Deall ‘yr hyn sydd yn gweithio’ i newid agweddau ac ymddygiadau

gan Ben Wilson

Cyhoeddwyd: 09 Nov 2017

"Caiff hysbysebu ei selio ar un peth: hapusrwydd. A ydych chi’n  gwybod beth yw hapusrwydd? Hapusrwydd yw arogl car newydd. Rhyddid rhag ofn ydyw. Bwrdd poster yw ar ochr heol sydd yn sgrechian sicrwydd bod yr hyn yr ydych yn ei wneud yn IAWN. Rydych chi’n IAWN."

Mae’r dyfyniad hwn gan Don Draper Mad Men yn ein hatgoffa nad yw’r syniad, bod penderfyniadau dynol yn aml wedi’u selio ar emosiwn neu ragfarnau yn hytrach na rheswm, yn sicr yn un newydd. Mae marchnadwyr mewn cyrff cyhoeddus wedi defnyddio’r mewnwelediad hwn i yrru llawer o’r ymgyrchoedd dylanwadol a phwysig i newid a gwella cymdeithas.

O alwad ‘Your Country Needs You’ yr Arglwydd Kitchener, am adfilwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, i ymgyrchoedd i beidio ag annog ysmygu, taclo gyrru ac yfed a hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd, mae Prydain y wlad fodern yr yw hi, yn rhannol, oherwydd dylanwad ymgyrchoedd marchnata ymddygiad.

Bellach, mae gwyddoniaeth ymddygiadol gan gynnwys technegau   ‘pwniad’ yn rhan o brif ffrwd economeg, strategaeth sefydliadol a gwneud polisi, fel ag yr yw ymagwedd  ‘beth sydd yn gweithio?’ i bolisi a seilir ar dystiolaeth.

P’un ai a yw’n gofrestru awtomatig i bensiynau neu ragdybio caniatâd i roi organau, caiff modelau a strategaethau sefydliadol cyfan eu newid wrth inni ddeall mwy am ‘gyfyngiadau rheswm’. Dyfarnwyd y Wobr Nobel dros Economeg eleni i’r Athro Richard, yr arloeswr ‘pwniad’ am ei waith ar economeg ymddygiadol.

Caiff ein hymgyrchoedd #PowertotheBump a Gweithio Ymlaen, sydd wedi defnyddio technegau a brofwyd i daclo gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth a hybu gweithio hyblyg, eu cydnabod yn genedlaethol. Mae mwy na 150 o sefydliadau wedi arwyddo i Weithio Ymlaen gan gwmpasu 1.3 miliwn o gyflogwyr. Rydym eisoes yn gweld cynnydd o ran adrodd a newidiadau mewn arferion gweithle o fewn sefydliadau o ganlyniad i’r ymgyrch. 

Fel llawer o gyrff cyhoeddus neu reolyddion, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dibynnu ar sylfaen dystiolaeth gref er mwyn gwybod lle a sut i weithredu. Yr wythnos hon, rydym yn cyhoeddi rhaglen ymchwil yn ogystal â’n hapbrofion cyntaf a reolir, yn edrych ar yr hyn sydd yn dylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol a’r hyn a wyddom ynglŷn â ‘beth sydd yn llwyddo’ o ran eu taclo. 

Hapbrofion a reolir

Gwnaethom weithio ar y cyd â’r Tîm Mewnwelediad Ymddygiadol i gynnal dau brawf ar wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a gweithio hyblyg, gyda’r Dr Tiina Likki blaenllaw wrth y llyw.

Canfu’r prawf cyntaf mai ‘normaleiddio cymdeithasol’  – busnesau sydd am gadw i fyny â thueddiadau ac yn dilyn busnesau eraill – oedd y ffordd fwyaf effeithiol o ysgogi ymddygiad tebyg wrth hyrwyddo gweithio hyblyg.

Cododd yr ail brawf gwestiynau am effeithiolrwydd ymyriadau unwaith ac am byth a grëwyd i newid ymddygiad. Canfu ein hapbrofion, a reolir, fod rheolwyr a gwblhaodd ymarfer ar-lein i annog cymryd safbwyntiau a chynyddu empathi tuag at fenywod a mamau newydd, mewn gwirionedd yn eu gwneud yn llai empathig na’r rheolwyr llinell hynny na wnaeth gwblhau’r ymarfer. Mae hyn yn annisgwyl o ystyried y defnyddir y math hwn o ymarfer amrywiaeth yn aml mewn sefydliadau ledled y byd.

