Cyhoeddwyd: 11 Oct 2018
Mae tri chwarter o bobl ym Mhrydain yn cytuno y dylai fod cydraddoldeb i bawb, ond mae rhagfarn dan yr wyneb ac agweddau negyddol tuag at eraill, o hyd, yn gyffredin yn ein cymdeithas, medd corff cydraddoldeb y Deyrnas Unedig.
Er bod tri chwarter o bobl (74%) yn cytuno y dylai fod cydraddoldeb i bob grŵp, canfu arolwg eang gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod 42% o Brydeinwyr wedi dioddef rhyw ffurf o ragfarn yn y 12 mis diwethaf. Mae hefyd wrthwynebiad at wella cyfleoedd cyfartal i grwpiau megis mewnfudwyr a Mwslimiaid.
Datgelodd yr arolwg fod mwy o bobl wedi mynegi’n agored, deimladau negyddol tuag at Sipsiwn, Roma a Theithwyr (44%), Mwslimiaid (22%) a phobl drawsryweddol (16%), na thuag at bobl hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol (9%), pobl yn hŷn na 70 oed (4%) a phobl anabl ag amhariad corfforol (3%).
Roedd y gwahaniaethu i weld yn amrywio o ran difrifoldeb gan ddibynnu ar ba grŵp gwarchodedig yr oedd yn ymwneud ag ef: gwelodd 70% ragfarn ar sail hil fel mater braidd yn ddifrifol iawn neu ddifrifol dros ben, ond dim ond 44% oedd yn meddwl yr un fath am ragfarn ar sail oedran.
Amlygodd yr arolwg hefyd fodolaeth ffurfiau mwy cynnil o ragfarn, megis agweddau nawddoglyd neu stereoteipio. Er enghraifft, dim ond 25% oedd yn ystyried pobl ag amhariadau corfforol fel aelodau galluog ac roedd 34% yn eu hystyried â thosturi.
Roedd agweddau tuag at iechyd meddwl hefyd yn dangos darlun cymhleth. Awgrymodd bron i ddau draean nad oedd ymdrechion i ddarparu cyfleoedd cyfartal i’r rheini â chyflyrau iechyd meddwl ‘wedi mynd yn ddigon pell’ (63%), ond mynegodd chwarter bryder o gael person â chyflwr iechyd meddwl fel bos iddyn nhw (25%) neu ddarpar aelod teuluol (29%).
Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
'Mae’n galonogol bod cymaint o bobl yn cytuno y dylai fod cydraddoldeb i bawb, ond siomedig yw gweld bod cryn nifer o bobl eraill o’r farn bod amddiffynfeydd i rai grwpiau wedi mynd yn rhy bell. Mae’n glir bod rhai pobl o hyd yn anghyson ynglŷn â chydraddoldeb a bod rhagfarnau o hyd yn gallu meithrin gwahaniaethu ym Mhrydain.
'Mae’n ofid i mi bod rhai pobl yn teimlo’n gysurus wrth fynegi barnau negyddol am bobl eraill - yn enwedig aelodau o’r cymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr, Mwslimiaid a phobl drawsryweddol. Gall lleisio agweddau negyddol yn agored rwystro trafodaeth adeiladol ynghylch y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu ac yn creu rhaniadau a drwgdybiaeth yn ein cymdeithas.
'Mae deall agweddau pobl a maint y rhagfarn ym mhob un o’i ffurfiau yn allweddol i ddileu’r anawsterau sydd yn rhwystro pobl rhag llwyddo. Amlinella’r adroddiad hwn fodel dichonadwy yr ydym o’r farn y dylai’r llywodraeth ei ddatblygu i ddeall cyflwr cyfredol rhagfarn a gwahaniaethu ym Mhrydain.
'Nid yw mantais un person yn golygu bod eraill ar eu colled. Pe bai pawb yn cael cyfle teg mewn bywyd, byddem oll yn ffynnu.'
Mae canfyddiadau eraill yn cynnwys:
- roedd oddeutu traean o oedolion ym Mhrydain o’r farn bod ymdrechion i ddarparu cyfleoedd cyfartal wedi mynd ‘yn rhy bell’ o ran mewnfudwyr (37%) a Mwslimiaid (33%)
- roedd oddeutu un o bob pum atebwr wedi sôn y bydden nhw’n teimlo’n annifyr pe bai naill ai mewnfudwr neu berson Mwslimaidd yn byw drws nesaf iddyn nhw (19% a 18% yn y drefn honno), a dywedodd 14% y bydden nhw’n teimlo’n annifyr pe bai person trawsryweddol yn byw drws nesaf iddyn nhw
- yn y flwyddyn a aeth heibio, roedd 70% o’r Mwslimiaid a holwyd wedi dioddef rhagfarn ar sail crefydd, roedd 64% o bobl o gefndiroedd du ethnig wedi dioddef rhagfarn ar sail hil, roedd 61% o bobl â chyflwr iechyd meddwl wedi dioddef rhagfarn ar sail anabledd ac roedd 46% o lesbiaid a phobl hoyw neu ddeurywiol wedi dioddef rhagfarn homoffobig
- mae’r rheini dan 35 oed yn fwy tebygol o ddioddef rhagfarn ar sail oedran na’r sawl 35 i 54 oed neu’r sawl yn hŷn na 55 oed (39% o’i gymharu â 22% a 20% yn y drefn honno)
Bydd yr adroddiad yn eistedd ochr yn ochr â thystiolaeth ar gyfer ein hadolygiad mwyaf cynhwysfawr o gyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ar fin gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis, bydd ‘A yw Prydain yn Decach? 2018’ yn mesur cynnydd y wlad wrth greu cymdeithas deg a chyfartal i bawb, gan asesu cynnydd ym myd addysg, iechyd, safonau byw, cyfiawnder a diogelwch, gwaith a chyfranogiad ym maes gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.
Nodiadau i olygyddion
- comisiynom yr ymchwil hwn gan NatCen ac ymgymerwyd ag ef gan Brifysgol Caint, Canolfan ar gyfer Astudio Prosesau Grŵp a Birkbeck, Prifysgol Llundain
- yr arolwg eang oedd yr arolwg cenedlaethol cyntaf i archwilio maint rhagfarn mewn mwy na degawd. Mae’n mesur rhagfarn a gwahaniaethu ym Mhrydain a gafodd ei ddioddef gan bobl ag ystod eang o nodweddion gwarchodedig: oed, anabledd, hil, rhyw, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, ac ailbennu rhywedd
- clywodd yr arolwg gan 3,000 o bobl o’r bron i ddeall eu profiadau o ragfarn ac agweddau tuag at grwpiau gwahanol
- mae canfyddiadau yn ymwneud â phrofiadau gwahaniaethu ymysg Mwslimiaid, pobl o gefndiroedd du ethnig, pobl â chyflwr iechyd meddwl a lesbiaid a phobl hoyw a deurywiol yn defnyddio data o arolwg llai, ychwanegol heb debygolrwydd (arolwg a dargedwyd at grwpiau penodol yn hytrach na sampl ar hap o gyfranogwyr). Cafodd yr arolwg ei gynnal law yn llaw â’r prif arolwg i ddal profiadau gwahaniaethu ymysg grwpiau lleiafrifol na fyddai fel arall wedi’u cynrychioli’n dda yn yr arolwg. Mae’n bwysig gwybod hyn wrth ddehongli’r data