Araith y Frenhines: cyfle a gollwyd ar gyfer cydraddoldeb a chyfannu’r rhwygiadau

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 29 Jun 2017

Mae’r ymosiadau arswydus ar ein ffordd o fyw ym Manceinion a Llundain wedi newid hwyl y wlad ac mae tân trasig Grenfell Tower yn Kensington wedi gadael marc annileadwy.

Rydym yn dal yn byw mewn gwlad sydd wedi’i rhannu rhwng y cyfoethog a’r tlawd - hen ac ifanc, du a gwyn, a phobl o ffydd wahanol. Rydym yn gwybod o’n hadolygiad i gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain bod eich cefndir yn gosod llwybr eich dyfodol.

Mae hawliau dynol yn hanfodol wrth ddiogelu ein diogelwch a’n rhyddid. Maen nhw’n tanategu cymdeithas sydd yn parchu urddas a gwerth pob unigolyn. Maen nhw’n ganolog i’r gwerthoedd yr ydym ni fel cenedl yn eu harddel. Eto, ar ôl yr ymosodiadau terfysgol ym Manceinion a Llundain, mae rhai pobl wedi galw am gyfyngu’r union hawliau a gwerthoedd y mae’r terfysgwyr yn ceisio eu tanseilio.

Mewn cyfnodau du, rydym yn troi at ein gwleidyddion i osod ansawdd yr arweinyddiaeth, gan sicrhau na fyddan nhw’n rhoi  buddioldeb gwleidyddol cyn anghenion a hawliau pobl ledled y wlad. Rydym yn disgwyl iddyn nhw rannu gweledigaeth ar gyfer Prydain yn y dyfodol sydd yn gallu ysbrydoli a thawelu’r meddwl. 

Daeth Araith y Frenhines mewn cyfnod pan oedd y wlad angen i’r Llywodraeth osod gweledigaeth bositif. Er ein bod yn croesawu’i hymroddiad i daclo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac i ddwyn deddfwriaeth yn ei blaen i ddiogelu dioddefwyr trais domestig, rydym o’r farn y bod cyfle wedi’i golli i ddod â’r wlad at ei gilydd o ran y gwerthoedd yr ydym yn eu harddel.

Mae Brexit ac ansicrwydd gwleidyddol yn dominyddu trafodaeth. Gallwch alw cytundeb Brexit yr hyn a fynnoch – llym neu ysgafn, neu goch, gwyn a glas – rhaid iddo ein gosod ar y llwybr i gadw a chryfhau hawliau yng nghyfraith y DU ac i barhau hanes hirfaith Prydain o degwch. Dyma’r amser i osod y weledigaeth ar gyfer Prydain ar ôl Brexit, gwlad sydd yn gwerthfawrogi urddas a gwerth pob unigolyn, un sydd yn amddiffyn ein diogelwch a’n rhyddid a lle bod gan bawb gyfle teg i lwyddo.

Mae ofn aflwyddiant gwleidyddol yn golygu bod cynlluniau i daclo’r problemau mawr yn ein cymdeithas wedi’u hepgor. Mae’r Bil Llysoedd yn dangos y cyfleoedd sydd wedi’u colli: dim ymateb i ddirywiad mynediad i gyfiawnder a achoswyd gan drefn ffioedd y Tribiwnlys Cyflogaeth, na mynd i’r afael â’r ‘gosb rhieni’ drwy sicrhau bod menywod beichiog yn gallu herio gwahaniaethu mewn amserlen sydd yn cydnabod y gwirioneddau o fod yn fam newydd. Dim ymateb i’n hymchwiliad ar farwolaethau oedolion yn y ddalfa yn galw am ddiogelu bywydau carcharorion yn well a phroblemau iechyd meddwl ganddyn nhw. Mae ein rhanddeiliaid hefyd wedi mynegi eu pryder ynglŷn â chaiff sbectrwm llawn materion cydraddoldeb ei gydnabod yn llawn yng nghytundeb presennol y Llywodraeth gyda’r DUP. Byddwn yn monitro’r datblygiadau’n fanwl.

