Cymryd sylw o’r bwlch cyflog: creu Prydain decach

gan Caroline Waters

Cyhoeddwyd: 15 Aug 2017

Ym mis Mehefin, cafodd y BBC yn gwbl briodol ei daflu i mewn i storm dywod pan gyhoeddodd cyflogau ei ddoniau ar yr awyr, gan ddatgelu bod dau draean y rheini oedd yn ennill mwy na £150,000 yn ddynion. Unwaith eto fe anogodd sgyrsiau anghysurus am paham yr oedd menywod yn ennill llai am wneud yr un swydd â dynion (cyflog cyfartal) a phaham y mae menywod yn ymddangos yn profi gradd yr awr is ar gyfartaledd na dynion ar draws ystod o rolau (y bwlch cyflog rhyweddol).

Mae’r galwadau am i fylchau cyflog rhyweddol gael eu lleihau  – ac nid o leiaf eu dileu – ar eu mwyaf croch erioed, eto fyth, yn glir, mae ffordd faith gennym o hyd i’w throedio i oresgyn y rhwystrau i wireddu cyflog cyfartal.

Heddiw mae’r Comisiwn yn cyhoeddi canfyddiadau ei adroddiad mwyaf sylweddol i fylchau cyflog. Nid yn unig y mae hwn yn adeiladu ar ei ymchwil blaenorol ar fylchau cyflog i fenywod ond mae hefyd yn archwilio’r sefyllfa i leiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Dengys fod menywod, rhai lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl yn dal yn cael eu hunain mewn galwedigaethau isel eu tâl ac isel eu sgiliau gydag ychydig o’r bron o ddyrchafiadau i uwch swyddi. Mae menywod yn parhau i brofi cosb cyflog pan ddaw i eni a magu plant, gyda nifer fawr ohonyn nhw’n gorfod cymryd egwyl o’r farchnad llafur llawn amser i ofalu amdanyn nhw. Mae’r radd cyflogaeth i ddynion anabledd bron yn draean yn is nag yw i ddynion heb anabledd, ac mae mewnfudwyr Pacistanaidd a Bangladeshaidd sydd yn fenywod yn cael eu hunain yn barhaus mewn cyflogaeth isel ei gyflog.

Caiff camau cynyddol eu cymryd gan lywodraeth y DU, llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn. Fel y gwelom gyda’r BBC, mae tryloywder yn gynghreiriad allweddol, gydag adrodd ar y bwlch cyflog yn dechrau megino rhai sgyrsiau anghyfforddus ond angenrheidiol.

Bydd creu gobeithion gyrfa well a mwy hyblyg i fenywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl hefyd yn helpu lleihau anghydraddoldebau cyflog ond ni wnaiff ddigwydd heb degwch o ran recriwtio, dyrchafu a phenderfyniadau cyflog. Mae eisiau mwy na symudiad rhifol arnom. Y mesur anghywir yw canolbwyntio’n unig ar rifau pennawd a defnyddio’r rhain i farnu ymrwymiad cyflogwr i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn ei sgil gellir cael penderfyniadau sydd yn gweithredu yn erbyn buddiannau hir dymor menywod. Er enghraifft, gallai allanoli rolau isel eu cyflog megis glanhau lleihau’r ffigwr bwlch cyflog ond gall arwain i amodau gweithio salach i fenywod sydd yn amlycaf yn y diwydiant hwn. Gan fod y rhan fwyaf o bobl sydd yn cael eu dyrchafu yn dechrau ar gyflog is na’u cydweithwyr mwy profiadol, gallai peidio â dyrchafu pobl â nodweddion gwarchodedig ostwng y bwlch cyflog ond  o’r braidd mai dyna’r peth priodol i’w wneud!

