Araith: Digwyddiad lansio adroddiad Cymdeithas Sifil Sefydliad Hawliau Dynol Prydain

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 23 Sep 2016

Traddodwyd ar: 22 Medi 2016
 (Cyfieithiad o drawsgrifiad yr araith, yn union fel y’i traddodwyd)

Pleser o’r mwyaf yw bod yma heno i siarad ar ran y Comisiwn.

Diolch i Sefydliad Hawliau Dynol Prydain (BIHR) am fy ngwahodd i siarad am waith y Comisiwn ar yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR), ac am weithio gyda ni i gefnogi cymdeithas sifil wrth lunio’r adroddiad yr ydym yn ei ddathlu heddiw.

Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd â’n hasesiad ein hunain, yn rhoi darlun annibynnol, cadarn yn seiliedig ar dystiolaeth i’r Cenhedloedd Unedig o’r sefyllfa ar hyn o bryd a’r hyn sydd angen ei wneud eto i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu diogelu’n well.

Bil Hawliau Prydeinig a pheidio â llithro’n ôl

Yr un fath â chi i gyd, rwy’n cadw llygad barcud ar gynigion sydd ar ddod y llywodraeth ar gyfer Bil Hawliau Dynol newydd. Mae’r Comisiwn yn ystyried bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn ddarn o ddeddfwriaeth a gafodd ei llunio’n dda.

Mae’n cynnal sofraniaeth seneddol a rôl elfennol i lysoedd domestig wrth ddehongli’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR). Yn ei sgil daeth mwy o ansawdd ac atebolrwydd o ran cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus. Ac, yn bwysig, mae wedi’i gweu i’r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y DU, ac yn ganolog i ddatganoli yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae fy neges i’r llywodraeth yn glir. Rhaid i unrhyw newidiadau arfaethedig i gyfraith hawliau dynol beidio â gwanhau’r diogelwch yr ydym oll yn ei fwynhau, na pheryglu ein hanes nodedig o gynnal hawliau dynol, na symud y wlad yn ôl.

Deddf Hawliau Dynol “plws”

Rydym oll yn gwybod bod bob amser le i wella unrhyw ddeddfwriaeth. Cyrchnod sylfaenol y Comisiwn yw gwireddu Deddf Hawliau Dynol “plws”. Dim ond yr wythnos ddiwethaf, cafodd y Comisiwn drafodaeth ddefnyddiol iawn gyda’r Cyd Bwyllgor ar Hawliau Dynol (JCHR) am effaith ymarferol statws uwch i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ym maes cyfraith ddomestig.

Rydym yn gweithio gyda rhai o’r sefydliadau sydd yma heddiw ar welliant arfaethedig i’r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol a fyddai’n cyflwyno gofyniad i roi sylw dyledus i hawliau plant, ar sail debyg i ddarpariaethau deddfwriaethol yng Nghymru a’r Alban. Rydym yn croesawu penderfyniad y JCHR i gynnal ymchwiliad llawn i hyn a materion hawliau plant eraill.

‘Brexit’ a hawliau dynol

Siaradom â JCHR hefyd am effaith ‘Brexit’ ar hawliau dynol. Er nad yw canlyniad y refferendwn yn ei hunan yn newid y Ddeddf Hawliau Dynol na’r Confensiwn Ewropeaidd y seilir hi arno, mae yn codi cwestiynau pwysig am y berthynas rhwng y DU a gwledydd eraill yn Ewrop a gweddill y byd, ac yn, allweddol, pa fath o wlad yr ydym am iddi fod.

Rydym i gyd yn pryderu’n ddirfawr am y cynnydd ym maes troseddau casineb ers y refferendwm, ac yn enwedig gan lofruddiaeth hurt y gweithiwr ffatri Bwylaidd, Arek Jozwik, yn Harlow mis diwethaf.

A chan ein hymateb cenedlaethol siomedig i’r argyfwng ffoaduriaid yn y Dwyrain Canol ac ar draws Ewrop. Mae angen clir i gynnal cydweithio traws-ffin i sicrhau bod hawliau pobl sy’n mudo yn cael eu parchu a’u diogelu.

