Cyhoeddwyd: 29 Jun 2016
Cafodd diwygiadau i’r system cymorth gyfreithiol a chyflwyno ffioedd tribiwnlys cyflogaeth ynghyd â newidiadau i’r system nawdd cymdeithasol i gyd eu hamlygu fel prif bryderon hawliau dynol gan y Cenhedloedd Unedig mewn adroddiad beirniadol.
Cododd Pwyllgor y CU ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol bryderon am fynediad i gyfiawnder, yn arbennig i grwpiau sydd o dan anfantais ac ar y cyrion yn ogystal â meysydd megis cyflogaeth, tai, addysg a nawdd cymdeithasol.
Meddai’r Comisiynydd, Lorna McGregor:
'Mae diwygiadau diweddar i gyfiawnder cyfraith sifil wedi effeithio’n arbennig ar bobl anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, yn sgil cyflwyno ffioedd i dribiwnlysoedd cyflogaeth cafwyd gostyngiad mawr yn nifer yr hawliadau a gafodd eu dwyn gerbron y llys am wahaniaethu ar sail rhyw, anabledd, hil a chyfeiriadedd rhywiol.
Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn gan y CU ac fe wnawn yn awr weithio gyda sefydliadau cymdeithas sifil i ddal y Llywodraeth i gyfrif yn y maes hwn.'
Meddai Lorna McGregor ymhellach:
'Dylai Llywodraeth y DU wella ei chynllunio a’i monitro o ddiwygiadau i nawdd cymdeithasol. Dylai ymestyn ei dadansoddi i gynnwys effaith cronnus penderfyniadau ar bobl yn rhannu nodweddion gwarchodedig, adolygu polisïau sydd wedi lleihau amddiffynfeydd a nodi camau lliniarol lle nodir effeithiau andwyol.'