Yr hawl i fyw gydag urddas

gan Lorna McGregor

Cyhoeddwyd: 29 Jun 2016

Mae rhai hawliau dynol yn gyfarwydd ar unwaith i bobl: yr hawl i ryddid mynegiant; yr hawl i fywyd; yr hawl i dreial teg a rhyddid rhag caethwasiaeth.

Fodd bynnag, prin iawn yr ystyrir problemau megis tlodi, cyflog isel a thai annigonol fel materion hawliau dynol, eto i gyd, dyna’n union ydyn nhw. 

Cytundeb CU yw’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) sy’n canolbwyntio ar hawliau sy’n allweddol i alluogi pobl fyw gydag urddas. Mae’n bwrw golwg ar amodau gweithio, nawdd cymdeithasol, bwyd digonol, tai, iechyd ac addysg. 

Mae llywodraeth y DU wedi arwyddo i’r cytundeb hwn sy’n orfodol fel mater o gyfraith ryngwladol a rhan rôl y Comisiwn yw sicrhau bod y llywodraeth yn gwneud ei gorau glas i wireddu’r amddiffynfeydd yn y cytundeb i bawb.

Y newyddion drwg yw bod llawer o waith o hyd gan y llywodraeth i’w wneud i wireddu’r amddiffynfeydd yn y cytundeb i bawb yn y DU. 

Mae Pwyllgor y CU ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol yn monitro sut mae gwladwriaethau yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan y cytundeb, a’r wythnos hon fe adroddodd yn ôl wrth lywodraeth y DU ar y meysydd allweddol lle'r oedd angen gweithredu.

Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion yn adlewyrchu’r materion a gododd yr adroddiad y cyflawnom i’r pwyllgor ym mis Ebrill. 

Mae effeithiau diwygio nawdd cymdeithasol yn flaenllaw yn yr adroddiad, yn arbennig effaith andwyol y newidiadau hyn ar unigolion a grwpiau sydd o dan anfantais ac ar y cyrion, gan gynnwys menywod, plant, pobl anabl a theuluoedd gyda chyflog isel. Roedd sicrhau tegwch wrth i’r llywodraeth wneud penderfyniadau ariannol yn fater cysylltiol.

Argymhellodd y pwyllgor i lywodraeth y DU gynnal asesiad cynhwysfawr o effaith cronnus diwygiadau nawdd cymdeithasol a gyflwynwyd ers 2010.

Mae’r Comisiwn wedi bod yn argymell hyn hefyd fel bo penderfyniadau yn cael eu llywio gan ddealltwriaeth ac ystyriaeth o effaith lawn polisïau a deddfwriaeth ar grwpiau sydd ar y cyrion.

Mae’r refferendwm diweddar wedi taflu sylw ar raniadau brawychus yn y gymuned ac rydym wedi ein calonogi bod y pwyllgor wedi gwneud argymhelliad i lywodraeth y DU roi’r ddyletswydd gymdeithasol economaidd ar waith yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

Dyma ddarpariaeth sydd eisoes yn y ddeddfwriaeth sy’n gofyn i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i effeithiau eu penderfyniadau ar grwpiau cymdeithasol economaidd gwahanol. Byddai hyn yn gofyn i gyrff cyhoeddus i ystyried i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac mae’n rhywbeth y mae’r Comisiwn yn ei gefnogi.

Cafodd problemau yn gysylltiedig â gwaith eu hamlygu hefyd. Argymhellodd y pwyllgor i’r DU fynd i’r afael ag achosion wrth wraidd cyfraddau uchel o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc, pobl anabl a rhai lleiafrifoedd ethnig.

Galwodd ar y DU i leihau’n gynyddol lefel cyflogaeth dros dro, hunan gyflogaeth ansicr a chontractau dim oriau, ac i adolygu’r isafswm cyflog cenedlaethol newydd i sicrhau ei fod wedi ei osod ar lefel ddigonol i ddarparu safon byw ddigonol i weithwyr a’u teuluoedd.

Cydnabu’r pwyllgor hefyd fod ‘diwygiadau i’r system cymorth gyfreithiol a chyflwyno ffioedd tribiwnlys cyflogaeth wedi cyfyngu ar fynediad i gyfiawnder ym meysydd megis cyflogaeth, tai, addysg a budd-daliadau lles cymdeithasol’.

Mae’r materion hyn bellach yn nwylo llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig a rhaid iddyn nhw weithredu ar yr argymhellion hyn. Bydd y Comisiwn yn gweithio gyda sefydliadau cymdeithas sifil, y Senedd a’r llywodraeth i sicrhau eu bod yn aros dan sylw a bod gweithredu’n digwydd.

Mae’n bwysig deall bod gan hawliau dynol, nid cydsyniad haniaethol mohono nhw o bell ffordd, effaith gwirioneddol a phendant ar fywydau pawb. Mae cytundebau gorfodol megis ICESCR yn amddiffynfeydd pwerus i hawliau dynol.

Mae hawliau dynol yn ymwneud â byw mewn gwlad lle bo’r wladwriaeth yn edrych ar ôl pobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi, lle gall pobl fwynhau amodau gweithio diogel a theg a lle bo gan bobl ddigon i fwyta. Ni ddylai byw gydag urddas fod yn ormod i ofyn amdano.