Mae’r traddodiad Prydeinig o barchu hawliau dynol a bod yn ddinasyddion byd da wedi ysbrydoli llawer o wleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Ceidwadwyr Winston Churchill a wthiodd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei flaen, a llywodraeth Lafur a ddaeth â’r hawliau cyffredinol hynny adref – gyda chefnogaeth drawsbleidiol  – drwy’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Gwarchod yr hawliau cyfreithiol hyn yw ein rôl, a bydd ymchwiliad newydd y JCHR ar oblygiadau hawliau dynol ‘Brexit’ yn darparu cyfle i ni ddefnyddio ein dylanwad ar y cyd, tystiolaeth galed a dadleuon grymus i adeiladu cydsyniad trawsbleidiol i sicrhau na fyddwn yn camu’n ôl, ond yn ychwanegu amddiffynfeydd newydd lle y gallwn.

UPR a gwaith y Comisiwn ar gyfamodau

Sy’n dod â fi i’n hadroddiad UPR ein hunain a gaiff ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Yn gyntaf, rhaid i mi ddweud y bu’n gyfnod prysur dros ben i’n tîm monitro cyfamodau gyda record y DU ar hybu a diogelu hawliau cymdeithasol economaidd, a hawliau plant a lleiafrifoedd ethnig i gyd yn cael eu harchwilio’r haf hwn. Ar hyn o bryd rydym yn paratoi ar gyfer archwiliad y Pwyllgor ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD) y flwyddyn nesaf yr ydym wedi aros yn hir amdano, gan gynnwys cefnogi Disability Rights: UK, Anabledd Cymru, ac Inclusion Scotland i weithio gyda phobl anabl i gydlynu adroddiad cymdeithas sifil. 

Bydd ein hadroddiad UPR yn dwyn ynghyd yr argymhellion yr ydym wedi’u cyflwyno yn ein holl waith i gyrff cyfamodau’r CU.

Ffoaduriaid sy’n blant

Rwy am sôn yn benodol am un o’n prif flaenoriaethau.

Mae nifer o blant a theuluoedd heb ei debyg o’r blaen yn mudo. Mae’r CU yn amcangyfrif bod 65.3 o filiynau o bobl naill ai’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches neu wedi’u disodli’n fewnol yn ystod 2015, cynnydd o 5miliwn mewn blwyddyn. Rydym yn wynebu’r nifer uchaf o ffoaduriaid sy’n blant ers yr Ail Ryfel Byd. Mae angen ein help ar y plant hyn, eto fyth, diflannodd 239 o ffoaduriaid a oedd yn blant heb gydymaith o gyfleusterau gofal yng Nghymru a Lloegr yn 2015. Dyna gynnydd o 75% ers 2014. Dywedodd y Prif Weinidog ddydd Llun fod Prydain eisoes yn chwarae ei rhan ond fe addawodd i wneud mwy.

Pan gyhoeddwn ein hadroddiad UPR ein hunain ym mis Rhagfyr byddwn yn gwneud rhai argymhellion cryf ac eglur ar sut yn union y gall y llywodraeth wella ei hymdrechion i amddiffyn hawliau plant sy’n ffoaduriaid.

Rydym yn galw ar y llywodraeth i ymgymryd â chynllun pum pwynt:

  • sefydlu gwarchodwyr annibynnol i bob plentyn heb gydymaith sy’n dod i mewn i’r DU
  • cyflwyno dyletswydd statudol i gofnodi ac adrodd am blant sydd yn ffoaduriaid neu sydd wedi’u masnachu ac sydd wedi diflannu o’u cartrefi gofal
  • darfod yr arfer o gadw plant mudol yn gaeth
  • sicrhau bod plant sy’n ceisio am statws ffoadur yn cael diogelwch a chynhorthwy dyngarol priodol
  • sicrhau bod unigolion, lle mai’u hoed yn ansicr a bod rhesymau dros dybio eu bod yn blant, yn cael eu rhagdybio i fod yn blant nes bod eu hoed wedi’u hasesu’n wrthrychol gan arbenigwr annibynnol

Mae’r Comisiwn eisoes yn gweithredu ar y problemau hyn. Rydym wedi ymyrryd mewn adolygiad barnwrol o ostyngiad y Swyddfa Gartref o ran cyfraddau cefnogi lloches i blant sydd yn cymryd arian i ffwrdd oddi ar hawlwyr, sy’n golygu na allan nhw ddarparu digon o fwyd a dillad i’w plant.