Hoffwn weld mwy o uchelgais yng ngweledigaeth y Llywodraeth ynglŷn â’r math o wlad yr ydym yn dymuno ei chael ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er enghraifft, rydym wedi galw ar yr hawl i gydraddoldeb gael ei hamddiffyn yng nghyfraith y DU fel y gellir profi pob gweithred a deddf gan y llywodraeth yn erbyn yr hawl sylfaenol hon.

Ac mae camau eisoes yn bodoli y gall y Prif Weinidog eu cymryd i ddangos ei hymroddiad i gydraddoldeb. Nid yw rhannau o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 eto wedi’u rhoi ar waith. Nid yw’r ddyletswydd gymdeithasol economaidd mewn grym eto, dyletswydd a allai sicrhau bod y llywodraeth yn taclo’r problemau y mae’r rheini sydd yn cael eu gadael ar ôl yn eu hwynebu - megis crin nifer o drigolion Grenfell Tower. Byddai’n golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus mawr, fel Neuaddau Dinas, Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ystyried a yw eu polisïau yn lleihau anghydraddoldeb yn ein cymdeithas. Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cyflwyno’r ddyletswydd hon cyn hir a, thrwy weithredu Rhan 1 y  Ddeddf Cydraddoldeb yn Lloegr, byddai’r Llywodraeth yn anfon arwydd eglur ei bod o ddifrif am daclo’r bwlch rhwng y brig a’r gwaelod ledled Prydain.

Ni all llawer o bobl anabl mewn eiddo sydd wedi’u rhentu fynd i mewn na gadael eu cartrefi eu hunain yn hawdd ac yn ddiogel gan fod landloriaid yn gwrthod gwneud mannau hygyrch sydd yn gyffredin i bawb megis cynteddau, grisiau a chyfleusterau hamdden. Mae gan y Ddeddf Cydraddoldeb ddarpariaeth eisoes a fyddai’n gofyn i landlordiaid wneud yr addasiadau rhesymol hyn. Mewn gair, mae angen i’r Llywodraeth eu dwyn i rym.

Nawr yw’r amser perffaith i fwrw golwg eto ar ddeddfwriaeth trosedd casineb yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod y sawl sydd yn ymfflamychu rhwygiadau yn ein cymdeithas yn atebol i’w gweithrediadau. Mae amddiffynfeydd cyfreithiol anghyfartal wedi creu system dwy-haen lle y gall achosion casineb gwaethygedig ar sail hil a chrefydd eu herlyn yn llymach na’r rheini a gymhellwyd gan anabledd, statws trawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae angen i’r Llywodraeth lansio adolygiad graddfa fawr o droseddau gwaethygedig  a darpariaeth dedfrydu i anfon neges gref bod ein gwerthoedd o barch, tegwch a herio anoddefgarwch yn ganolog i’n hunaniaeth cenedlaethol.

Mae rhai elfennau Araith y Frenhines yn darparu cyfleoedd i’w croesawu ar gyfer cynnydd. Rydym yn aros gyda diddordeb am adolygiad yr Adran Iechyd i wahaniaethu yn y gweithle o ran iechyd meddwl, ac annog ymgynghori helaeth a llawn gyda phobl anabl ar gyfer unrhyw gynigion er newid. Byddwn hefyd yn bwrw golwg yn ofalus ar gynigion ar gyfer Strategaeth Gwrthderfysgaeth a Chomisiwn newydd ar gyfer Gwrthsefyll Eithafiaeth. Gwnawn wrando ar y dadleuon, i ddeall a yw newidiadau posibl yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn gyson â’n hawliau.

Mae Araith y Frenhines wedi gosod agenda’r Llywodraeth, ac mae’r drafodaeth wedi rhoi cyfle i Seneddwyr ei chwestiynu. Wrth i’r drafodaeth ddod i ben rydym yn gofyn i’r Llywodraeth arddangos sut bydd yn symud yr agenda cydraddoldeb a thegwch yn ei blaen a gosod gweledigaeth bositif ar gyfer gwlad y gall y bobl oll uniaethu â hi.