Mae taclo anghydraddoldeb yn y gweithle yn gofyn am ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r agweddau a thueddiadau, sydd wedi hen galedu, sydd wedi cyfrannu i sut mae menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn cael eu trin yn y gwaith. I ategu’r ymchwil a gyhoeddwyd heddiw, rydym wedi lansio ein strategaeth gyntaf ar fylchau cyflog sydd yn amlinellu camau pendant i herio’r status quo a chyflawni newid. Un o’n hargymhellion yw annog merched ifanc i godi eu huchelgeisiau a gwella eu gobeithion o gael eu penodi i swyddi uwch eu cyflog drwy ddewis pynciau a gyrfaoedd y tu hwnt i’r rheini sydd yn rhwym i arferion rhyweddol disgwyliedig. O’r braidd mai gwyddoniaeth rocedi yw, nid yw’n newydd, ond pan ddigwydda bydd yn newid cyfleoedd bywyd am genedlaethau.

Un arall yw i gyflogwyr hysbysebu pob swydd ar bob lefel gydag opsiwn o weithio hyblyg. Mae’n anffodus bod gallu menyw i ddewis swydd sydd yn adlewyrchu’i sgiliau yn cael ei ddylanwadu gan yr effaith y gall gael ar agweddau sylfaenol eraill ei bywyd - gyrfa yn erbyn teulu yw’r un mwyaf cyffredin. Mae unioni’r cyfle hwn yn gofyn i lywodraethau a sefydliadau i weithio ar y cyd i annog polisïau sydd yn helpu dynion i chwarae rôl fwy gweithredol wrth fagu’u plant. Mae’r dymuniad yno; nid yw’r cymhelliad. Sut all cymdeithas barhau i warafun gyrfaoedd i fenywod, a mynediad i’w tad i blant er mwyn ychydig hyblygrwydd sydd mewn gwirionedd yn gwneud y rhan fwyaf o sefydliadau yn fwy  cynhyrchiol?

Ym mis Mehefin ysgrifennais am yr archwaeth gref sydd yn bodoli i dadau i weithio’n fwy hyblyg yn y gweithle a rhannu cyfrifoldebau gofal plant yn fwy cyfartal. Bydd cyfuniad o enillion cymharol is i ddynion pan ydyn nhw ar absenoldeb tadolaeth, gofal plant drud, a diwylliant sydd yn gweld tadau yn llai bodlon i ofyn am weithio hyblyg, yn symud y baich, dro ar ôl tro, ar famau fel y prif ofalwyr. Yn sgil hynny, am rai misoedd o leiaf, nid eu gyrfaoedd yw eu blaenoriaeth.      

Gallai dechrau symud y naratif hwn, nad yw o’r oes hon, fod mor syml â gwella hawliau tadolaeth i dadau. Rydym yn argymell bod llywodraeth y DU yn cyflwyno absenoldeb rhiant ‘ei ddefnyddio neu’i golli’ i dadau sydd yn disodli cyfanswm sylweddol eu hincwm coll ac yn cynnig absenoldeb i dadau fel rhywbeth i’w ychwanegu i absenoldeb mamolaeth. Bydd hyn yn darparu cymorth ychwanegol i’r teulu yn hytrach na gostwng hawl y mamau.  

Mae cymryd camau brasach i leihau bylchau cyflog rhyweddol, ethnig ac anabledd yn sylfaenol wrth greu Prydain decach. Mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes da: gallai gostwng y bwlch rhyweddol ychwanegu £600 miliwn y flwyddyn i’r economi erbyn 2025; gallai cynyddu cyfranogiad lleiafrifoedd ethnig ychwanegu £24 biliwn; a gallai haneru’r bwlch cyflogaeth o ran anabledd ostwng yn sylweddol y £9 biliwn y mae cyflogwyr yn ei golli'r flwyddyn oherwydd costau yn gysylltiedig â chyflog absenoldeb salwch. Rydym am i’r llywodraeth a chyflogwyr i roi hyn ar frig eu hagenda ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i roi’r argymhellion yn ein strategaeth ar waith. Wedi’r cyfan, pa bris fyddech yn ei roi ar wneud y peth iawn?