Cyhoeddwyd: 07 Feb 2017
Wrth i’r Senedd drafod y Bil i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac, wedi galw am gynnwys asesu effaith ar hawliau dynol:
“Wrth i drafodaethau ddechrau dros amodau Brexit, rhaid i unrhyw delerau a gytunir arnyn nhw gael eu hasesu am eu heffaith ar hawliau pobl. Bu ein neges yn glir, na ddylid rhwyfo’n ôl ar amddiffyn hawliau pobl, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn galw am i asesiadau effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol pob cynnig deddfwriaethol perthnasol gael ei gyflwyno i’r Senedd, fel y cymerir cyfrif o bob tystiolaeth, sydd ei hangen i sicrhau bod yr amddiffynfeydd hyn yn cael eu cynnal.”
Ceir manylion pellach o’n barn ar effaith Brexit yn ein tystiolaeth i’r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb a’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol.