Ymchwil, argymhellion ac achosion cyfreithiol carreg filltir: adolygiad o 2017

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 21 Dec 2017

Bu 2017 yn flwyddyn brysur i’r Comisiwn.

Pan ymgymerais ran y Cadeirydd, dywedodd cryn nifer o bobl wrtha i nad oedd y Comisiwn yn defnyddio’i bwerau’n ddigonol i sbarduno newid.

Yn y flwyddyn y dathlom ein pen-blwydd yn 10 oed, rwy’n hyderus y gwnaethom ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol yn fwy nag erioed - ond hefyd gwnaethom nifer o’r pethau yr ydym bob amser wedi’u gwneud yn dda - casglu data a gweithredu fel arbenigwr annibynnol drwy gasglu data i addysgu a dylanwadu.

Mae uchafbwyntiau penodol yn cynnwys achos Doug Paulley yn erbyn FirstGroup, sydd o bwysigrwydd enfawr i filoedd o ddefnyddwyr cadair olwyn

Yn 2017 gwnaethom fwy o waith gorfodi a chychwyn ac ymyrryd mewn mwy o achosion cyfreithiol. Mae uchafbwyntiau penodol yn cynnwys achos llwyddiannus Doug Paulley yn erbyn FirstGroup, sydd o bwysigrwydd enfawr i filoedd o ddefnyddwyr cadair olwyn. Yn flaenorol, nid oedd llawer o bobl anabl yn aml yn gallu teithio ar fysys oherwydd yr oedd y mannau arnynt i gadeiriau olwyn wedi’u cymryd eisoes. Bellach eglurodd y Goruchaf Lys nad yw’r polisïau ‘y cyntaf i’r felin gaiff falu’ yn gymwys ac y dylid rhoi blaenoriaeth i bobl anabl. 

Hefyd, darparom dystiolaeth gyfreithiol arbenigol mewn achos pwysig arall yn y Goruchaf Lys – UNISON v Yr Arglwydd Ganghellor, a ganfu bod ffioedd tribiwnlys cyflogaeth yn anghyfreithlon ac yn wahaniaethol oherwydd eu bod yn atal pobl rhag cael mynediad i gyfiawnder pan oeddent wedi dioddef gwahaniaethu, a gorchmynnodd y bydd rhaid eu had-dalu. Mae’r canlyniad eisoes wedi cael effaith arwyddocaol ar y rheiny sydd angen mynediad i dribiwnlysoedd i orfodi’u hawliau.

Mae mynediad i gyfiawnder hefyd yn hanfodol mewn cyd-destunau eraill hefyd. I ganiatáu eraill i orfodi’u hawliau eleni, rydym hefyd wedi rhedeg dwy raglen beilot lwyddiannus. Yn y cyntaf, cynigom gyllid ar gyfer achosion cyfreithiol yn ymwneud â hawliau pobl anabl ym myd cyflogaeth a mynediad i wasanaethau. Caniataodd yr ail beilot i’r rheiny a ddioddefodd gwahaniaethu mewn safleoedd addysgol gael cymorth cyfreithiol. Yn sgil y ddau beilot, roedd y Comisiwn wedi gallu cynorthwyo mwy na 100 o ymgeiswyr nad oedd fel arall yn debygol o allu cymryd camau. Bydd ein gwaith yn helpu’r unigolion dan sylw neu’n helpu i egluro’r gyfraith i wella bywydau miloedd o bobl sydd wedi profi anawsterau tebyg.

Meysydd pwysig eraill i’n tîm cyfreithiol oedd ein gwaith i wneud stadia pêl droed yn fwy hygyrch i bobl anabl, gan herio’r camau gwahaniaethol gan lanlordiaid a bygwth cymryd camau cyfreithiol i atal gweithgareddau anghyfreithlon eraill. O siarad â’n rhanddeiliaid, mae’n eglur nad oes syniad gan lawer o bobl o’r cryn nifer o lythyron cyn gorfodi rydym yn ysgrifennu i orfodi dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus neu i sicrhau cydymffurfedd â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Rwy’n falch i ddweud ein bod, yn sgil y gwaith hwn,  yn dod i ben i newid ymddygiadau – fel arfer heb i bobl wybod amdano!

Bu 2017 yn flwyddyn o ddigwyddiadau arwyddocaol yr ydym wedi ymateb iddynt yn gyflym a chydag awdurdod.

Wrth i’r Llywodraeth weithio tuag at wneud Brexit yn wirionedd, rydym wedi cyflwyno cyflwyniadau arbenigol ar Fil (Ymadawiad) yr Undeb Ewropeaidd wrth iddo basio trwy’r Senedd. Rydym yn gweithio gyda seneddwyr i sicrhau na fydd hawliau pobl yn gwanhau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y wlad hon yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Dyma’r ymagwedd yr amlygom yn rhyngwladol pan siaradais yn Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn Genefa ym mis Hydref. 

