Sut rydym yn ymateb i’r pandemig coronafeirws

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 09 Apr 2020

Dwedwyd ef yn ddirifedi fod y wlad yn profi argyfwng na welwyd erioed yn yr oes hon. Newidiodd y pandemig coronafeirws y ffordd yr ydym oll yn byw ar draws y byd ac nid yw’r goblygiadau hirdymor eto’n eglur.

Yr hyn a wyddom am y feirws hwn yw pwy bynnag ydych, waeth beth yw’ch cefndir neu ble rydych yn byw – mae pawb mewn perygl. Rôl cyntaf unrhyw lywodraeth yw diogelu bywydau’i dinasyddion ac rydym yn cefnogi’r llywodraeth yn llwyr yn hyn.

Gwnaiff y cyfyngiadau cymdeithasol, a roddwyd ar waith ar gyfer yr ychydig wythnosau diwethaf, hynny os gwnawn ni oll chwarae’n rhan. Ond golyga hyn y gwelom gyfyngiadau digyffelyb ar ein hawliau er mwyn atal rhag gwasgaru’r feirws, diogelu bywydau a gostwng y baich ar y gwasanaeth iechyd.

Wrth i’r cyfyngiadau ar hawliau a’r mesurau dramatig i atal y gwasgaru rhag parhau, gwyddom fod rhai grwpiau o bobl yn teimlo’r effeithiau yn fwy nag eraill. Bydd y sawl sydd fwyaf o dan anfantais yn y gymdeithas angen ein cefnogaeth yn awr yn fwy nag erioed.

Gwyddom fod yr effaith ar ein hawliau dynol yn sgil deddfwriaeth Covid-19 ar frys yn codi pryderon.
Houses of Parliament, London

Fel corff cydraddoldeb y DU ac fel sefydliad hawliau dynol cenedlaethol, buom yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio’n mandad unigryw i helpu a chefnogi’r bobl hyn yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Mae’r goblygiadau cydraddoldeb yn ymestyn yn bell ac yn eang, yn effeithio ar bobl a chanddynt nodweddion gwarchodedig gwahanol mewn ffyrdd gwahanol.

Cafodd pryderon sylweddol eu codi gan bobl anabl a’u cynghreiriaid ynglŷn ag a oes ganddynt fynediad i driniaeth a chymorth. Mae eraill yn gofidio am a fydd pobl sydd yn sâl iawn a’r oedrannus yn parhau i gael gofal iechyd o ran triniaeth nad yw’n gysylltiedig â Covid-19.

Rydym yn ymwybodol hefyd y gall penderfyniadau a wnaed am golli swyddi effeithio ar y mwyaf bregus ac mae hefyd bryder gwirioneddol na ellir dilyn traddodiadau crefyddol wrth i ni golli annwyliaid.

Yn ychwanegol, gwyddom fod yr effaith ar ein hawliau dynol yn sgil deddfwriaeth Covid-19 ar frys yn achosi pryder – pa angenrheidiol bynnag y bo mewn rhai amgylchiadau i gadw pobl sydd yn dangos symptomau, ac i’r heddlu gymryd camau gorfodi yn erbyn y sawl sydd yn mynd yn groes i’r rheolau cadw draw cymdeithasol hynny.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Wrth edrych ar effaith yr holl fesurau a chamau a gymera llywodraethau ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, byddwn yn ymateb yn y ffyrdd a ganlyn:

Monitro datblygiadau

Byddwn yn fanwl yn monitro pob datblygiad i sicrhau y caiff pryderon y sawl sydd fwyaf mewn angen eu cyfathrebu’n rhugl. Defnyddiwn lais unigryw’r CCHD i wneud hyn – gan weithio’n glos gyda’n holl randdeiliaid a phartneriaid.

Gweithio gyda llywodraethau a senedd

Gwnawn gefnogi’r llywodraeth drwy sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth ar frys a basiwyd yn cael ei chraffu a’i hadolygu’n briodol yn y cyfnodau priodol. Gwnawn sicrhau y caiff unrhyw newidiadau pellach a gyflwynir o dan y Ddeddf Coronafeirws eu hystyried yn llawn ac yn briodol o ran ein diogelwch ni oll, ac hefyd monitro’u heffaith ar y mwyaf bregus.

