Prydain mewn perygl o ddod yn gymdeithas ddau gyflymder

Cyhoeddwyd: 25 Oct 2018

Mae Prydain mewn perygl o ddod yn gymdeithas ddau gyflymder, gyda rhai grwpiau wedi’u gwahardd rhag ffyniant a hawliau mae eraill yn eu mwynhau.

Mae grwpiau pobl mwyaf dan risg Prydain mewn perygl o gael eu hanghofio a’u dal o dan anfantais, rhybuddia corff cydraddoldeb Prydain yn ein hadroddiad cynhwysfawr ar gyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.

Canfuom fod cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd wedi’i gysgodi gan gamau tuag yn ôl dychrynllyd.

Mae’r disgwyliadau ar gyfer pobl anabl, rhai lleiafrifoedd ethnig, a phlant o gefndiroedd tlotach wedi gwaethygu mewn sawl maes bywyd. Mae perygl i’r anghydraddoldeb hwn hen galedu am genedlaethau i ddod, gan greu cymdeithas ddau gyflymder lle caiff y grwpiau hyn eu gadael ar ôl yn y daith at wlad deg a chyfartal.

Datgela’r adroddiad hefyd ddirywiad ym maes mynediad i gyfiawnder a’r amodau y dioddefodd pobl yn y ddalfa ers yr adolygiad diwethaf yn 2015.

A yw Prydain yn Decach? 2018 yw’r gwerthusiad mwyaf o gynnydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain Fawr, gan gwmpasu chwe maes bywyd:

  • addysg
  • iechyd
  • safonau byw
  • cyfiawnder a diogelwch personol
  • gwaith
  • cyfranogi ym maes gwleidyddiaeth, a bywyd cyhoeddus a chymunedol

Fel yr adolygiad olaf cyn i’r DU adael yr UE, a chyda bron degawd o ddata i fyfyrio arno, darpara’r asesiad hwn linell sylfaenol i fesur cynnydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol wedi Brexit.

Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

'Mae Prydain yn wynebu eiliad diffiniol wrth geisio gwireddu cydraddoldeb. Gwelom rai meysydd cynnydd arwyddocaol, yn enwedig wrth wella cyfleoedd ym maes addysg ac yn y gwaith, yn ogystal â’r ffaith bod mwy o bobl bellach yn ymwneud â gwleidyddiaeth. Fodd bynnag, mewn cenedl sydd eisoes yn rhanedig, mae rhai bylchau annerbyniol yn parhau i gynyddu. Ar draws gryn nifer o feysydd bywyd, mae’r colledwyr yn ei chael yn anodd gwneud unrhyw gynnydd mewn cymdeithas lle bo rhwystrau sylweddol yn dal yn parhau. Y nhw yw’r bobl sydd wedi’u hanghofio a’u gadael ar ôl, ac oni bai i ni weithredu, fe gymeriff o leiaf cenhedlaeth cyn i ni allu unioni pethau.

'Bydd gwirionedd Brexit gyda ni yn nyddiau cynnar y flwyddyn nesaf ac mae’n hadolygiad yn darparu meincnod y gallwn yn ei erbyn, fesur effaith gadael yr UE ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae Brexit yn cyflwyno cyfle gwirioneddol i drafod a diffinio’r math o wlad rydym ei heisiau. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn cyfiawnder, rhyddid a thosturi; nodweddion sy’n diffinio’n gwlad a dylent fod yn egwyddorion arweiniol i ni mewn byd sy’n gynyddol newid. Os oes gan bawb gyfle teg mewn bywyd, bydd ein cymdeithas yn ffynnu.'

Mae’r canfyddiadau pwysig yn yr adroddiad yn cynnwys:

Gwelliannau

Bu gwelliannau ym maes addysg, cyfranogiad gwleidyddol a gwaith. Mae mwy o blant bellach yn perfformio i’r safonau gofynnol yn yr ysgol. Mae mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig yn ennill cymwysterau lefel gradd ac mae mwy o bobl o ardaloedd difreintiedig yn mynd i brifysgol. Mae mwy o fenywod, pobl ddu a phobl Pacistanaidd mewn cyflogaeth a mwy o bobl - gan gynnwys menywod - mewn uwch swyddi. Mae rheoliadau newydd wedi gorfodi tryloywder ynglŷn â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd bellach yn dechrau cau. Mae pobl hefyd yn ymwneud yn fwy â gwleidyddiaeth a phleidleisio. Mae mwy o bobl ar-lein, lle’n gynyddol y mae gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddigidol. Mae’r gweithgaredd ar-lein yn cynyddu fwyaf i bobl anabl a phobl hŷn a oedd gynt wedi’u hallgau’n fwy.

