Sign outside Manchester Civil Justice Centre Sign outside Manchester Civil Justice Centre

Blaenoriaethu ein gwaith cyfreithiol

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 12 Apr 2017

Fel cyfreithiwr roedd yn anochel y byddwn, ar ôl cael fy mhenodi fel Cadeirydd, yn awyddus i’r Comisiwn ganolbwyntio mwy ar ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol. Rwy’n teimlo’n gryf iawn y dylem ddod yn rheolydd mwy cyhyrog. Wrth wneud felly, gallwn gefnogi sefydliadau ac unigolion i gyflawni eu rhwymedigaethau cydraddoldeb a hawliau dynol a, pan fo’n angenrheidiol, helpu pobl i orfodi’u hawliau.

Rwy wrth fy modd bod tîm cyfreithiol dawnus ac ymroddedig gennym, ac eleni mae gennym nifer o lwyddiannau eisoes o dan ein gwregys. Ond yr hyn sydd yn glir i mi yw nad yw llawer o bobl yn gwybod digon am yr hyn a wnawn a sut y defnyddiwn ein pwerau cyfreithiol. Mae’r gwaith hwn yn aml yn digwydd dan y radar, ac mae angen i ni hysbysu fwy o bobl yn ei gylch.  

Un o’r llwyddiannau rwy yn fwyaf balch ohono yw ein hymgyrch beilot gyfreithiol i helpu gwella mynediad i gyfiawnder ar gyfer pobl sydd wedi dioddef gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae mynediad i gyfiawnder yn fater allweddol i ni: er y gallai gwlad bod â’r deddfau cydraddoldeb a hawliau dynol cryfach yn y byd, nid yw o ddefnydd mawr os caiff ei dinasyddion eu hamddifadu o gyfiawnder oherwydd y gost.

Rôl y Comisiwn yw cymryd golwg strategol mewn achosion cyllido a fydd yn helpu egluro’r gyfraith ac a fydd o fudd i nifer fawr o bobl a effeithiwyd arnyn nhw. Fodd bynnag, yn yr ymgyrch beilot hon penderfynom gymryd dull gwahanol a gwahodd atgyfeiriadau ar gyfer cynrychioliad a chyngor cyfreithiol mewn achosion ar lawr gwlad, sydd yn eistedd y tu allan i’r cylch gwaith hwn. Achosion sydd yn gysylltiedig â meysydd pwysig cyflogaeth, addysg a mynediad i wasanaethau ar gyfer pobl anabl. Rydym yn dal yn aros am werthusiad terfynol y gwaith hwn, ond mae’r arwyddion yn galonogol iawn. Rydym wedi ystyried mwy na 150 o achosion ar gyfer cymorth ac rydym wedi caniatâi mwy na 100 o’r rhain - ymhell dros y targed a osodom arnom ein hunain ychydig fisoedd yn ôl. Bydd yr ymgyrch beilot yn golygu y byddwn yn gallu symud llawer mwy o achosion yn gyflym yn eu blaen na fyddai fel arall yn gweld golau dydd. 

Mae achos Owen Porter, bachgen 11 oed, yn enghraifft wych o sut mae’r gwaith hwn yn helpu pobl. Mae parlys yr ymennydd gan Owen ac mae’n defnyddio cadair olwyn, ond ni all dal trenau o’i orsaf leol gan nad oes mynediad i bobl anabl yno. Gan fod teulu Owen yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus, mae hyn yn golygu teithiau llafurus iddyn nhw ar gyfer apwyntiadau ysbyty a diwrnodau hamdden. Bydd ein coffrau yn ei helpu i ddwyn achos yn erbyn Network Rail i sicrhau bod yr orsaf yn cynnig mynediad i gadeiriau olwyn.

Yn gyffredinol rydym wedi gallu cynnig mwy na £250,000 o gymorth cyfreithiol a fydd yn darparu llwybrau uniongyrchol i gyfiawnder ar gyfer pobl anabl yn wynebu ystod o broblemau. Mae’r ymgyrch beilot wedi’n galluogi i gasglu gwybodaeth werthfawr ar y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu a gobeithio bydd yn ein helpu i fabwysiadu strategaethau tebyg ym meysydd eraill gwaith y Comisiwn yn y dyfodol.

Efallai bod y gweithgareddau anffurfiol, cyn-gorfodi yr ydym yn ymgymryd â nhw fel rhan o’n gwaith cyfreithiol yn llai hysbys. Un enghraifft o hyn yw sut rydym yn gweithio gyda chlybiau’r Uwch Gynghrair i wella hygyrchedd meysydd pêl droed i ddefnyddwyr cadair olwyn a chefnogwyr anabl eraill. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo a byddwn, maes o law, yn adrodd ar sut mae’r clybiau yn ymateb. Gan ddefnyddio’n pwerau cyn-gorfodi, rydym hefyd yn ddiweddar wedi darbwyllo cwmni gwyliau i ddileu cyfyngiadau a oedd yn awtomatig yn gwrthod i gyblau o’r un rhyw neilltuo gwyliau. At hynny, rydym wedi gweithio gyda chadwyn genedlaethol o westai i wella’r hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth a gynigwyd i’w staff ar ôl iddyn nhw fod yn aflwyddiannus mewn achos gwahaniaethu hiliol yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.

Yn sgil y math hwn o waith cyfreithiol – yn aml yn anweledig ac yn y cefndir – cafwyd rhai o’r newidiadau mwyaf o ran polisi cwmni a gwasanaethau i bobl. Byddai’n llawer gwell gennym weithio mewn partneriaeth â busnesau, yn hytrach nag yn eu herbyn, ond pan fo angen i ni fod yn fwy penderfynol nid oes ofn arnom i ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol i wthio newid.

Bu’n ddechrau cryf i 2017 gyda nifer o fuddugoliaethau cyfreithiol pwysig hyd yn hyn. Gwnaethom ariannu achos Doug Paulley yn erbyn FirstGroup yn y Goruchaf Lys, sydd wedi helpu i roi diogelwch cyfreithiol gwell i bobl anabl wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Drwy gefnogi Mr Smith yn ei achos yn erbyn Pimlico Plumbers, gwnaethom helpu diogelu hawliau gweithwyr yn yr ‘economi gig’. Rydym hefyd yn aros am nifer o ddyfarniadau dros yr ychydig fisoedd nesaf, a fydd, gobeithio, yr un mor llwyddiannus i gyflenwi newidiadau cyfreithiol pellach.

Wrth i ni gyhoeddi ein Cynllun Busnes Newydd ar gyfer 2017 i 2018, rwy’n hyderus bydd y Comisiwn yn gweithio hyd yn oed yn galetach i ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol i ddiogelu hawliau pobl  i degwch, urddas a pharch.