Ceiswyr lloches ym Mhrydain yn methu cael mynediad i ofal iechyd

Cyhoeddwyd: 29 Nov 2018

Mae costau ac ofnau ynglŷn â sut gânt eu trin, neu ganlyniadau ar gyfer eu statws mewnfudo, yn atal pobl rhag ceisio am wasanaethau iechyd neu gwrthodir lloches iddynt, canfu adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan symbylu galwad am gadw’r systemau mewnfudo a gofal iechyd yn fwy ar wahân.
 
Archwilia ein hymchwil newydd, a gyhoeddwyd heddiw, brofiadau pobl sydd yn neu wedi bod yn y broses ceisio lloches ym Mhrydain, yn ogystal ag ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a dadansoddi ymchwil sydd eisoes yn bodoli.

Canfu’r prosiect rai arferion cadarnhaol, megis staff meddygol yn dangos empathi a thosturi, unigolion yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau cwnsela ac elusennau yn gweithredu fel rhaff achub ar gyfer y sawl yn ceisio llywio ei ffordd trwy’r systemau ceisio lloches a gofal iechyd. Fodd bynnag, nododd hefyd nifer o anawsterau gyda’r system presennol, nifer ohonynt yn effeithio’n arbennig ar bobl sydd angen mynediad rheolaidd i wasanaethau gofal iechyd, megis menywod beichiog a phobl anabl.  
 
Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

'Dylai fod gan bawb fynediad i ofal iechyd o ansawdd da, waeth pwy ydynt neu o ble y deuant. Mae’n debygol y bydd gan bobl, sydd yn ceisio lloches neu gwrthodwyd ef iddynt, anghenion iechyd arbennig oherwydd profiadau trallodus yn y gorffennol ac effeithiau ysgytiol o ffoi i wlad wahanol. Mae’n hanfodol felly eu bod yn gallu cael mynediad llawn a hawdd i ofal iechyd a bod eu hawliau’n cael eu hamddiffyn drwy gadw gofal iechyd a gorfodaeth mewnfudo ar wahân. Yn syml, dyngarwch cyffredin ydyw.

'Anogwn Lywodraeth y DU a darparwyr gofal iechyd i adolygu’r ymchwil newydd hwn a gweithredu ar ein hargymhellion i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn ddiwylliedig briodol, yn hygyrch i bawb a bod staff wedi’u hyfforddi i adnabod ac ymateb i anghenion penodol cleifion sydd ar y cyrion.'

Roedd rhwystrau cyson i ofal iechyd a nodwyd gan yr ymchwil yn cynnwys:

Costau cysylltiedig

Nid oes modd gan lawer o geiswyr lloches i fforddio’r costau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, megis teithio a phresgripsiynau. Er enghraifft, wynebodd ceisiwr lloches feichiog a oedd angen gwiriadau ysbyty rheolaidd gostau teithio oddeutu £20, tra siaradodd unigolyn arall o allu fforddio costau bwyd a phersgripiwn yn unig: 'Yn aml, ni fyddai fy ngŵr yn cymryd ei foddion. Doedd e ddim am ei gyfnewid ef am fwyd. Rwy’n meddwl bod llawer o’u gyflyrau bellach mewn cyflwr go wael.'

Polisi codi pris y GIG

Gwnaeth polisi codi pris y GIG yn Lloegr ofal iechyd yn rhy ddrud i lawer o bobl y gwrthodwyd lloches iddynt ac achosodd ddryswch ynglŷn ag yw unigolion yn gymwys i gael gofal iechyd am ddim neu beidio. Meddai menyw yn Llundain y gwrthodwyd lloches iddi: ‘Ches i fyth unrhyw ofal mamolaeth, neu unrhyw ofal arall yn gyffredinol yn ystod fy meichiogrwydd. Roeddwn i mor ofnus fel na ofynnais ynglŷn â gofal beichiogrwydd. Yn sgil bod yn rhan o’r system, byddem wedi cael costau yn fy erbyn’

Rhannu data gyda’r Swyddfa Gartref

Roedd ceiswyr lloches yn gofidio y gallent, efallai, gael eu harestio, eu cadw yn y ddalfa neu eu hanfon o’r wlad yn sgil rhannu eu data gyda’r Swyddfa Gartref. Siaradodd un unigolyn am ei hofn ac ofn ei gŵr y byddai’u gwybodaeth yn cael ei rhannu nid yn unig gyda’r Swyddfa Gartref ond o bosib hefyd gydag awdurdodau yn eu mamwlad a fu’n gyfrifol am arteithio’i gŵr: 'Roedd fy ngŵr yn dioddef llewygon a chlefyd y galon, ond roeddem yn ofni’n wirioneddol i fynd i’r ysbyty. Doedden ni ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd petawn yn mynd yno  a nhw yn gwirio’n statws gwneud cais. Felly roedd adegau pan oeddem yn penderfynu aros gartref a pheidio mynd.'