Bydd yr ymagweddau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn amrywio yn seiliedig ar y mesurau a gymera phob un llywodraeth. Rydym wedi cysylltu’n agos â phob llywodraeth eisoes ac wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a chynorthwyo seneddwyr wrth iddynt drafod y ddeddfwriaeth ar frys.

Yn bennaf, rydym o’r farn mai ein rôl yw darparu arbenigedd a mewnwelediadau i lywodraethau’r tair cenedl o ran yr hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad a mynegi gofidion pobl mewn angen. Trwy gydol yr argyfwng hwn mae’n hanfodol bod yr effaith ar grwpiau gwarchodedig yn cael ei ddeall yn iawn a’i fonitro. Gwnawn godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau hyn yn uniongyrchol i galon y llywodraeth. I wneud hyn byddwn yn croesawu tystiolaeth neu fanylion eich pryderon.

Cyflawni dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol

Mae llywodraethau lleol a’r rheini sydd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu heriau newydd. Bydd ystyried goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol posib yn ofalus yn galluogi penderfyniadau gwell a mwy effeithiol mewn cyfnod anodd a byddwn cyn hir yn rhannu gwybodaeth ymarferol gyda’r cyrff hyn i’w helpu.

Byddwn yn atgoffa pob sefydliad sydd yn ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus bod rhaid iddynt, wrth wneud penderfyniadau, ystyried yr effaith ar bobl yn rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol, a pherthynas dda yn y gymuned. Sef Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda rheolyddion eraill fel y bônt yn cadw at eu dyletswyddau o dan y PSED i fonitro sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion gwahanol.

Y flwyddyn i ddod

Ni fu ein mandad statudol i gynghori llywodraethau fyth mor bwysig. Gwyddom a deallwn fod angen gwneud penderfyniadau a chyfaddawdau anodd i ddiogelu bywydau pobl. Mae cyfraith hawliau dynol a chydraddoldeb yn darparu fframwaith i helpu llywodraethau wneud penderfyniadau i gydbwyso diogelwch cyhoeddus a buddiannau economaidd â’r gwerthoedd cyffredinol o ryddid, parch a thegwch.

Gobeithio, bydd yn ein caniatáu i oresgyn y rhaniadau diweddar iawn yn ein cymdeithas.

Bydd yr ymagwedd hon yn helpu’r wlad gyfan i oresgyn y prif heriau a wyneba a’n galluogi i ddod allan yn gryfach ac yn fwy unedig. Gobeithio, bydd yn ein caniatáu i oresgyn y rhaniadau diweddar iawn yn ein cymdeithas.

Gwnaeth yr argyfwng Covid-19 ni i ail-archwilio’n cynlluniau ar gyfer eleni ac rydym wedi’u haddasu i sicrhau y gallwn helpu cynghori pob llywodraeth ar draws Prydain pan fo angen. Rydym eisoes wedi penderfynu peidio â gorfodi rheoliadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer eleni. Dyma’r peth priodol i’w wneud wrth i fusnesau a chyrff cyhoeddus adweithio i’r pandemig.

Nid oes un ohonom yn gwybod faint o amser a gymeriff i oresgyn heriau coronafeirws, ond caf gysur wrth weld sut mae cydweithwyr yn y CCHD a sefydliadau eraill wedi ymateb mor gyflym i addasu i’r amodau newydd heriol iawn hyn.

Wrth i benderfyniadau anodd cael eu gwneud, rhaid i ni beidio ag anghofio’r bobl hynny yr effeithir arnynt gan yr argyfwng hwn yn fwy nag eraill. Meddai Martin Luther King: “The ultimate measure of a man is not where he stands in moments of comfort and convenience, but where he stands at times of challenge and controversy”. Mae Prydain yn arwain y byd ym maes hawliau dynol a dyma’r adeg i arddangos hynny.