UK Supreme Court UK Supreme Court

Cynnydd ar fynediad i gyfiawnder i’w groesawu

gan Ben Wilson

Cyhoeddwyd: 26 Jul 2017

Mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu ar ffioedd tribiwnlys cyflogaeth. Heriodd UNISON, a gyflwynodd yr achos, bolisi’r llywodraeth ar ffioedd, gan ddadlau eu bod yn rhwystr sylweddol i gyflogeion yn gorfodi’u hawliau yn y gweithle. Darparodd y Comisiwn dystiolaeth arbenigol yn yr achos ac rydym yn croesawu’r dyfarniad heddiw bod y ffioedd yn anghyfreithlon ac yn gwahaniaethu.

Mae gennym oll yr hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu, ond yn anffodus, nid yw’n anodd i ddod o hyd i enghreifftiau o driniaeth annheg. Canfu ymchwil 2015 y Comisiwn i wahaniaethu yn y gweithle ar sail beichiogrwydd a mamolaeth y cafodd oddeutu 1 o bob 9 menyw feichiog a mamau newydd naill ai eu diswyddo, eu diswyddo’n orfodol oherwydd colli swydd lle na ddigwyddodd felly i eraill, neu chawson nhw eu trin mor wael bu rhaid iddyn nhw adael eu swydd.

Ar waethaf hyn, ar ôl i ffioedd tribiwnlys cyflogaeth gael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2013, mae hawliadau gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth wedi goresgyn 45% rhwng 2012 i 2013 a 2016 i 2017. Er bod mwy na 77% o fenywod beichiog a mamau newydd yn adrodd eu bod wedi dioddef anfantais, mae llai na 1% yn dwyn achos gerbron tribiwnlys, gan enwi’r gost ariannol yn rhwystr arwyddocaol. At hynny, mae’r terfyn amser i gyflwyno achos gwahaniaethu, yn golygu bod menywod yn wynebu cosb ddwbl. Mae’r Comisiwn yn argymell yn daer y dylid ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hawliadau beichiogrwydd a mamolaeth i 6 mis i leddfu’r pwysau i ddwyn hawliad yr un pryd ag ymgodymu â bod yn fam newydd.

Yn ychwanegol, dangosodd astudiaeth ddiweddar fod 15% o bobl anabl o’r farn mai gwahaniaethu oedd y rheswm dros beidio â chynnig swydd iddyn nhw, ond gostyngodd hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd o 54% yn dilyn cyflwyniad ffioedd tribiwnlys. Mae hawliadau gwahaniaethu hiliol wedi gostwng 48% a hawliadau gwahaniaethu ar sail rhyw o 51%.

Gallai pobl yn datrys anghydfodau drwy ffyrdd eraill megis cymodi, egluro rhywfaint o’r gostyngiad o ran hawliadau, fodd bynnag, yn syml, ni allai nifer sylweddol o bobl fforddio i gael mynediad i gyfiawnder – dywedodd 40% o’r rheini oedd o’r farn bod cyflogwyr wedi mynd yn groes i’w hawliau, mai’r ffioedd a’u hataliodd rhag cyflwyno achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth, yn ôl adolygiad y llywodraeth ei hun ar y ffioedd ym mis Ionawr 2017.

Mae’r dyfarniad heddiw yn gyfiawnhad i lawer o sefydliadau ac unigolion a fu’n ymgyrchu dros gael y llywodraeth i ddileu’r ffioedd, gan ddadlau eu bod yn gwahaniaethu – maen nhw’n effeithio’n anghymesur ar fenywod, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig a’r rheini mewn swyddi cyflog isel – ac yn mynd yn groes i’r hawl i gael cyfiawnder o dan Erthygl 6 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hon yn datgan bod rhaid i fynediad i lys fod yn ‘wirioneddol ac effeithiol’  – mewn geiriau eraill, rhaid iddo fod yn opsiwn teilwng i bawb.

