar gyfer unigolion sy’n cwyno o ddioddef gwahaniaethu, ac a ellir gwneud gwelliannau i leihau rhwystrau a gwella mynediad i gyfiawnder.
Cyhoeddodd y CCHD hefyd nifer o argymhellion mewn ymateb i adolygiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o Ddeddf Cymorth Gyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (LASPO). Mae’r rhain yn galw ar y Llywodraeth i nodi lle y cafodd LASPO effaith negyddol anghymesur ar bobl sy’n rhannu rhai nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, menywod a phobl o leiafrifoedd ethnig, a dod â meysydd cyfraith yn ôl i derfynau gwaith pan fo’n angenrheidiol; diwygio’r cynllun ariannu achos neilltuol i ddarparu rhwyd diogelwch effeithiol lle byddai fel arall gamweddau hawliau pobl yn digwydd yn sgil diffyg cymorth cyfreithiol; ac ail osod cymorth cyfreithiol ar gyfer cyngor cychwynnol ym maes achosion teulu a thai, fel y gellid datrys problemau cyfreithiol cyn iddynt waethygu.
Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan y CCHD fod gweithdrefnau cyfreithiol cymhleth, cost uchel cyngor cyfreithiol, a’r cyfyngderau ar y gwasanaethau y gall sefydliadau cyfyng eu harian y trydydd sector eu cynnig, gyda’i gilydd wedi atal pobl rhag datrys eu hawliadau cyfreithiol. Heb gymorth priodol, roedd cryn nifer wedi wynebu braidd dim dewis ond mentro mynd i ddyled i dalu ffioedd cyfreithiol, ymdrechu datrys eu problemau cyfreithiol ar ben eu hunain neu roi’r gorau i’w hawliad yn gyfan gwbl.
Yn ystod yr ymchwiliad bydd y CCHD yn casglu gwybodaeth gan ystod eang o unigolion, elusennau a sefydliadau cynghori yn ogystal â’r Asiantaeth Cymorth Gyfreithiol. Bydd cyn hir yn cyhoeddi galwad am dystiolaeth yn gofyn i unigolion a sefydliadau sydd naill wedi ceisio am, neu helpu eraill i geisio am gyfiawnder am wahaniaethu i lenwi arolwg. Defnyddir canfyddiadau’r ymchwiliad i lywio adolygiad y Llywodraeth o LASPO a bydd yn gwneud cynigion ar gyfer diwygio pan fo’n briodol.
Mae gwybodaeth bellach ar yr ymchwiliad, yn ogystal â’r adroddiad ymchwil newydd a rhestr lawn o argymhellion i adolygiad LASPO ar gael ar wefan y CCHD. Yn ddiweddarach eleni bydd y CCHD yn cyhoeddi’i adolygiad o gydraddoldeb ym Mhrydain, ‘A yw Prydain yn Decach?’ a fydd, ymysg meysydd eraill, yn adrodd ar y cynnydd yn y system cyfiawnder a diogelwch.