Efallai bod eisiau mwy o ymchwil yma gan y gallai hwn godi cwestiynau pwysig ynglŷn ag ydyw’r math hwn o ymyriad atgyweirio cyflym unwaith ac am byth yn gweithio mewn gwirionedd – a ph’un ai a yw ymyriadau yn y gweithle yn cael eu gwerthuso’n gadarn. Mae angen i ni edrych ar b’un y gallai cynllunio rhagfarn allan o systemau, er enghraifft trwy recriwtio dienw, fod yn fwy effeithiol nag ymyriadau yn ceisio cael pobl unigol i newid eu hymddygiad. Efallai mai ymagwedd sydd yn edrych at newid strwythurau ac agweddau fel ei gilydd fydd yn y pendraw yn esgor ar gynnydd gwirioneddol yn y gweithle. 

Yr hyn yr ydym yn ei wybod ynglŷn â ‘beth sydd yn gweithio’

Gwyddom gan ymchwil blaenorol nad yw’r dystiolaeth ynghylch ‘beth sydd yn gweithio’ i daclo rhagfarn a gwahaniaethu ym Mhrydain yn ddigon cryf. I fynd i’r afael ag ef rydym wedi ehangu’r dystiolaeth sydd ar gael i lunwyr polisi drwy werthuso pedwar ymyriad:

  • Adnodd ffôn symudol One Globe Kids (ap a gwefan) gan Globe Smart Kids, wedi’i werthuso mewn partneriaeth â Phrifysgol Kent
  • Gwaith addysgol Show Racism the Red Card mewn ysgolion uwchradd, wedi’i werthuso mewn partneriaeth â Phrifysgol Kent
  • Menter gymunedol Kumon Y’all, wedi’i gwerthuso mewn partneriaeth â Cambridge Policy Consultants
  • Sesiynau hyfforddi Race on the Agenda, wedi’i werthuso mewn partneriaeth â Phrifysgol Greenwich a’r Ymddiriedolaeth Runnymede

Rydym hefyd wedi llunio canllaw i werthuso ymyriadau gwrth-ragfarn mewn modd  hawdd ei drin ac ystyrlon, fel y gall pob sefydliad ddatgelu effaith eu prosiectau eu hunain.

Cafodd pob ymyriad y profom ei brofi’n effeithiol i ryw radd wrth daclo rhagfarn ac ymddygiad anghyfreithlon. Tanlinellodd y gwaith, fodd bynnag, her sefydlu ‘beth sydd yn gweithio’ ar draws set o faterion amrywiol a dyrys. Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau ochr yn ochr â’n canllaw newydd ynghylch gwerthuso. Yn sgil yr ymchwil hwn, mae gennym bedwar prif argymhelliad:

  • Mae angen gwerthuso, deddfwriaeth, polisïau ac ymyriadau eraill sydd wedi’u hanelu i leihau cywilydd, aflonyddu, trais neu gam-drin ar sail hunaniaeth pobl, yn gadarn
  • o ystyried nad oes datrysiad un maint yn ffitio pawb, mae angen i lunwyr polisi gymryd ymagwedd awgrymog a dargedir i daclo rhagfarn a gwahaniaethu mewn cyd-destunau gwahanol ac i grwpiau gwahanol, wrth nodi’r cyfleoedd i wneud defnydd o arfer orau mewn sefyllfaoedd eraill
  • mae angen i lunwyr polisi gofio y gall ymyriadau gael deilliannau annisgwyl a chanlyniadau na fwriadwyd ac felly mae angen eu gwerthuso a’u haddasu ar sylfaen barhaus
  • mae newid yn debygol o ddigwydd yn araf, felly dylai llunwyr polisi annog cynllunio a buddsoddi hirdymor i sefydlu effaith prosiectau, gan gynnwys gwerthuso gweithrediadau ar ôl i’r ymyriad ei hunan orffen.

Yng nghyd-destun arian cyhoeddus tynn, mae’n bwysig bod tystiolaeth dda gennym am y problemau yr ydym am eu datrys a deall sut i yrru newid i greu Prydain decach. Mae gwybod ‘beth sydd yn gweithio’ i bwy, a pham, yn go bwysig.

Rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, mai un o’r liferi yn unig y mae rhaid i ni eu defnyddio yw hwn – a dyna pam rydym hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio’n pwerau gorfodi yn gadarn.  Fel y dywedodd Andrew Rawnsley yn ddiweddar:

"Mae rhai problemau, mewn gair, yn rhy fawr i’w datrys drwy addasu’r ‘pensaerniaeth dewis’. Dim llaw tyner ar y benelin sydd eisiau, ond cic nerthol ar y pen ôl."

Canfod mwy am waith y Comisiwn ar ragfarn ac ymddygiad anghyfreithlon.