Clwb Pêl Droed Chelsea yn gwneud cytundeb ffurfiol gyda chorff cydraddoldeb

Cyhoeddwyd: 16 May 2018

Arwyddodd Clwb Pêl Droed Chelsea gytundeb cyfreithiol gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i wella mynediad i’w stadiwm i bobl anabl a diweddaru’r corff gwarchod ar ei gynnydd yn rheolaidd.

Daw’r cytundeb wrth i’r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad terfynol i hygyrchedd stadia’r Uwch Gynghrair.

Bwrodd yr adroddiad, cyflwr y chwarae:cynnydd hygyrchedd clybiau’r Uwch Gynghrair, ei olwg ar yr hyn y gwnaeth pob clwb (cyfanswm o 23) yn yr Uwch Gynghrair yn ystod y tymhorau 2016 i 2017 a 2017 i 2018 i wneud eu meysydd yn hygyrch i gefnogwyr anabl.   

Wrth ymateb i’r defnydd o bwerau gorfodi gan y Comisiwn, dangosodd clybiau’r Uwch Gynghrair y gall fusnesau wneud newid go iawn a chynnydd sylweddol i wella cyfleusterau ar gyfer pobl anabl. 

Wedi’i gyhoeddi heddiw, canfu’r adroddiad gynnydd yn nifer:

  • mannau i ddefnyddwyr cadair olwyn: o 3024 ym mis Ebrill 2017 i 3724 ym mis Ebrill 2018, gydag oddeutu 330 o fannau ychwanegol i’w gosod gan y clybiau cyn tymor 2018 i 2019
  • amwynder a seddau hawdd eu cyrraedd: mae 17 o’r 20 clwb dechreuol bellach yn darparu’r nifer a argymhellir ar gyfer ei stadiwm, o’i gymharu â dim ond 8 ym mis Ebrill 2017
  • toiledau hygyrch: mae pob un o’r 20 clwb dechreuol yn eu darparu i’r safon ofynnol, o’i gymharu â dim ond 10 ym mis Ebrill 2017
  • toiledau changing places: mae 22 clwb bellach yn darparu toiledau hygyrch mwy o faint gyda mainc newid a system codi, i fyny o 7 ym mis Ebrill 2017
  • ystafelloedd synhwyraidd: mae pob un o’r 20 clwb dechreuol bellach yn darparu cymorth neu gymhorthion synhwyraidd a ddyluniwyd i gefnogi pobl ag amrywiaeth o namau synhwyraidd, o’i gymharu â 7 ym mis Ebrill 2017

Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

'Mae cefnogwyr anabl yn gefnogwyr selog iawn o’u timau; da yw gweld y clybiau yn gwneud yr un fath iddyn nhw. Mae’r clybiau wedi gwella’n sylweddol. Yn ystod ein trafodaethau gwelom rai enghreifftiau rhagorol o sut wnaeth clybiau ymgysylltu â chefnogwyr anabl i gyflwyno amryw newidiadau cadarnhaol. Ar y daith, cawsom rywfaint o wrthwynebiad hefyd. Rwy’n falch bod cynifer o glybiau – gan gynnwys Chelsea, un o rai mwyaf y byd – wedi cymryd ein bygythiad camau cyfreithiol o ddifrif ac maen nhw bellach yn gweithio gyda’r Comisiwn i gyflawni newid gwirioneddol. Mae’n bwysig bod pob clwb yn gwneud mynediad i bobl anabl yn flaenoriaeth.

'Rydym yn falch iawn o’n rhan bwysig wrth sicrhau bod clybiau pêl droed yr Uwch Gynghrair yn newid eu ffyrdd a phrofiad eu cefnogwyr anabl. Nid oedd esgus am safon wael y cyfleusterau a welom yn rhai o’r clybiau'r llynedd. Yn sgil defnyddio ein pwerau nid dyma fydd hi yn y dyfodol. Mae rhaid i bobl anabl allu gyfranogi’n gydradd ym mhob agwedd o fywyd.'

Meddai Sarah Newton, Gweinidog dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith:

'Mae’r pŵer gan bêl droed i ddwyn pobl ynghyd, beth bynnag fo’u cefndir, ond os nad yw stadia yn gwbl hygyrch caiff pobl anabl eu heithrio rhag mwynhau’r synnwyr cymuned sydd yn rhan fawr o fod yn gefnogwr pêl droed.  

'Dyna pam rwy’n falch bod yr Uwch Gynghrair yn gwneud cynnydd sylweddol ar hygyrchedd, gan osod esiampl i glybiau ar hyd a lled y wlad i wneud y peth iawn i bob un o’u cefnogwyr. Ond mae rhagor o waith o hyd i’w wneud, a byddwn yn annog pob clwb i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau sydd yn ofynnol o dan y gyfraith.'

Meddai William Bush, Cyfarwyddwr Gweithredol yn yr Uwch Gynghrair:

'Mae pêl droed yr Uwch Gynghrair i bawb ac mae gan glybiau draddodiad hir o groesawu cefnogwyr anabl i’w stadia. Yn y tair blynedd ddiwethaf, mae clybiau wedi gwneud gwelliannau mawr o ran mynediad i’w cefnogwyr anabl. Mae maint a chwmpas y gwaith yr ymgymerwyd ag ef - i feysydd parcio gwell ac opsiynau prynu tocynnau i gynyddu darpariaeth y mannau i ddefnyddwyr cadair olwyn - yn ddigyffelyb mewn unrhyw chwaraeon neu sector difyrru arall.

