Yn dilyn trychineb Grenfell, mae hawliau dynol yn ein grymuso

gan Virginia Bras-Gomes, chair of the UN Committee on Economic, Social and Cultural Rights

Cyhoeddwyd: 20 Aug 2018

Mae ein cartref yn llawer mwy na noddfa’n unig, boed pwysiced hwnnw i lawer o bobl ddigartref y byd. Dyma’r lle y byddwn yn teimlo’n gorfforol ddiogel a lle cawn ein meithrin yn emosiynol  - mewn heddwch.

Ni allai unrhyw beth fod ymhellach o’r gwirionedd i’r rheini a fu fyw a cholli’u bywydau yn nhrychineb Grenfell.

Yr hawl i dai diogel

Yn 2016, cododd Pwyllgor y CU ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, yr wyf wrth ei lyw ar hyn o bryd, bryderon difrifol am nifer o faterion yn ymwneud â Llywodraeth y DU wedi methu â chydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol:

  • diffyg tai cymdeithasol
  • tai eilradd
  • effaith anghymesur y mesurau cyni ar rai grwpiau
  • rhwystrau rhag cael mynediad i gyfiawnder

Mae tai diogel yn rhan hanfodol o’r hawl i safon byw ddigonol sydd wedi’i chynnwys yn y cytuniad.

Yn ei datganiad rhai misoedd yn ddiweddarach, cyfeiriodd Rapporteur Arbennig y CU ar dai cymwysedig at Grenfell fel ‘darlun anorchfygol o effaith tai eilradd ar fywydau pobl dlawd’, gan ein hatgoffa am ganlyniadau ofnadwy o fethu bodloni a chynnal safonau hawliau dynol rhyngwladol. Mae goroeswyr trychineb Grenfell yn ddeiliaid hawliau o dan gyfraith hawliau dynol.

Hawliau dynol, gwahaniaethu a chyfranogi

Mae parchu cyffredinoldeb, anwahanoldeb a rhyngddibyniaeth pob hawl ddynol, a chydymffurfio â safonau hawliau dynol cyffredinol yn awr ac yn y dyfodol, yn hanfodol i fynd i’r afael â thrasiedi ac anghyfiawnder Grenfell, ac i atal trychineb tebyg arall yn y DU.

Mae hawliau dynol yn adlewyrchu anghenion dynol sylfaenol; maent yn sefydlu’r safonau hanfodol na allai pobl, hebddynt, fyw gydag urddas. Mae enghreifftiau o hawliau, sydd wedi’u heffeithio gan drychineb Grenfell, yn cynnwys rhyddid rhag gwahaniaethu, yr hawl i fywyd, a’r hawl i dai cymwysadwy a diogel. Caiff yr hawliau hyn eu cynnwys mewn cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol y mae’r DU wedi ymrwymo i’w cynnal.

Mae hawliau dynol yn adlewyrchu anghenion dynol sylfaenol

Mae gan y DU fframwaith cyfreithiol cryf i atal gwahaniaethu. Os caiff ei ddeddfu, gall y ddyletswydd gymdeithasol economaidd a sefydlwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn sgil gwahaniaethau o ran galwedigaeth, addysg, preswylfan neu ddosbarth cymdeithasol, roi hwb mawr wrth liniaru amodau byw trigolion mewn sefyllfaoedd fel Tŵr Grenfell ac osgoi sefyllfaoedd tebyg.

Mae rhoi cyfle ystyrlon i bobl gyfrannu i’r prosesau gwneud penderfyniadau, ar faterion sydd yn effeithio arnynt, yn hanfodol – na waeth a wnaed y penderfyniadau hynny gan y Llywodraeth, cyrff cyhoeddus neu gwmniau rheoli preifat. Mae cyfranogiad,  hefyd, yn egwyddor hawliau dynol sylfaenol, ac yn hanfodol wrth ddal y rheini sy’n gyfrifol i gyfrif.

Roeddwn yn ffodus i fod mewn cyfarfod rhwng y Rapporteur Arbennig a goroeswyr Grenfell yn gynharach eleni. Y tu hwnt i’r boen a’r gofid, un o’r negeseuon cryf a gafodd ei hailadrodd gan nifer ohonynt oedd yr angen i ddweud eich dweud ac i’w profiad o anghyfiawnderau gael eu cymryd i gyfrif yn ystyrlon wrth i’r Llywodraeth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Sbarduno newid

Ni allai fy mhwyllgor ddal llywodraethau i gyfrif yn erbyn eu rhwymedigaethau hawliau dynol heb gyfraniad hanfodol sefydliadau hawliau dynol rhyngwladol a sefydliadau cymdeithas sifil.

Mae angen eich cymorth arnom i dynnu’n sylw i faterion gofid, nad ydynt yn cael eu taclo’n ddigonol blwyddyn ar ôl blwyddyn, a darparu gwybodaeth i ni er mwyn asesu sefyllfa hawliau dynol yn eich gwlad.

Mae’ch help wrth rhannu a hybu’n negeseuon o bwysigrwydd hanfodol. I sbarduno newid a symud polisiau’r wlad, mae rhaid i bwyllgorau’r CU fel fy un i barhau i weithio’n glos ar y cyd gyda cymdeithas sifil a mudiadau cymdeithasol.

Yr her yw cysylltu’r rhai di-rym gyda photensial grymuso hawliau dynol

Gan adeiladu ar weithio ar y cyd parhaus y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, pleser gennyf yw lansio cyfres o bapurau briffio ar faterion hawliau dynol sy’n ymwneud â thrychineb Grenfell.

Bwriedir y papurau briffio i adeiladu ymwybyddiaeth a gwybodaeth o hawliau dynol a sut maent yn gymwys yng nghyd-destun trychineb Grenfell a’i  ganlyniadau. Rydym am gefnogi pob un ohonoch, yn enwedig y goroeswyr, wrth ddefnyddio hawliau dynol fel lifer i wireddu cyfiawnder ac adeiladu dyfodol diogelach.

Y thema gyffredin sydd wrth fôn profiadau amddifadedd yw un o ddiymadferth; yr her yw cysylltu’r rhai di-rym gyda photensial grymuso hawliau dynol. I’r perwyl hwn, gobeithio cewch y papurau briffio hyn o werth ymarferol arwyddocaol i chi.

Canfyddwch ragor am ein gwaith

Gwnawn gyhoeddi un papur briffio bob mis, gan ddechrau gyda’r hawl i fyw. Bydd y papurau briffio, a gwybodaeth bellach ar ein gwaith yn dilyn ymchwiliad Grenfell ar gael at:  https://www.equalityhumanrights.com/en/following-grenfell.

Mae gwybodaeth bellach ar Bwyllgor y CU ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol ar gael at: https://www.ohchr.org/EN/HRBodies/CESCR/pages/cescrindex.aspx.

Os oes unrhyw ymholiad gennych ar hawliau dynol o ran tân Tŵr Grenfell, cysylltwch â grenfell@equalityhumanrights.com.