Asiantaeth gofal yn cael ei harchwilio ynglŷn â chwestiynau iechyd cyn cyflogaeth

Cyhoeddwyd: 20 Jun 2019

Lansiom ymchwiliad i’r asiantaeth gofal Elite CarePlus Ltd, ar ôl cael tystiolaeth ei bod yn gofyn cwestiynau iechyd cyn cyflogaeth yn ystod ei phroses recriwtio a chofrestru.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr ofyn am iechyd neu anabledd ymgeisydd cyn i’r swydd gael ei chynnig iddynt, neu cyn iddynt gael eu cynnwys mewn cronfa ymgeiswyr llwyddiannus i gael cynnig y swydd yn ddiweddarach, ac eithrio sefyllfaoedd penodol.

Mae hyn yn sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael y cyfle i arddangos bod y sgiliau a’r gallu perthnasol ganddynt i wneud y swydd, heb gael eu sgrinio allan.

Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

'Os ydych yn anabl, gwyddom eich bod yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn y gweithle, ac allgau sylweddol o’r farchnad lafur. Os ydych yn gweld swydd yr ydych yn gymwys iddi, ni ddylech roi’r gorau iddi os gofynnir cwestiynau manwl a diangen i chi am eich iechyd.

'Mae angen i ni herio gwahaniaethu i sicrhau y gall pawb wireddu’u hawl i weithio. Ac er mwyn cael y gymdeithas lewyrchus y dymunwn gael yn y wlad hon, mae angen amgylchedd weithio arnom sy’n caniatáu i bawb gyflawni’u potensial.'

Caiff yr ymchwiliad ei gynnal o dan adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2006.

Darllenwch y cylch gorchwyl llawn ar gyfer yr ymchwiliad i Elite CarePlus Limited, 39KB (Word).

 

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)