Bu’r digwyddiadau diweddaraf yn achosion atgoffa pellach o’r heriau sylweddol o’n blaen wrth ymladd dros gydraddoldeb a hawliau dynol. Ar 14 Mehefin 2017, bu farw 71 o bobl yn drychinebus yn nhân Tŵr Grenfell mewn cartrefi dan ofal y Wladwriaeth. Fel canlyniad, lansiom brosiect i sylwi ar yr ymchwiliad cyhoeddus a’r dystiolaeth a glywa o ran safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol, a gwnawn argymhellion ym mis Ebrill 2018. 

Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn parhau i fod yn broblem feichus a phryderus. O ystyried ein rhôl reoleiddiol, ysgrifennom at brif gyflogwyr ledled Prydain i ofyn iddynt ddarparu tystiolaeth ar yr amddiffynfeydd sydd ganddynt ar waith i’w atal a lluniom arweiniad i helpu pob busnes i ddelio ag ef yn effeithiol. I’n helpu i ganfod beth sydd yn digwydd, lansiom arolwg, i’r rheiny oedd wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle neu wedi bod yn dyst iddo, i sicrhau bod lleisiau’r rheiny a effeithiwyd arnynt yn llywio’r atebion rydym am eu cynnig. 

Yn drist, telir menywod o hyd yn llai na dynion am wneud yr un gwaith. Ym mis Awst, cyhoeddom strategaeth bylchau cyflog ar gyfer taclo bylchau cyflog ar sail rhyw, anabledd ac ethnigrwydd. Byddwn yn gwneud rhagor o waith arno y flwyddyn nesaf i weld ein hargymhellion yn cael eu gwireddu. Ffurfia’r angen dybryd i leihau bylchau cyflog ran greiddiol ein Map ffordd i gydraddoldeb hil, sydd yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno strategaeth hil gynhwysfawr a hirdymor yng ngolau’i Archwiliad Anghyfartalwch Hil.

Cyflawnwyd llawer eleni ond gwn fod llawer mwy i’w wneud eto.

Hefyd, ym mis Tachwedd 2017, cafwyd datganiad y Gyllideb. Rydym yn pryderu’n fawr am yr effaith y mae newidiadau yng ngwariant y llywodraeth yn ei gael ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol. Ysgrifennom at y Prif Weinidog cyn y Gyllideb i amlinellu’n canfyddiadau ar effaith cronnol systemau treth a nawdd cymdeithasol. Er enghraifft, bydd incwm teuluoedd gydag oedolyn anabl yn cael ei leihau fesul £2,500 y flwyddyn, ac os yw’r teulu yn cynnwys plentyn anabl hefyd byddant yn colli £5,500 y flwyddyn. Gwnawn gyhoeddi’n hadroddiad terfynol ym mis Mawrth.

Ac yn olaf ond nid y lleiaf, rydym wedi cryfhau ein sail tystiolaeth yn ystod y llynedd i sicrhau bod ein hargymhellion polisi a’n proses gwneud penderfyniadau mor gadarn â phosib.

Lluniom Fframwaith Mesur sengl newydd i’n helpu casglu a dadansoddi data ar gynnydd cydraddoldeb a hawliau dynol trwy ein hadroddiadau ‘A yw Prydain yn Decach?’. Mae’r gwaith hwn yn berthnasol i Brydain gyfan ond rwy’n awyddus i sicrhau na fyddwn yn anwybyddu’r gwaith rhagorol yr ydym wedi ymgymryd ag ef yn yr Alban a Chymru eleni. Ymysg pethau eraill, gwnaethom berswadio Gwely a Brecwast Ucheldiroedd yr Alban yn llwyddiannus i ddileu’r ymadrodd ‘heterosexual friendly’ o’i wefan ar y sail nad oedd yn annog pobl LGBT i ddefnyddio’i wasanaethau. Yng Nghymru, mae mwy na 20 o gyflogwyr – gan gynnwys Llywodraeth Cymru – bellach wedi arwyddo ein haddewid Gweithio Ymlaen i wneud eu gweithleoedd y gorau y gallant fod i fenywod beichiog a mamau newydd.

Rwy’n hyderus bod y Comisiwn yn 2017 wedi gwneud mwy nag erioed i hybu cydraddoldeb ac amddiffyn hawliau dynol. Nid wyf yn tanbriso’r heriau sydd o’n blaen ond rwy’n parhau mor benderfynol y dylem ddefnyddio’n pwerau a’n safle unigryw i sybylu mwy o newid. Cyflawnwyd llawer eleni ond gwn fod llawer o hyd i’w wneud.

Nadolig Llawen a dymuniadau gorau, oddi wrthym oll yn y Comisiwn, i’r Flwyddyn Newydd.