'Bydd pob clwb yn parhau i ymgysylltu â’u cefnogwyr anabl ac maent wedi ymrwymo i wneud gwelliannau yn y dyfodol i fodloni safonau sydd yn codi.'

Croesawodd Burnley a Watford, dau glwb gyda chynlluniau ar gyfer gwelliannau sylweddol i’w meysydd, y cyfle i ddatgan yn gyhoeddus eu hymrwymiad i’r gwelliannau hyn drwy arwyddo’n wirfoddol i gytundeb gan y Comisiwn. Mae gan y ddau glwb gynlluniau ar waith a fydd yn eu gweld yn bodloni’r isafswm a argymhellir sydd yn ofynnol a gwella’r ddarpariaeth, y maent yn ei gynnig i gefnogwyr anabl ar hyn o bryd, ar gyfer y tymor nesaf.

Meddai Scott Duxbury, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Clwb Pêl Droed Watford:

'Mae Watford FC yn falch i gael y cyfle i rannu ei ymagwedd flaengar i wella hygyrchedd Stadiwm Vicarage Road â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

'Mae’r clwb yn gwerthfawrogi ymagwedd ar y cyd y Comisiwn, wrth i ni ymgymryd â gwelliannau pellach i fodloni ymrwymiad ASG yr Uwch Gynghrair.'

Meddai Tony Taylor, Cadeirydd Level Playing Field:

'Does dim amheuaeth y cymerodd y bygythiad gorfodi gan y Comisiwn i wthio newid yn rhai o’r clybiau, ond mae’r darlun cyffredinol yn bositif. Mae clybiau bellach yn cydnabod pwysigrwydd a buddion mynediad da a bu cynnydd ar draws yr holl gyfleusterau ar gyfer pobl anabl.

'Nid yw cefnogwyr anabl yn gofyn am driniaeth arbennig, maent yn dymuno’r un peth â phawb arall; i fedru troi fyny i’r maes, gwylio’r gêm, cael lluniaeth ysgafn, defnyddio’r toiledau a’r cyfleusterau, yna troi adref heb ormod o ffwdan. Does bosib nad yw hynny’n ormod i ofyn amdano yn 2018?'

Gwrthododd pedwar clwb arall lle mae angen gwelliant – Crystal Palace, Hull City, Manchester United a Sunderland – y cyfle i wneud cytundeb anffurfiol, ond maent wedi rhannu’u cynlluniau ar gyfer gwella.

Mae’r adroddiad yn cynnwys chwe argymhelliad i glybiau a busnesau eraill, dau i’r Uwch Gynghrair, un i gyrff llywodraethu eraill ac un i SGSA. Amlinella hefyd ymrwymiad y Comisiwn i:

  • weithio gyda Chelsea i sicrhau ei fod yn bodloni telerau’r cytundeb ffurfiol o dan adran 23 Deddf Cydraddoldeb 2010
  • gweithio gyda Burnley a Watford i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r camau y maent yn rhagweithiol wedi ymrwymo iddynt mewn cytundebau anffurfiol
  • monitro’r datblygiadau yn Crystal Palace, Hull City, Manchester United a Sunderland, ar ôl iddynt wrthod i wneud cytundebau, i sicrhau eu bod yn cyflawni’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • cwrdd â chyrff llywodraethu cynghreiriau pêl droed eraill a cheisio dylanwadu ar gyrff llywodraethu chwaraeon eraill fel eu bod hwythau hefyd yn cymryd rôl arweinyddiaeth gref ar y mater
  • ategu gwaith SGSA a cheisio dylanwadu ar ddiwygiad arfaethedig yr ASG

Daw pum diwrnod ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi canfyddiadau ei ymchwiliad cyfreithiol ffurfiol i dai hygyrch, Tai a phobl anabl: argyfwng cudd Prydain. Canfu’r ymchwiliad fod pobl anabl wedi’u gadael mewn magl ac yn rhwystredig gan ddiffyg dybryd o dai addas, a galwodd ar y llywodraeth i gyflwyno strategaeth genedlaethol i sicrhau bod cyflenwad digonol o dai’n cael eu hadeiladu i safonau dyluno cynhwysol.

Nodiadau i olygyddion

Canllaw Stadia Hygyrch

I helpu clybiau i ddod yn fwy hygyrch, cafodd yr Accessible Stadia Guide (ASG) ei gyhoeddi yn 2003 gan Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon (SGSA) a’i ddiweddaru yn 2015 o ran dyletswyddau clybiau o dan y Ddeddf. Maent yn rhoi cyfarwyddyd ar ddarpariaeth mannau i ddefnyddwyr cadair olwyn, amwynder a seddau hawdd eu cyrraedd (AEA), cyfleusterau Changing Places, toiledau a gwasanaethau hygyrch, ar ddileu rhwystrau synhwyraidd ac ar archwiliadau mynediad a chynlluniau gweithredu.

Read the report and recommendations

Darllenwch yr adroddiad a’r argymhellion

Canfyddwch ragor am ein gwaith ar fynediad i bobl anabl yng nghlybiau pêl droed yr Uwch Gynghrair neu darllenwch yr adroddiad llawn: Cyflwr y chwarae: cynnydd hygyrchedd clybiau’r Uwch Gynghrair

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)