
gan Rebecca Hilsenrath
Cyhoeddwyd: 16 Jul 2020
Y mis hwn dywedodd Llywodraeth y DU y byddant yn cyhoeddi casgliad hir ddisgwyliedig ei hymgynghoriad ar ddiwygio Deddf Cydnabod Rhywedd (GRA) 2004. Yn 2018, gwnaethant ofyn 5 cwestiwn allweddol i’r cyhoedd ynglŷn â’r broses gyfreithiol gyfredol ar gyfer oedolion yng Nghymru a Lloegr i gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC). Mae GRC yn galluogi pobl draws i gael eu rhywedd ei gydnabod gan y gyfraith a’i adlewyrchu ar eu tystysgrif geni. Ysgogodd yr ymgynghoriad mwy na 100,000 o ymatebion a bu’n bwnc dadleuol iawn.
Cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau i’r gyfraith, ysgrifennaf i ailadrodd ein safbwynt fel corff cydraddoldeb y genedl. Gwyddom fod hwn yn gyfnod trallodus i lawer o bobl sydd yn gofidio ar yr effaith y gallai diwygiadau gael ar eu bywydau. Gobeithio bydd eglurder a gonestrwydd yn helpu mynd i’r afael â rhai o’r gofidion hynny.
Pam mae angen moderneiddio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd?
Ers 2004, mae’r GRA wedi darparu mecanwaith ar gyfer dynion a menywod traws i newid eu rhyw cyfreithiol. Fodd bynnag, gwyddom mai dim ond nifer gymharol fechan o bobl draws sydd â thystysgrif cydnabod rhywedd (llai na 5,000 yn 2018 allan o bosibilrwydd a amcangyfrifwyd yn amrywio rhwng 200,000 a 500,000).
Fel pob proses arall, mae’n bwysig bod newid cydnabyddiaeth cyfreithiol eich rhywedd yn cael ei ddiwygio, ei foderneiddio a’i symleiddio.
Ers ein cyflwyniad i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ddwy flynedd yn ôl, buom yn myfyrio ar y gofyniad i briod neu bartner sifil gytuno i’w perthynas gyfreithiol barhau pan gaiff rhywedd ei bartner/phartner ei gydnabod yn gyfreithiol.
Rydym wedi ystyried y mater yn ofalus ac o ganlyniad wedi newid ein safbwynt blaenorol ychydig yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedi rhannu’r safbwynt hwn â Llywodraeth y DU. Yn ein barn ni, dylai GRC lawn gael ei chyflwyno mewn amgylchiadau pan fod priod neu bartner sifil wedi cael y cyfle i gyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i’r berthynas gyfreithiol barhau wrth gyflwyno GRC lawn ond heb wneud hynny cyn pen cyfnod penodedig. Credwn fod yr ymagwedd hon yn taro’r cydbwysedd iawn rhwng hawliau’r person traws a hawliau’i briod.
Rhaid amddiffyn hawliau pawb
Gwyddom fod gan bobl ofidion ynglŷn â diwygiadau’r GRA yn arwain at ddileu gwasanaethau un rhyw neu fannau menywod yn unig. Nid oes rheswm y byddai symleiddio’r broses ar gyfer cael GRC yn effeithio ar y mannau a gwasanaethau gwarchodedig hyn, a gwmpasir yn wahanol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hynny oherwydd nad yw’r amgylchiadau arbennig a amlinellir yn Neddf 2010, sydd yn caniatáu i sefydliadau drin pobl draws yn wahanol, yn dibynnu ar a oes GRC gan y person traws neu beidio. I ddarparu cadarnhad ar y pwynt pwysig hwn, ysgrifennom at y Gweinidog Cydraddoldebau, Kemi Badenoch AS, i ailadrodd bod angen diwygio’r GRA ond bod rhaid cadw darpariaethau Deddf Cydraddoldeb sydd yn amddiffyn hawliau menywod i gael mynediad i wasanaethau a mannau un rhyw. Yn ein barn ni, dylai canllaw ddarparu mwy o eglurder ar sut y dylai gwasanaethau un rhyw weithio mewn gwirionedd, i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei deall gan ddefnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth heb unrhyw amwysedd.
Angen trafodaeth oddefgar
Mae natur gynhennus y drafodaeth gyfredol yn golygu bod rhai pobl yn teimlo bod angen iddynt dynnu’u hunain yn ôl o’r trafodaethau oherwydd dwyster yr wrthwynebiad i’w safbwyntiau a’r niwed i’w iechyd meddwl.
Rhaid i ni feithrin amgylchedd y gellir trafod y materion, a godwyd wrth ddiwygio’r GRA, yn rhydd mewn awyrgylch goddefol gydag urddas a pharch. Bydd bob amser safbwyntiau cryf a gwahaniaethau barn ac arwydd o ddemocratiaeth iach yw hynny. Ond rhaid i hynny stopio pan mae’n troi i araith sydd yn annos trais neu rywun i ymladd. Yr unig ffordd i sicrhau bod pob un o’n hawliau’n cael eu hamddiffyn yn yr hir dymor yw sicrhau ein bod yn ceisio deall safbwynt ein gilydd.
Gwnawn barhau i ddefnyddio’n sail tystiolaeth a gwrando ar y safbwyntiau ar y naill ochr a’r llall i ddeall effaith bosib y diwygiadau.