Rydym hefyd wedi ymyryd mewn achos apêl i herio’r Swyddfa Gartref ynghylch ei defnydd o asesiadau oed goddrychol ar gyfer ceiswyr lloches ifanc, ac yn ei sgil caiff plant eu cadw’n gaeth yn ddiangen. 

Rôl y DU yn y byd

Mae’r UPR yn gosod record hawliau dynol domestig y DU o dan ficrosgop rhyngwladol. Os ydym i wrthwynebu camdriniaethau hawliau dynol dramor, daw ein record ein hunan yn anochel yn destun craffu. Mae ein hygrededd a’n dylanwad fel chwaraewr byd eang yn dibynnu ar y DU yn bod â record hawliau dynol canmoladwy - o ran y fframwaith cyfreithiol a’n hymlyniad i’r safonau hawliau dynol uchaf mewn gwirionedd.

Mae canlyniad refferendwm y UE yn gofyn i ni i fwrw golwg pellach ar y fath o rôl byd eang yr ydym yn dymuno ei chael, felly mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar ein record a pheidio â chaniatau i’n safonau uchel lithro.

Ers ymuno â’r Comisiwn rwy wedi datgan fy safbwynt yn eglur iawn y bod angen i ni o hyd weld cynnydd mewn nifer o feysydd. Mae hawliau i bobl anabl wedi stopio’n stond, ac roedd ein hadroddiad hil yn ddiweddar yn dangos yr anghydraddoldeb sy’n dal yn bodoli yn ein cymdeithas o ran cael mynediad i gyfiawnder, iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae mynediad i gyfiawnder yn ofid mawr a byddwn yn parhau i herio’r llywodraeth yn gryf ymhob un o’r meysydd hyn.

Mae angen Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol cryf ar y DU sy’n gallu gweithio gyda’r llywodraeth ac rydym yn barod i gynnig ein cymorth a’n cefnogaeth. Ond rydym hefyd yn annibynnol a byddwn yn herio’n galed pryd bynnag y byddwn o’r farn bod angen rhagor o weithredu. Rwy am i ni fod yn rheolydd cadarnach ac yn gymhellwr hawliau hyderus.

Y rôl i gymdeithas sifil

Rôl bwysig arall i Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol yw hyrwyddo a diogelu gwaith cymdeithas sifil. Mae’r rhethreg ar y gofod sy’n lleihau i gymdeithas sifil yn uchel ar agenda’r CU. Er na fo amddiffynwyr hawliau dynol yn y DU, diolch byth, yn wynebu heriau ein cydweithwyr mewn rhannau eraill y byd, mae gan ddeddfwriaeth newydd i gyfyngu ar weithgareddau lobio a hawliau undebwyr llafur, a chynyddu defnydd pwerau archwilio, effaith ar ofod cymdeithas sifil ym Mhrydain.

Mae cyflawni’r nodau yr ydym yn eu rhannu yn dibynnu arnom ni oll yn gweithio gyda’n gilydd. Mae sefydliadau cymdeithas sifil yn cyrraedd pobl a phroblemau na allwn ni eu cyrraedd ac mae gennych rôl allweddol wrth amlygu meysydd gofid, gan roi pwysau ar y rhieni mewn uwch swyddi, a gyrru trafodaeth yn ei blaen.

Dyna’r rheswm ei fod mor bwysig i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gefnogi adroddiad y gymdeithas sifil sy’n cael ei lansio heddiw. Er i ni gefnogi’r adroddiad hwn yn ariannol ac yn rhannu amryw o’r gofidion a amlinellwyd ynddo, chi sydd biau’r adroddiad.

Bu’n ymgyrch faith i’r BIHR a’r rheini oll a gyfranodd eu hamser a’u harbenigedd i gyflwyno tystiolaeth bwysig. Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar dros ben i chi oll ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â chi wrth i ni baratoi ar gyfer yr archwiliad yn Geneva y flwyddyn nesaf.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)