Cyhoeddwyd: 10 May 2016
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw wedi lansio ei Gynllun Strategol ar gyfer 2016–19, gan amlinellu rhaglen uchelgeisiol i herio gwahaniaethu, symud cyfle cyfartal yn ei flaen, ac amddiffyn a hybu hawliau dynol ym Mhrydain.
Mae’r cynllun yn blaenoriaethu meysydd penodol o waith i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion pwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd ym Mhrydain. Mae blaenoriaethau allweddol yn cynnwys:
- gwella mynediad i gyfiawnder a thriniaeth rhai grwpiau o fewn y system cyfiawnder troseddol
- taclo’r problemau y mae rhai grwpiau neilltuol yn eu hwynebu sy’n profi cyfraddau cyflogaeth isel, gorgynrychiolaeth yn y sectorau cyflog isel, bylchau cyflog neu driniaeth sâl yn y gweithle
- taclo gelyniaeth ar sail hunaniaeth, camdriniaeth a thrais casineb ac amddiffyn hawliau i urddas a pharch
- archwilio effaith diwygio lles ar bobl yn rhannu rhai nodweddion gwarchodedig, ac ar bobl anabl yn arbennig
- mynd i’r afael â heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu gan gynnwys goblygiadau newidiadau ar ariannu byw annibynnol ar yr hawl i gartref
- defnyddio ein pwerau cyfreithiol i daclo achosion difrifol o dorri hawliau ac i gefnogi neu ddwyn achosion a fydd yn egluro’r gyfraith
- cyflawni ein rôl fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol statws ‘A’ Prydain ac adrodd wrth y Cenhedloedd Unedig ar berfformiad Llywodraeth Prydain o ran cyfamodau hawliau dynol cenedlaethol, a
- dadansoddi ac ymateb i unrhyw gynnig gan y Llywodraeth i newid deddfwriaeth hawliau dynol
Meddai Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac:
Mae rhaid i’r Comisiwn fod yn gorff arbenigol annibynnol cryf sy’n gwthio newid i wneud Prydain yn decach, taclo gwahaniaethu, ac yn hybu cyfle cyfartal a hawliau dynol.
“Mae’r Cynllun Strategol hwn yn amlinellu rhaglen uchelgeisiol o waith dros y tair blynedd nesaf a fydd yn gwella bywydau pobl ar draws Prydain.
“Mae’n tanlinellu ein hymrwymiad i ddwyn newid ac mae’n rhoi pwyslais arbennig ar sbarduno gwelliannau pellach lle mae rhaid i lywodraethau cenedlaethol wneud rhagor i gyflawni’r cyflymdra o gynnydd sydd ei angen.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau eraill ac unigolion i sicrhau newid, ond sydd hefyd yn barod i gymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n torri hawliau unigolion eraill.”
Wrth lansio’r cynllun, meddai’r Prif Weithredwr, Rebecca Hilsenrath:
“Mae gan y Comisiwn ran bwysig a phwerau cyfreithiol unigryw sydd yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth i gymdeithas ym Mhrydain. Yn y tair blynedd ddiwethaf, rydym wedi dwyn mwy na 80 o achosion cyfreithiol; wedi cynnal yr ymchwiliad pwysig cyntaf i farwolaethau annaturiol oedolion â chyflyrau iechyd meddwl sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn carchardai, ysbytai a gorsafoedd yr heddlu; wedi gweithio gyda heddluoedd a chefnogi hyfforddiant ar y defnydd gormodol ac anghymesur o stopio a chwilio yn erbyn dynion lleiafrifoedd ethnig ifanc; a chynnal yr adolygiad mwyaf cynhwysfawr o gynnydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain, ‘A yw Prydain yn Decach?’.
“Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen ond mae cymaint eto i’w wneud i gael gwared a gwahaniaethu ac i ennill y frwydr dros gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae ein Cynllun Strategol yn amlinellu sut y bwriadwn i wneud Prydain yn decach drwy hybu cyfle cyfartal, urddas a pharch.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 0161 829 8102, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.