
gan Gregory Crouch
Cyhoeddwyd: 27 Oct 2017
Nid ydych yn pesgi mochyn drwy ei bwyso, neu dyna a ddwed hen ddihareb. Mae felly pan ddaw i fesur cynnydd ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol.
Efallai y gwyddom, er enghraifft, fod plant ag anghenion addysg arbennig bron yn saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ysgol na’r rheini heb anghenion o’r fath. Neu fod y gyfradd ddi-waith i bobl o leiafrifoedd ethnig oddeutu dwywaith yn fwy nag yw i bobl Gwyn. Nid oes mawr o werth i ystadegau o’r fath, fodd bynnag, heblaw i ni’u defnyddio i newid pethau er gwell. Ond fe ddychwela i at hynny yn y man.
Teclyn yw’n fframwaith mesur newydd, a gyhoeddom heddiw, y byddwn yn ei ddefnyddio i fonitro cynnydd tuag at fwy o gydraddoldeb a gwireddiad hawliau dynol ym Mhrydain. Mae’n cwmpasu chwe maes pwysig bywyd neu ‘barthau’ fel yr adnabyddwn ni nhw, gan gynnwys addysg, gwaith, safonau byw, iechyd, cyfiawnder a diogelwch personol, a chyfranogiad. Mae pob un parth yn cynnwys set o ddangosyddion a mesurau sydd yn ein caniatáu i ddilyn newid dros gyfnod a monitro a ydym yn llwyddo neu beidio i wireddu’r dyfodol yr ydym yn dymuno amdano.
Bydd y fframwaith yn sail i’n hadolygiad mawr nesaf o gydraddoldeb a hawliau dynol, y mae gwaith eisoes wedi’i ddechrau arno. Cyhoeddir ein canfyddiadau, a’u cyflwyno gerbron y Senedd, yn nyddiau hwyr 2018, gan fwrw golwg i’r graddau y bu newid ers i ni adrodd ddiwethaf ar gynnydd cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn A yw Prydain yn Decach? (2015).
I ymestyn y trosiad ychydig, tafol tra uwch-dechnoleg yw’r fframwaith ar gyfer mochyn tra mawr a chymhleth.
Mae’r adroddiad fframwaith mesur yn ddogfen sylweddol. Mae’n amlinellu’n gweledigaeth o’r math o Brydain yr hoffem ei gweld, yn ogystal â’r cefndir damcaniaethol, ac eglura phob parth yn fanwl. Efallai na fydd y manylder technegol at fryd pawb ond rydym yn falch o gymryd y dull cadarn, systematig, sydd yn fawr ei fri yn rhyngwladol, a ddisgrifir yn yr adroddiad.
Gwnaethom ymgynghori’n helaeth ar y fframwaith drafft a, maes o law, byddwn yn cwrdd â phwyllgorau seneddol, adrannau’r llywodraeth a chyrff eraill i glywed eu barn ar y fersiwn terfynol. Mae rhai sefydliadau, megis awdurdodau lleol, yn edrych ar sut y gallan nhw gymwyso’r fframwaith yn eu sefyllfaoedd lleol. Mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i’w weld.
Efallai eich bod o’r farn bod ‘hynny’n wych’, ond ‘beth am hynny? Pa wahaniaeth y gwnaiff ef?’ Rydym o’r farn ei bod yn hanfodol i dystiolaeth gadarn ategu’n gwaith yn y meysydd lle mae anghydraddoldeb yn arbennig o ddifrifol. Gwnawn ddefnyddio’r wybodaeth honno i lywio’n gwaith a dadlau’r achos o blaid newid – boed a ydym yn mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, taclo heriau iechyd meddwl neu wthio am welliannau ym maes tai hygyrch.
Nid yw’r fframwaith mesur yn nod ynddo’i hun; map ydyw i’n cymryd i’r man sydd angen i ni ei gyrraedd. Wrth ein galluogi i fonitro cynnydd, atchweliad neu farweidd-dra ar hawliau dynol a chydraddoldeb, dangosa inni lle dylem ganolbwyntio’n hymdrechion ni ac ymdrechion pobl eraill i wireddu tegwch i bawb. Mewn geiriau eraill, fe ysgoga e ni allan o’n seddau a’n sbarduno i weithredu - i besgi’r mochyn.
Darllenwch fwy ar sut rydym yn mesur cydraddoldeb a hawliau dynol neu lawr lwytho’r fframwaith mesur newydd.