O dan y system presennol, yn glir nid dyna’r sefyllfa. Mae rhaid i’r sawl sydd ag achos cymhledd dalu cyfanswm o £1,200 i geisio am iawn ar gyfer triniaeth annheg yn y gwaith, a gall hyd yn oed y sawl sydd yn gymwys i ddisgownt (oherwydd bod ganddyn nhw dan £3,000 wedi’i gynilo a’u bod ar incwm isel), orfod gwario cannoedd o bunnoedd. Er enghraifft, byddai rhaid i rywun ar £22,500 ( y cyflog blynyddol cenedlaethol ar gyfartaledd), dalu oddeutu £565. Oherwydd y gost ni all pobl gael cyfiawnder, ac mae hefyd yn cynnig dihangfa i gyflogwyr dros arfer anghyfreithlon, ac mae yna berygl y caiff safonau yn y gweithle eu gostwng.

Mae’r Comisiwn yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth i gymryd camau ar unwaith i ddileu’r ffioedd yn y tribiwnlysoedd cyflogaeth a gwneud trefniadau i ad-dalu’r sawl sydd wedi talu. Dyma gydnabyddiaeth a oedd ei hangen yn fawr bod rhaid seilio’r hawl i fynediad i gyfiawnder ar deilyngdod eich achos, ac nid ar eich gallu i dalu.

Mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi bod y llywodraeth yn gwrando ar y rheini y mae ei pholisiau yn effeithio arnyn nhw, ac yn asesu ac adolygu’n briodol yr effaith ar y rheini sydd yn cael eu gadael ar ôl yn y gymdeithas. Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiadau pwysig yn y blynyddoedd diwethar, megis Bod yn anabl ym Mhrydain ac Uno Prydain Rhanedig, gan ddangos maint yr anghydraddoldeb y mae pobl anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig yn ei wynebu. Os yw’r Prif Weinidog o ddifrif ynglŷn â chreu cymdeithas fwy cyfartal, mae angen i’r llywodraeth ddefnyddio’r dystiolaeth hon er mwyn osgoi cyflwyno mwy o bolisïau sydd yn gwaethygu’r anfantais ddyfalbarhaus y mae llawer yn ei hwynebu.

Er bod y dyfarniad hwn yn gam positif iawn i’r cyfeiriad cywir, nid ffioedd tribiwnlys cyflogaeth yw’r unig rhwystr rhag cael cyfiawnder ym Mhrydain. Dylai’r Llywodraeth hefyd gynnal adolygiad ar frys ar effaith y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Tramgwyddwyr (LASPO) ar allu pobl i orfodi’u hawliau. Un o nodau LASPO, a wynebodd wrthwynebiad eang pan gafodd ei chyflwyno, oedd gostwng cymorth cyfreithiol o £350 miliwn ar draws llawer o feysydd, gan gynnwys teulu a thai.

Heb fynediad priodol i gymorth cyfreithiol, bydd pobl sydd yn dwyn achosion yn wynebu maes chwarae anwastad wrth wynebu sefydliadau ac unigolion cyfoethog sydd yn gallu gwario mwy ar ffioedd a thystiolaeth arbenigol. Mae hyn yn creu system cyfiawnder ‘dwy-haen’ lle mai dim ond y bobl gyfoethog sydd yn gallu amddiffyn eu hunain yn erbyn achosion o fynd yn groes i’w hawliau.

Bydd y Comisiwn yn parhau i gymryd dull cadarn i’r rheini sydd yn torri ar hawliau pobl eraill, gan gynorthwyo unigolion pan fo hynny’n bosibl ac ymgymryd â chamau gorfodi ac ymgyfreitha strategol i ddal cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth sydd yn gwahaniaethu i gyfrif. Ond ni fydd hwn ei hunan yn llenwi’r gwagle enfawr o ran cael mynediad i gyfiawnder y mae llawer wedi’i brofi ym Mhrydain. Yng ngeiriau’r dyfarniad heddiw, heb fynediad i gyfiawnder “laws are liable to become dead letter, the work done by Parliament may be rendered nugatory, and the democratic election of Members of Parliament may become a meaningless charade".