Diffyg uchelgais yng nghynlluniau Brexit ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol

Cyhoeddwyd: 20 Mar 2017

Mae cynlluniau Brexit y Llywodraeth yn dangos diffyg uchelgais ar gyfer safonau cydraddoldeb a hawliau dynol, rhybuddiodd Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac.

Wrth gyhoeddi cynllun 5 pwynt ar sut y gellir cynnal a chryfhau statws Prydain fel arweinydd byd eang ar gydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, galwodd Mr Isaac ar y llywodraeth i amlinellu’i gweledigaeth ar gyfer Prydain decach, unwaith i ni adael yr UE ac arddangos sut fydd yn cymryd cyfle unwaith ac am byth i greu cymdeithas a rennir a chyfannu’r rhwygiadau a ddaeth i’r amlwg yn ystod ac wedi ymgyrch y refferendwm.

Mae’r cynllun 5 pwynt yn cynnwys:

  • diogelu sofraniaeth seneddol dros fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol y DU
  • cadw fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol y DU wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd
  • sicrhau bod y DU yn arweinydd byd eang ar gydraddoldeb a hawliau dynol
  • diogelu is-adeiledd cydraddoldeb a hawliau dynol y DU
  • hybu’r DU fel lle agored a theg i fyw a chynnal busnes ynddi

Meddai David Isaac:

“Rydym wedi cael galwadau am bob math o Frexit. Brexit ysgafn, Brexit llym a Brexit coch, gwyn a glas. Does neb yn siarad am Frexit teg – un a fydd yn cyfuno’r wlad a’n harwain tuag at gymdeithas a rennir yn seiliedig ar degwch a pharch rhwng y naill i’r llall y mae’r Prif Weinidog wedi sôn amdani.

“Ar unrhyw groesffordd mae penderfyniadau pwysig i’w gwneud. Gallwn naill ai ag amlinellu’r gofynion positif i gynnal ein traddodiadau o barch i gydraddoldeb a hawliau dynol a bod yn wlad sydd mewn gwirionedd yn ystyried pawb, neu gallwn golli’r cyfle euraidd hwn i arddangos sut y gall Prydain ar ôl Brexit greu Prydain decach ac un fwy unedig.”

Wrth amlinellu’r camau y gall y llywodraeth eu cymryd i greu Prydain decach unwaith i ni adael yr UE, mae’r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:

  • diystyru’r defnydd o’r pwerau 'Henry VIII' bondigrybwyll i ddiddymu neu newid cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol heb gymeradwyaeth y Senedd
  • dod â phob rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sydd heb ei roi ar waith eto i mewn i’r gyfraith
  • cyflwyno hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb y gellir profi pob cyfraith a gweithred y llywodraeth yn ei herbyn
  • rhaid i bob cytundeb masnach llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig gynnwys cymal hawliau dynol a democratiaeth i helpu symud cydraddoldeb a hawliau dynol yn eu blaen
  • sicrhau y gall sefydliadau cydraddoldeb sydd yn dibynnu ar arian gan yr UE, megis sefydliadau pobl anabl, gadw i redeg
  • cynnwys pob cyfamod hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, megis y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, yng nghyfraith llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, a llunio cynllun gweithredu sydd yn egluro sut y bydd argymhellion y CU yn cael eu gweithredu.

Aeth Mr Isaac ymlaen i sôn:

“Mae marchnadoedd a chytundebau masnach yn hynod o bwysig, ond ni ddylai’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol fod yn economaidd gul. Bydd ein heconomi a’n cymdeithas ill dau yn gryfach ym Mhrydain pan gaiff pawb eu trin yn deg a lle gallan nhw gyflawni i’w llawn botensial. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri pryder mawr a dylai’r llywodraeth fynd ymhellach i uno’r wlad drwy amlinellu gweledigaeth bositif ar gyfer Prydain ar ôl Brexit. Rhaid sefydlu’r weledigaeth honno ar barch ar ein gwerthoedd a rennir o ran goddefgarwch a pharch rhwng y naill i’r llall.”

“Bydd y cynllun rydym wedi’i lansio heddiw, os caiff ei roi ar waith, yn helpu’r llywodraeth i gymryd camau i unioni anghyfiawnder a thaclo annhegwch i greu gwlad sydd yn gweithio i bawb.”

Meddai Ali Harris, Prif Swyddog Gweithredol y Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (EDF):

“Mae EDF yn cefnogi’r alwad am weledigaeth bositif o Deyrnas Unedig sydd yn gynhwysol ac yn wynebu tuag allan ar ôl i ni adael yr UE, a chynllun i wireddu’r weledigaeth.

“Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn allweddol ar gyfer cymdeithas fodern lle gallwn fyw a gweithio’n llwyddiannus gyda’n gilydd, a lle gallwn fanteisio i’r eithaf ar gyfraniadau a doniau pawb. Maen nhw’n greiddiol i ryddid ac amddiffynfeydd yr ydym ni oll yn dibynnu arnyn nhw ac sydd yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd.

“Mae’r camau sydd yn cael eu cynnig gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn bwysig ac yn amlygu’r meysydd allweddol y dylwn eu trafod fel rhan o broses Brexit.” 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)