Mae anghydraddoldeb hiliol yn y system droseddol yn gofyn am strategaeth gynhwysfawr

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 08 Sep 2017

Mis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Adolygiad Lammy ei ganfyddiadau rhagarweiniol i driniaeth a chynrychioliad lleiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Gwnaeth y rhain ddatgelu gwirionedd noeth: Mae pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu harestio, eu dedfrydu a’u cadw mewn carchardai tra diogel na phobl gwyn. Yr wythnos hon, daeth i’r amlwg hefyd fod adroddiad gan y Fonesig Elish Angiolini i farwolaethau yn nalfeydd yr heddlu - i fod ei gyhoeddi blwyddyn yn ôl - yn dangos bod nifer anghymesur o bobl ddu a phobl lleiafrifoedd ethnig yn marw pan maen nhw’n cael eu cadw yn nalfeydd yr heddlu.        

Wrth sylwi ar ganfyddiadau Adroddiad Lammy, soniais am angen brys i Lywodraeth y Deyrnas Unedig lunio strategaeth gynhwysfawr a chynaliadwy sydd ddim yn unig yn ceisio unioni anghydraddoldeb hiliol yn y llys, yn y carchar a sefydliadau ieuenctid diogel neu adsefydlu, ond sydd yn mynd i’r afael â materion systemig eangach lle mae lleiafrifoedd ethnig yn cael eu dal yn ôl yn barhaus ymhob maes bywyd.         

Heddiw, cyhoeddodd Adolygiad Lammy ei adroddiad terfynol, gan fanylu ar ei ganfyddiadau cyntaf a chyflwyno cyfres o argymhellion i daclo’r gwahaniaethau y mae lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu ar draws amryw o feysydd yn y system droseddol. Bûm yn ddiolchgar am y cyfle i eistedd ar fwrdd cynghori’r adolygiad, ac rwy’n croesawu’r goleuni y mae’n parhau i daflu ar broblemau sydd wedi hen galedu o fewn system a ddylai gael ei gynllunio ar egwyddorion ‘tegwch, ymddiriedaeth a chyfrifoldeb a rennir’.  

Mae’n galonogol i weld bod nifer o’r argymhellion a wnaed yn Adroddiad Lammy yn adlewyrchu gwaith y Comisiwn ei hunan a’i safbwynt ar faterion sydd yn herio cynnydd tuag at gydraddoldeb hiliol. Ar draws tri o’n hadroddiadau  – Uno Prydain Ranedig, A yw Prydain yn Decach? a’n cyflwyniad ym mis Awst 2017 i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol – rydym wedi:  

  • galw am fwy o gysondeb wrth gasglu data i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau polisi yn wirioneddol yn adlewyrchu sefyllfa lleiafrifoedd ethnig a’u bod yn effeithiol – cafodd hyn ei ddilyn yn gyflym gan gyhoeddiad y Llywodraeth ar Archwilio Gwahaniaeth Hiliol i archwilio sut mae ethnigrwydd yn effeithio’r modd y caiff pobl eu trin gan wasanaethau cyhoeddus. Yn ein cyflwyniad i Bwyllgor y CU ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol rydym wedi galw hefyd am ddata gwell ar ddioddefwyr trosedd casineb ar sail hil ac ar iechyd meddwl lleiafrifoedd ethnig.
  • canfod bod lleiafrifoedd ethnig yn nalfeydd yr heddlu yn arwyddocaol yn fwy tebygol o gael eu hatal yn gorfforol na phobl gwyn - mae hyn yn llywio datblygiad fframwaith hawliau dynol y byddwn yn ei rannu â rheoleiddion ac arolygwyr i sicrhau bod ataliaeth yn cael ei ddefnyddio’n gymesur.
     
  • amlygu diffyg amrywiaeth ethnig o fewn y farnwriaeth a heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, gan argymell arferion recriwtio yn seiliedig ar dystiolaeth a thryloywder sydd yn datblygu pib-linell o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Wth alw am newid systemig ym maes anghydraddoldeb hiliol, gwyddom fod arweinyddiaeth a modelau rôl positif yn hanfodol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Mae’r adolygiad hefyd yn argymell ymyriadau arloesol megis erlyniadau ‘wedi’u gohirio’ a fyddai’n rhoi cyfle i  ddiffynyddion gael adsefydlu a dargedir yn lle cyflwyno achos yn syth, yn ogystal â rhoi rôl i deuluoedd a chymunedau lleol ym maes gweithredu cyfiawnder ieuenctid. Mae modelau tebyg yn ymddangos i fod yn gweithio mewn rhannau eraill y byd ac maen nhw’n haeddu i gael eu hystyried yn y wlad hon.   

Fel y dengys canfyddiadau ein hadolygiad mwyaf i anghydraddoldeb hiliol, Uno Prydain Ranedig, nid yw pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig eraill yn ddarostyngedig yn unig i anfantais yn y system cyfiawnder troseddol, ond hefyd ym myd addysg, cyflogaeth, incwm, safonau byw a gofal iechyd  - meysydd sydd yn sylfaenol yn pennu cyfleoedd bywyd pobl. Maen nhw hefyd yn dioddef cryn dipyn yn fwy o drosedd casineb. Mae cyfraddau uwch o waharddiadau o’r ysgol, cynnydd yn y tebygrwydd o gael eu stopio a’u chwilio gan heddlu’r DU, a rhagfarn gymdeithasol sydd wedi hen galedu i gyd yn pwyntio at broblem llawer mwy  sydd ddim yn syml yn dechrau pan gân nhw eu cadw yn y ddalfa.

Mae’r cyrch am gydraddoldeb hiliol, felly, yn dechrau ar lefel llawr gwlad - bydd cydnabod y rhyngberthynas rhwng elfennau gwahanol fywydau pobl yn golygu y byddwn mewn sefyllfa well i fynd i’r afael a’r sbardunau sydd yn arwain i’r diwylliant ‘nhw a ni’ presennol yn y system cyfiawnder troseddol.

Nid yw ceisio cydraddoldeb hiliol yn fater yn unig i’r sawl sydd yn cael ei effeithio’n uniongyrchol ganddo; gellir dim ond uno rhaniadau pan fyddwn ‘ni’, fel cymuned, yn nodi’r problemau ac yn gweithio gyda’n gilydd i’w datrys. Er bod Adolygiad Lammy yn cynnig darlun digalon o’n system cyfiawnder troseddol, mae wedi darparu mewnwelediad dwfn a gwerthfawr i un maes bywyd a brofir gan bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig. Gobeithio, beth bynnag, y bydd yn bwydo i strategaeth hiliol llawer mwy cynhwysfawr a fydd hefyd yn cymryd cyfrif o feysydd eraill y mae lleiafrifoedd ethnig yn dioddef ergydion ynddyn nhw - dim ond y pryd hwnnw byddwn yn gweld newid sydd yn anferthol, cynaliadwy ac yn dra effeithiol.