Helping make Britain fairer: 10 years of the Commission, 2007 to 2017 Helping make Britain fairer: 10 years of the Commission, 2007 to 2017

10 mlynedd o’r Comisiwn: dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol

Cyhoeddwyd: 02 Oct 2017

I ddathlu pen-blwydd y Comisiwn yn ddeng mlwydd oed, gofynnom i rai o arbenigwyr cydraddoldeb a hawliau dynol blaengar y Deyrnas Unedig ynghylch newidiadau, heriau a chyfraniad y Comisiwn.

Martha Spurrier, Liberty

Martha Spurrier, Director, Liberty

Mae Martha Spurrier yn fargyfreithiwr hawliau dynol a chyfarwyddwr y grŵp eiriolaeth hawliau dynol a rhyddid sifil, Liberty.

Yn y deng mlynedd ddiwethaf gwnaed rhywfaint o gynnydd gwirioneddol i leihau anghydraddoldeb a diogelu hawliau a rhyddid.  Bellach mae priodas gyfartal gennym. Mae ein llysoedd wedi gorfodi’r heddlu i archwilio trais rhywiol yn effeithiol. Cafodd caethwasiaeth fodern ei gwahardd. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn parhau ar ein llyfrau statudol.  

Ond mae cymaint i’w wneud o hyd cyn i ni allu dweud bod pob dyn, menyw a phlentyn yn y DU yn byw’n rhydd a chydag urddas. Dros y deng mlynedd nesaf mae rhaid i ni herio gwyliadwriaeth raddol gan y wladwriaeth nad oes lle iddi mewn cymdeithas rydd. Rhaid i ni chwalu polisïau mewnfudo gwenwynig sydd yn gweu rhagfarn a gelyniaeth i gyfansoddiad ein cymunedau. Rhaid i ni ddarfod rhag cadw mewnfudwyr yn amhenodol mewn dalfa, rhaid i ni wrthod cyfreithiau gwrthderfysgaeth awdurdodaidd, diogelu ein hawliau, a ymladdwyd yn galed i’w cael, yn ystod Brexit a rhoi grym i gymunedau amrywiol i gael eu cynrychioli ymysg grwpiau elitaidd pwerus. O ran hyn oll bydd arweinyddiaeth y Comisiwn yn hanfodol. Drwy sefyll i fyny yn erbyn y pwerus, gan roi llais i’r rheini ar y cyrion a bod â dewrder i sôn am wirioneddau anghyffyrddus, gall y mudiad hawliau dynol wireddu newid gwirioneddol a gwneud y wlad hon yn lle gwell i bob un ohonom.   

Neil Crowther, Menter Thomas Paine

Neil Crowther, Director, Thomas Paine Initiative

Mae Neil yn Ymgynghorydd Annibynnol a Chyfarwyddwr Menter Thomas Paine, rhaglen gwneud grantiau gyda’r nod o feithrin cefnogaeth gryfach i hawliau dynol yn y DU.

Beth fu’r datblygiad pwysicaf ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol dros y 10 mlynedd ddiwethaf?

Priodas gyfartal: nid yn unig ym Mhrydain ond ledled y byd. Nid ei ganlyniad sydd yn arwyddocaol yn unig, ond, i’r un graddau, y gwersi y gellir eu dysgu gan sut ei wireddwyd. Yn benodol, dangosodd yn glir y cyd-adweithio rhwng agweddau cymdeithasol a datblygiadau ym maes polisïau a chyfraith, a’r angen am strategaethau deallus sydd yn defnyddio liferi lluosog i gynyddu newid cymdeithasol. Gall agweddau cymdeithasol feithrin neu ddistrywio cyfreithiau a sefydliadau. A gwae ni os wnawn eu hanwybyddu.

Beth fydd yr her fwyaf yn y 10 mlynedd nesaf?

Amddiffyn a hybu’r gwerthoedd sydd eu hangen er mwyn i’r gymdeithas dderbyn a pharchu pwysigrwydd cydraddoldeb a hawliau dynol - mae’r angen am y rhain yn ymddangos ar fin cynyddu yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae angen i gydraddoldeb a hawliau dynol gael eu hailddatgan fel ‘egwyddorion’ - y gwerthoedd a rennir y dylai barhau i’n harwain ymlaen - nid fel ‘canllawiau’ - cyfreithiau a ddaeth o lefydd eraill sydd yn amharu ar ein ffordd o fyw. Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn stori lwyddiannus ym Mhrydain sydd angen ei hadrodd dro ar ôl tro.

Beth yw rôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i wireddu newid?

O’r tu allan mae’n ymddangos bod y Comisiwn wedi ailddarganfod ei bwrpas gwreiddiol, fel asiant ar gyfer newid cymdeithasol. Gan ddefnyddio ei bwerau unigryw, rwy o’r farn y gall y synnwyr pwrpas hwnnw ei helpu i fod yn gryfach yn awr nag y bu erioed, er bod ag adnoddau sydd wedi’u cywasgu’n fawr.