Walking stick in the street Walking stick in the street

Y bobl fwyaf difreintiedig yn colli mwy o dir

gan Verena Braehler

Cyhoeddwyd: 09 Mar 2016

Heddiw cyhoeddom ‘Is England Fairer?’, adolygiad mwyaf y wlad erioed ar gynnydd cydraddoldeb a hawliau dynol. Datgela’r adolygiad fod rhai pobl yn ein gwlad yn colli mwy o dir na gweddill y boblogaeth ac wedi’u cloi allan o ran cyfleoedd - maen nhw’n cynnwys Sipsiwn, Teithwyr a Roma, pobl ddigartref, pobl ag anableddau dysgu, a mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Digwydd hyn oherwydd eu bod yn dioddef aml-anfanteision ac yn wynebu rhwystrau neilltuol wrth gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus.

Mae Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn dioddef anghydraddoldeb mewn ystod eang o feysydd. Mae eu plant, er enghraifft, yn llawer mwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ysgol, ac mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant Sipsiwn a Roma a disgyblion gwyn wedi agor dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Mae pobl ddigartref yn dioddef gan aml-anfanteision a gallai rhai ymatebion polisi i ddigartrefedd, megis y system tai gyfredol, ddyfnhau’r anghydraddoldeb sydd yn bodoli eisoes, gyda chanlyniadau iechyd a chymdeithasol economaidd difethol i’r unigolion dan sylw. Mae disgwyliad oes dynion digartref yn 26 o flynyddoedd yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol, ac i fenywod digartref mae’n 37 o flynyddoedd yn llai. Mae pobl ddigartref hefyd yn defnyddio gwasanaethau iechyd penodol yn drwm. Maen nhw’n defnyddio gwasanaethau ysbyty, gan gynnwys Damweiniau ac Achosion Brys, rhwng tair a chwe gwaith yn fwy na’r boblogaeth yn gyffredinol.

Mae pobl ag anableddau dysgu yn parhau i wynebu anfantais a gwaharddiad mewn sawl agwedd o’u bywydau. Mae graddau marwolaeth ymysg pobl ag anableddau dysgu canolig i ddifrifol yn deirgwaith yn fwy nag i’r boblogaeth yn gyffredinol. Mae llawer o bobl ag anabledd dysgu yn byw mewn cartrefi gofal preswyl a’r rhai i gleifion mewnol a chân nhw’n aml eu derbyn iddyn nhw am gyfnodau anghymesur o hir, mewn lleoliadau amhriodol, ac yn bell iawn o’u teulu a’u cartref. Ar sawl achlysur, ceir marwolaethau diangen yn sgil ansawdd isel gofal iechyd i bobl ag anableddau dysgu. 

Mae mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dioddef ystod o anghydraddoldeb a phroblemau gwahanol. Nid yw hawliau yn ymwneud â mynediad i gyflogaeth wedi eu rhoi ar waith yn llwyr eto i rai gweithwyr mudol ac mae’r gweithwyr hyn gan mwyaf mewn swyddi cyflog isel, sgiliau isel ac mewn sectorau sy’n cael eu rheoleiddio’n wael, ac maen nhw’n agored i gam-fanteisio. Rhywbeth sydd yn ofid mawr yw’r driniaeth ar sail hil a chrefydd mae rhai mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu hwynebu ac sydd yn eu stigmateiddio. Mae camsyniadau eisoes yn rhemp ymysg y cenedlaethau iau. Dangosodd ymchwil gan elusen addysgol gwrth-hiliaeth fod 60% o blant 11 i 14 oed a holwyd o’r farn bod yr honiad bod ‘ceiswyr lloches a mewnfudwyr yn dwyn ein swyddi’ yn wir.

Yr hyn sydd yn gyffredin i bob un o’r grwpiau hyn yw bod eu problemau yn parhau’n gudd a’u bod yn cael llai o flaenoriaeth gan benderfynyddion sy’n gosod blaenoriaethau ac yn llywio gwasanaethau. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod diffyg data ar brofiadau’r grwpiau hyn sydd yn ei wneud yn anodd asesu pa mor deg yw Lloegr mewn gwirionedd. Mae rhwystrau diwylliannol, stigma a stereoteipio, a bod ag anghenion gwasanaeth gwahanol na chaiff eu diwallu gan wasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, yn ffactorau pellach a all ddwysáu’r anfanteision mae’r bobl hyn yn eu hwynebu eisoes.

Nid ydym o hyd yn gwybod digon am sut y gallwn gefnogi’r grwpiau hyn orau a lleihau anghydraddoldeb. Mae ‘Is England Fairer?’ wedi nodi sawl maes pwysig sydd angen eu gwella yn y dyfodol. Rhaid i ni wella’r dystiolaeth a’n gallu i asesu pa mor deg yw cymdeithas. Yr ail un yw taclo’r anghydraddoldeb a ddioddefir gan y rheini sydd o dan yr anfantais fwyaf, drwy ddatgloi cyfleoedd a gwella mynediad i wasanaethau cyhoeddus.  

Gobeithio bydd cyrff statudol ag eraill sydd â diddordeb yn y meysydd hyn yn ystyried y ddwy her hyn – a’r saith arall a nododd yr adroddiad – a meddwl am ymdrechion pendant ac ar y cyd dros y blynyddoedd i ddod i fynd i’r afael â nhw. Mae’r heriau’n anferth ond gwnawn ni yma yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr hyn a allwn ei wneud i gyfrannu at Loegr decach, a gobeithio y gwna eraill hefyd.