Pobl anabl

Mae pobl anabl fodd bynnag yn cael eu hallgau’n gynyddol o brif ffrwd y gymdeithas, ym maes addysg i ddechrau a bydd yn parhau hyd yn ddiweddarach yn eu bywydau. Mae’r bwlch cyflog ar sail anabledd yn parhau ac mae’r tebygolrwydd o bobl anabl mewn swyddi isel eu cyflog wedi cynyddu. Bydd pobl anabl yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, byddant yn wynebu iechyd salach a diffyg mynediad i dai addas. Bu cynnydd llym o ran troseddau casineb a gofnodwyd ar sail anabledd a bydd pobl anabl yn dioddef cyfraddau uchel o gam-drin domestig ac ymosodiadau rhywiol yng Nghymru a Lloegr.

Lleiafrifoedd ethnig

Mae pobl o rai lleiafrifoedd ethnig, megis pobl Indiaidd, wedi parhau i lwyddo ym myd addysg ac yn y gwaith. Ond pobl Ddu Affricanaidd, pobl Fangladesiaidd a Phacistanaidd sydd yn dal i fod y mwyaf tebygol o fyw mewn tlodi, ac maent, ochr yn ochr â phobl Ddu Caribïaidd, yn fwy tebygol o ddioddef amddifadedd enbyd, sydd yn niweidio’u hiechyd a’u gobeithion addysg a gwaith. Mae gan rai lleiafrifoedd ethnig mynediad salach i ofal iechyd a chyfraddau uwch o farwolaethau babanod, ac mae diffyg ymddiriedaeth gan bobl ddu yn y system cyfiawnder troseddol. Wyneba Sipsiwn, Roma a Theithwyr anfanteision lluosog, gan gynnwys cyflawni cyrhaeddiadau addysgol is na’r cyffredin, yn dioddef anawsterau wrth gael mynediad i ofal iechyd, iechyd gwaeth, ac yn aml bydd ganddynt dai isel eu safon.

Safonau byw

Mae tlodi plant wedi cynyddu ac mae marwolaethau babanod wedi cynyddu am y tro cyntaf mewn degawdau. Mae diwygiadau lles a threthi yn parhau i effeithio’n anghymesur ar y tlotaf yn y gymdeithas, yn ogystal â rhai lleiafrifoedd ethnig, menywod a phobl anabl ac maent yn gwanhau’r rhwyd diogelwch ar gyfer y sawl na all weithio neu wedi’u dal mewn gwaith isel ei dâl neu waith ansicr. Mae digartrefedd hefyd ar gynnydd. Er gwelliannau o ran cyrhaeddiad ysgol i ran fwyaf o blant, mae’r rheini o gefndiroedd incwm isel a phlant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cyflawni canlyniadau arholiad is na’r cyffredin ac maent yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ysgol, ac mae pobl ifanc tlotach yn llai tebygol o fynd i brifysgol.

Cydraddoldeb menywod

Er bo cydraddoldeb menywod wedi cynyddu’n arwyddocaol mewn rhai ffyrdd, mae cryn nifer o ffactorau o hyd yn dal menywod yn ôl yn y gwaith, rhai yn deillio o stereoteipiau rhywedd yn yr ysgol. Mae bwlio ac aflonyddu rhywiol yn eang yn y gweithle ac mewn addysg. Mae trais rhywiol a thrais domestig yn ofid cynyddol a pharhaus sydd yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.

Cyfiawnder a diogelwch personol

Rydym wedi gweld cam amlwg yn ôl o ran cyfiawnder a diogelwch personol ers y gwelliannau y canfuom yn ein hadolygiad yn 2015. Yn sgil gostyngiadau i gymorth cyfreithiol a newidiadau i’r system gyfreithiol nid yw cryn nifer o unigolion yn gallu cael mynediad i gyfiawnder. Bu hefyd ddirywiad mewn amodau cadw, gyda mwy o achosion o hunan niweidio ac ymosodiadau a chyda gorlenwi mewn carchardai yn peryglu carcharorion.

Gwna A yw Prydain yn Decach? nifer o argymhellion i lywodraethau a sefydliadau eraill i daclo’r materion a nodwyd yn yr adroddiad a chefnogi mwy o gydraddoldeb ym Mhrydain. Bydd ein canfyddiadau hefyd yn cyfrannu gwybodaeth i’n rhaglen waith ar gyfer y tair blynedd nesaf, y byddwn yn ymgynghori arni’r wythnos nesaf.

Read the full report

Darllen yr adroddiad llawn

Darllen A yw Prydain yn Decach? 2018.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)