Hanes hawliau sifil a gwleidyddol y DU o dan adolygiad: heriau technolegau digidol newydd

gan Griff Ferris

Cyhoeddwyd: 12 Mar 2020

Yn ddiweddarach yn y mis, bydd y CU yn adolygu tystiolaeth am gydymffurfiaeth y DU â’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol – cytuniad hawliau dynol rhyngwladol sydd yn amddiffyn ystod o hawliau dynol, o hawliau treial teg i’r hawl am breifatrwydd.

Yn ei gyflwyniad i’r CU, a gyhoeddwyd heddiw, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi codi pryderon ystod-eang am hanes hawliau sifil a gwleidyddol y DU. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o faterion ers tro - megis addasrwydd camau a gymerwyd i daclo trais yn erbyn menywod a merched, a phryderon ynghylch cadw ymfudol - yn ogystal â materion sydd yn ymddangos, megis heriau hawliau dynol y technolegau digidol newydd. Canolbwyntia’r blog isod ar un mater o’r fath: defnydd technoleg adnabod wynebau awtomatig a rhaglenni plismona rhagfynegol gan yr heddlu.

Swyddog Cyfreithiol a Pholisi yw Griff Ferris yn Big Brother Watch, sefydliad ymgyrchu annibynnol dros ryddid sifil nad yw’n gwneud elw.

Dychmygwch eich bod yn blentyn 14 oed ar eich ffordd adre o’r ysgol un prynhawn, yn cerdded ar hyd eich prif stryd leol, pan neidia nifer o ddynion arnoch sydd yn gwisgo cyflau a hetiau. Maen nhw’n gafael ar eich breichiau ac yn eich tynnu at stryd gul yn rhedeg o’r brif stryd, gan eich amgylchynu a dal eich breichiau. Dywedan nhw wrthych mai swyddogion yr heddlu ydyn nhw ac maen nhw’n drwgdybio eich bod yn cario cyllell. Maen nhw’n eich holi, yn mynnu eich bod yn dangos ID a’ch ffôn, ac yna yn gwneud argraff o’ch ôl bys i wirio’ch tystiolaeth adnabod. Ar ôl nifer o funudau o holi dwys, dywedan nhw wrthych y gallwch fynd ymlaen ar eich ffordd ac maen nhw’n toddi i mewn i dyrfa’r brif stryd.

Mae’n senario dychrynllyd. Ond enghraifft bywyd go iawn yw hon o’r hyn a ddigwyddodd pan gafodd plentyn du ei gamadnabod gan wyliadwriaeth adnabod wynebau byw’r heddlu yn Llundain. Cafodd y dechnoleg cadw golwg hon ei defnyddio i sganio miliynau o bobl  ar orymdeithiau, carnifalau stryd, gemau pêl droed, ar brif strydoedd, canolfannau siopa a hybiau cludo mewn nifer o leoliadau ledled y DU.

Rydym o’r farn bod gwyliadwriaeth adnabod wynebau yn tresmasu ar hawl sylfaenol pobl i fywyd preifat, a bod gan ei ddefnydd mewn mannau cyhoeddus effaith arswydus ar hawliau pobl i ryddid mynegiant ac ymgynnull.

Rydym yn croesawu cyflwyniad y CCHD i’r CU ar gyfer yr adolygiad sydd ar ddod ar hanes hawliau sifil a gwleidyddol y DU, a’i ddadansoddiad bod y fframwaith cyfreithiol, sydd yn ôl pob sôn yn awdurdodi’r defnydd o adnabod wynebau byw, yn annigonol a bod yr wyliadwriaeth yn y bôn yn anghymesur. Fel y cydnabu’r CCHD hefyd, mae tystiolaeth sydd yn olrhain rhagfarn hiliol ac ar sail rhywedd o fewn y dechnoleg adnabod wynebau.

Technoleg, rhagfarn a bygythiadau i degwch yn y system cyfiawnder

Mae rhagfarn yn thema gyffredin mewn technolegau newydd sydd wedi’u seilio ar ddata, gan y’u dyfeisiwyd a’u hyfforddi i ddefnyddio data hanesyddol sydd yn cynrychioli anghydraddoldebau a rhagfarnau - yn arbennig o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Eto defnyddir nifer o dechnolegau, sydd yn ymddangos, yn y system cyfiawnder troseddol i greu proffil a darogan, yn ôl pob son, droseddoldeb pobl. Mae risgiau clir posib o wahaniaethu yn sgil hyn - heb sôn am hen galedu gwyliadwriaeth grynswth data sydd yn tresmasu ar breifatrwydd, gan wrthdroi’r rhagdybiaeth o ddieuogrwydd ac o bosib yn tresmasu ar hawl pobl i dreial teg.

Ymdrecha systemau plismona rhagfynegol i ddarogan troseddau yn y dyfodol, naill ai gan unigolion neu o fewn cymdogaethau, fel arfer yn seiliedig ar gofnodion yr heddlu.

Mae’r systemau hyn yn aml yn canolbwyntio ar droseddau ar strydoedd, yn hytrach na throseddau ariannol neu goler gwyn.

Mae cofnodion yr heddlu yn cynrychioli’r bobl a gaiff eu plismona, nid pobl yn unig sydd yn troseddu, ac mae’r data hwnnw yn adlewyrchu’r gorblismona hanesyddol a sefydliadol o gymunedau tlawd a du. Pan fo pobl du o’r bron yn 10 waith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl gwyn ar draws Lloegr a Chymru, mae’r risg o ragfarn barhaus drwy’r systemau plismona rhagfynegol newydd hyn yn gofyn am sylw ar frys.

Mae’r heddlu hyd yn oed wedi ymdrechu asesu risg pobl unigol o droseddu yn y dyfodol, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) wedi’i fwydo gan broffiliau data masnachol amrwd yn cynnwys stereoteipiau hiliol: er enghraifft, disgrifiwyd pobl a gafodd eu proffilio yng nghategori’r ‘Treftadaeth Asiaidd’ fel ‘rhai a oedd yn gyffredinol mewn galwedigaethau arferol cyflog isel ym maes gwasanaeth trafnidiaeth neu fwyd’. Dim ond ar ôl i ni ddatgelu hyn y gwnaeth yr heddlu dan sylw ddod â’r proffiliau data gwahaniaethol i ben ac ail enwodd y darparydd data masnachol ei stereoteipiau amrwd. Fodd bynnag, mae’r meddalwedd AI yn dal yn cael ei ddefnyddio ac yn cael ei fabwysiadu’n fwy eang, er yn aml yn osgoi craffu.

Rhaid i ni fod yn rhagweithiol wrth nodi, nid yn unig y cyfleoedd, ond y bygythiadau, y niwed a’r peryglon a ddaw yn sgil y dechnoleg, sydd yn ymddangos, i’n hawliau sylfaenol, a chymryd camau ar fys i’w gwarchod.