Cyhoeddwyd: 12 Jul 2016
Heddiw bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud bod angen adolygiad ar raddfa fawr ar strategaethau a deddfau Prydain ar droseddau casineb, fel rhan o ymgyrch cenedlaethol newydd, i orchfygu’r codiad dramatig yn ddiweddar o droseddau casineb ar sail hil.
Mewn adroddiad pwysig i’r CU ar wahaniaethu hiliol, mae’r Comisiwn yn gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth y DU i daclo troseddau casineb ac arwain ymdrech cenedlaethol i orchfygu’r rheini sy’n ceisio cyfreithloni a thaenu casineb.
Ers refferendwm yr UE, mae’r heddlu wedi adrodd am gynnydd o 57% ar adroddiadau ar-lein ar droseddau casineb yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn Llundain yn unig dengys ffigurau newydd gan Wasanaeth Heddlu’r Metropolitan 599 o achosion troseddau casineb ar sail hil wedi’u sôn amdanynt wrth Scotland Yard rhwng 24 Mehefin – diwrnod canlyniad y refferendwm – a 2 Gorffennaf 2016. Nid yw’r Heddlu yn yr Alban wedi cofnodi codiad cyfatebol mewn achosion casineb yn yr Alban, er eu bod yn cydnabod bod yr achosion hyn o droseddau casineb yn aml heb gael eu hadrodd amdanynt.
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi addo cynllun gweithredu newydd ar daclo troseddau casineb ac mae’r Comisiwn yn defnyddio ei adroddiad i Bwyllgor y CU ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol i alw am ymyriadau cynnar ac ataliaethau cryfach i helpu adfer rhaniadau hiliol ledled y wlad a gwella bywydau grwpiau lleiafrifol ethnig.
Mae’r adroddiad yn galw ar lywodraeth y DU i:
- Gynnal adolygiad ar raddfa fawr o weithrediad ac effeithiolrwydd y dedfrydau ar gyfer troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y gallu i gynyddu dedfrydau ar gyfer troseddau ar sail casineb.
- Darparu tystiolaeth gryfach i brofi bod eu strategaethau troseddau casineb yn llwyddiannus.
- Gweithio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol i ddeall yr hyn sy’n symbylu tramgwyddwyr i gyflawni troseddau casineb ac i ddefnyddio’r dystiolaeth honno i ddatblygu mesurau ataliol newydd.
Yn ogystal â bod yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwr troseddau casineb, mae asesiad y Comisiwn yn amlygu sut mae pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol a mudwyr yn llawer mwy tebygol o brofi anfantais yn y system cyfiawnder troseddol, mewn effaith ‘lluosogi’ frawychus.
Mae’r adroddiad yn amlygu’r meysydd canlynol:
Stopio a chwilio
- Dengys ffigurau diweddaraf y Swyddfa Gartref fod dyn du o hyd yn bum gwaith yn fwy tebygol o gael ei stopio a’i chwilio gan yr heddlu na dyn gwyn yng Nghymru a Lloegr.
- Dorset oedd â’r anghymesuredd uchaf, gyda phobl ddu yn 12.7 o weithiau yn fwy tebygol o gael eu stopio na phobl gwyn.
System cyfiawnder troseddol
- Dengys ffigurau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod cyfraddau erlin a dedfrydu i’r grŵp ethnig Du yn deirgwaith yn fwy nag i’r grŵp Gwyn, tra oedd y grŵp Cymysg yn ddwywaith yn fwy, gan adlewyrchu arestiadau.
- Roedd 40% o garcharorion dan 18 oed o grwpiau ethnig Du, Asiaidd, Cymysg neu ‘Arall’ yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2014 i 2015.
Mynediad i gyfiawnder
- Mae achosion gwahaniaethu ar sail hil wedi disgyn o 61% ers i ffioedd gael eu cyflwyno i dribiwnlysoedd cyflogaeth.
- Mae’r gostyngiad yng nghwmpas cymorth cyfreithiol a chynigion ar gyfer prawf preswylio yn debygol o effeithio’n drwm ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig, gan leihau eu mynediad i gyfiawnder.
- Mae cyflwyno porth ffôn gorfodol i fathau arbennig o achosion cymorth cyfreithiol wedi cael effaith andwyol ar bobl â sgiliau iaith Saesneg cyfyng.
Cadw mewnfudwyr yn gaeth
- Cafodd 38% o fewnfudwyr eu cadw’n gaeth mewn canolfannau mewnfudo am rhwng 29 diwrnod i dros ddwy flynedd, er i’r Comisiwn a seneddwyr ofyn iddyn nhw osod terfyn amser o 28 o ddiwrnodau.
Meddai Cadeirydd y Comisiwn, David Isaac:
"Nid oes lle i hiliaeth na chasineb yn y Brydain sydd ohoni. Trwy gydol hanes mae’r wlad hon wedi herio anoddefgarwch ac mae rhaid i ni yn awr weithio gyda’n gilydd i orchfygu’r lleiafrif sy’n ceisio ein rhannu.
"Mae angen ymdrech cenedlaethol ar y cyd arnom i orchfygu’r rheini sy’n defnyddio refferendwm yr UE i geisio cyfreithloni a thaenu casineb. Mae angen dedfrydau cadarnach arnom i rwystro tramgwyddwyr, dealltwriaeth well o’r hyn sy’n symbylu troseddau casineb a sut y gallwn ei orchfygu, a thystiolaeth galed i ddangos bod y strategaethau hyn yn gweithio.
"Dengys adroddiad y Comisiwn hefyd sut mae pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn profi anfanteision lluosog, yn arbennig o ran y system cyfiawnder troseddol. Rydym yn aros am ganfyddiadau Adolygiad Lammy gyda diddordeb.
"Yn sgil Brexit, nid oes dim yn fwy pwysig nag undod, cydraddoldeb a diogelwch. Mae angen i bleidiau gwleidyddol ddod ynghyd a rhoi blaenoriaeth i’n gwlad a gorchfygu’r hyn a allai o bosib fod y bygythiad gwaethaf gan hiliaeth mewn cenhedlaeth."