Gwasgariad heb ddewis

Caiff llety ei ddyrannu gan y Swyddfa Gartref i’r rhan fwyaf o geiswyr lloches a gallant gael eu symud heb ddewis, sydd yn tarfu ar barhad y gofal iechyd a’r rhwydweithiau cymdeithasol y maent yn dibynnu arnynt. Cafodd un unigolyn ei hail-leoli ychydig ar ôl iddi gael llawdriniaeth eang ar ei chalon, ac er i’w chardiolegwr godi gwrthwynebiadau.

Diffyg gwybodaeth

Roedd diffyg gwybodaeth gan rai gweithwyr proffesiynol iechyd ar hawliau a chymhwyster ceiswyr lloches i ofal iechyd. Er enghraifft, dywedwyd wrth un unigolyn a geisiodd gofrestru gyda meddyg teulu “Dydyn ni ddim yn derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches, dyna yw’n polisi". Mewn ffaith, mae hyn yn anghyfreithlon.

Cyflyrau iechyd

Roedd rhai yn gofidio y byddai’u cyflyrau iechyd, yn arbennig y rheini a ystyrir yn rhai sy’n stigmateiddio megis HIV neu gyflyrau iechyd meddwl, yn cael eu hystyried yn y broses ceisio lloches

Profiadau trawmatig

Canfu’r bobl a oedd wedi dioddef profiadau cyn mudo trawmatig hi’n anodd meithrin ymddiriedaeth mewn gweithwyr proffesiynol iechyd. Dywedodd un ei bod yn osgoi gwasanaethau iechyd ar ôl i’w chais cofrestru gael ei wrthod gan dderbynnydd ar gyfer apwyntiad ar frys, derbynnydd a ddywedodd wrthi: “Pam rwyt ti’n gofidio? Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi tŷ i ti, ac arian ar gyfer bwyd”.

Rhwystr iaith

Nid oedd gwybodaeth a ddarparwyd i geiswyr lloches bob amser yn gywir neu mewn iaith neu fformat y roeddent yn ei ddeall, ac yn aml ni ddarparwyd cyfieithydd, a oedd yn golygu nad oedd llawer ohonynt yn ymwybodol o’u hawliau a sut i’w mynnu. Profodd un unigolyn a oedd wedi ymgymryd ag anffurfio organau cenhedlu benywod heriau wrth ddeall cymhlethdodau’i beichiogrwydd a’r gofal iechyd penodol yr oedd ei angen arni.

Rydym wedi ’gwneud nifer o argymhellion i'r Llywodraeth, gan gynnwys darfod rhannu data rhwng darparwyr gofal iechyd a’r Swyddfa Gartref ac esgusodi’r rheini oll yn y broses ceisio lloches rhag costau GIG yn Lloegr, yn unol â Chymru a’r Alban. Rydym hefyd am i’r Swyddfa Gartref sicrhau bod anghenion iechyd yn cael eu hystyried wrth ddarparu llety, yn enwedig i bobl anabl a menywod beichiog.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion ymarferol ar gyfer darparwyr gofal iechyd ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys sicrhau gwybodaeth hygyrch eglur am hawliau pobl sy’n ceisio lloches a’r rhai y gwrthodwyd lloches iddynt, darparu cyfieithwyr proffesiynol a chynyddu gwybodaeth staff am hawliau pobl.

Meddai Dr Katherine Taylor, meddyg teulu a chynghorydd iechyd i Doctors of the World:

'Mae pobl sy’n ceisio lloches wedi ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro neu erledigaeth. Bydd llawer wedi dioddef profedigaeth neu wedi’u gwahanu o’u teulu a’u hanwyliaid, ac mae rhai wedi mynd am gyfnodau hir heb unrhyw ofal iechyd. Wrth iddynt gyrraedd yn y DU yn edrych am ddiogelwch, mae’n hanfodol y gallant gael y gofal iechyd sydd ei angen arnynt.

'Mae angen i bawb o fewn cymdeithas gael mynediad i ofal iechyd. Nid mater o hawliau dynol ac urddas yw’n unig, synnwyr cyffredin sylfaenol yw. Mae angen i fenywod beichiog weld bydwraig, mae angen brechiadau ar blant ac mae angen meddyg teulu ar bobl â chyflyrau cronig. Gwyddom ei bod yn rhatach ac yn llai dwys o ran adnoddau i’r GIG weld cleifion yn y dyddiau cynnar, i ddarparu gofal iechyd ataliol a thrin heintiau cronig cyn i bobl ddatblygu cymhlethdodau. Dim ond achosi mwy o broblemau yn y tymor hir y mae polisïau sy’n atal pobl rhag cael mynediad i wasanaethau’r GIG.'

Byddwn cyn hir yn cyhoeddi canllaw ymarferol i hawliau ceiswyr lloches i ofal iechyd ym mhob cam y broses ceisio lloches, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer gwella arfer yn unol ag egwyddorion hawliau dynol i ddarparwyr gofal iechyd a darparwyr llety a chymorth i geiswyr lloches.

 

Nodiadau i olygyddion

Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan Doctors of the World ac Imperial College Llundain, ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Darllen mwy ynglŷn â’n gwaith ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mewnfudo.

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)