Hanes LGBT yn dysgu gwersi defnyddiol

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 07 Feb 2019

Bydd rhai pobl yn gofyn pam rydym yn dathlu Mis Hanes LGBT bob mis Chwefror.

Er y bu cryn dipyn o gynnydd yn ddiweddar wrth gydnabod hawliau pobl LGBT, ac rydym wedi symud yn hynod o gyflym oddi ar erledigaeth i gydnabyddiaeth gyfreithiol gyfartal, rwy o’r farn ei bod, unwaith y flwyddyn, yn werth oedi am funud i fyfyrio ar hyn a sut y digwyddodd.

Mae llawer i’w wneud o hyd, ond rwy o’r farn y gall pawb ddysgu gan wersi’r hanner canrif ddiwethaf a’u defnyddio i fynd i’r afael â’r rhai o’r heriau y wynebwn yn y gymdeithas sydd ohoni.

Hyd yn oed  ar ôl cyflwyno’r Ddeddf Troseddau Rhywiol yn 1967, a wnaeth yn rhannol gyfreithloni cyfunrywioldeb rhwng dynion cydsyniol, nid oedd pethau’n hawdd o bell ffordd.

Fe ddes i oed yn y 1970au, ac fel dyn ifanc hoyw, anodd oedd dychmygu diwrnod pan fyddai cydraddoldeb cyfreithiol gennym – heb sôn am wleidyddion, enwogion, sêr chwaraeon ac arweinwyr busnes hoyw yn arddel yn gyffredin eu rhywioldeb yn agored.

Heddiw, hawdd yw anghofio ei fod unwaith yn arferol yn gyfreithiol i wahaniaethu yn erbyn pobl hoyw yn y gweithle, nad oedd yn bosib i’n perthynas gael ei gydnabod yn gyfreithiol, ac nad oeddem yn cael ein hystyried yn addas i fabwysiadu neu fagu plant.

Anodd oedd arddel eich rhywioldeb hoyw yn gyhoeddus yn y gweithle, a chafodd y rhagfarnau cyfreithiol yr adeg honno eu cryfhau gan fygythiad HIV ac AIDS.

Heddiw, mewn cyfnod pan fo gan bobl LGB gydraddoldeb cyfreithiol ac mae busnesau yn cystadlu am fod y cyflogwr gorau o bobl LGBT, ni allai cymdeithas o’r fath ymddangos ond fel atgof. Anodd yw cofio weithiau pam yr oedd hi mor galed i lawer o bobl siarad am eu bywydau personol a gorfod eu cadw’n gyfrinachol.

Ac eto, er mor rhyfeddol efallai y bu’r cynnydd hwn, nid yw wedi newid agweddau’r gymdeithas i bobl hoyw dros nos. Mae’n dibynnu’n fawr ar ble rydych yn byw. Mae bwlio yn yr ysgol, problemau iechyd meddwl a throseddau casineb yn dal i fod yn faterion difrifol sy’n effeithio’n anghymesur ar y gymuned LGBT.

Y newyddion da yw bod yr ymwybyddiaeth amdanynt yn cynyddu. Rwy’n falch bod y llywodraeth yn ddiweddar wedi cyhoeddi’i Chynllun Gweithredu LGBT. Datblygiad addawol yw sy’n dangos mwy o ffocws ac arweinyddiaeth mawr ei angen, ac mae’n darparu adnodd ychwanegol i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Yr her yw sicrhau bod gweithredu gwirioneddol a newid eglur yn digwydd yn sgil yr ymrwymiad hwn – yn arbennig i aelodau ifanc y gymuned LGBT.  

Wrth i ni ddathlu cydraddoldeb cyfreithiol i bobl hoyw, hawdd hefyd yw edrych heibio’r ffaith nad yw cydnabyddiaeth gyfreithiol i’r gymuned drawsryweddol wedi’i gyflawni o bell ffordd. Yn wir, mae rhywfaint o’r camddealltwriaeth y gwelom yn y drafodaeth LGB yn y 70au a’r 80au bellach yn weladwy yn y drafodaeth bresennol ar gyfer fwy o hawliau i bobl drawsryweddol.

Ni ddylai cydraddoldeb fyth fod yn gêm sero-swm – ond eto i gyd, wrth hyrwyddo hawliau pobl drawsryweddol mae angen i ni ddeall y sensitifrwydd posibl o ran hawliau menywod.

Pa wersi o hanes diweddar LGBT all ein helpu i gyflawni cynnydd yn y trafodaethau mawr sy’n wynebu’r wlad hon - boed o ran y drafodaeth ynghylch hawliau trawsrywedd neu gau’r rhwygiadau ar ôl Brexit?

Hoffwn i ni fyfyrio ar rhai o’r ymagweddau sydd wedi helpu cyflawni’r newidiadau llwyddiannus y bu i ni eu gwireddu hyd yn hyn:

1. Gwrando ar safbwyntiau’ch gwrthwynebwyr

Os ydych yn mynd i gyflawni newid ystyrlon, mae’n bwysig gwrando ar safbwyntiau’ch gwrthwynebwyr.

Dylem ddysgu gan ddewrder personol rhai unigolion tra ymroddedig a osododd weledigaeth eglur o fyd cyfartal i bobl hoyw, er iddynt weithiau bod yn amhoblogaidd  yn eu cymunedau’u hunain oherwydd roeddent yn fodlon  ‘cyfaddawdi’ drwy ymgysylltu mewn trafodaeth ddifrifol ac adeiladol â phobl a oedd yn anghytuno â nhw.

2. Bod yn realistig ynglŷn â pha mor gyflym y gall newid ddigwydd

Mae angen i ni fod yn bragmataidd a chytbwys. Yn fy marn i, mae’r llwybr tuag at gydraddoldeb cyfreithiol llawn i’r gymuned LGB wedi’n dysgu er bod angen i ni fod ag amcanion uchelgeisiol, bod rhaid i ni hefyd gymryd pobl gyda ni,– boed seneddwyr neu’r cyhoedd – yn ôl eu pwysau’u hunain.

Gall hynny fod yn rhwystredig. Mae’n gofyn am amynedd, ymagwedd strategol hir dymor, ac ymwybyddiaeth gytbwys ac ystyrlon y gall hawliau weithiau gwrthdaro yn erbyn ei gilydd; gallai hybu un set o hawliau ddarfu ar hawl arall.  

3. Bod yn barchus wrth drafod

Un o’r rhesymau bod agweddau wedi newid i bobl LGB yw’r ffaith i ni ymgymryd yn barchus â thrafodaethau. Siŵr iawn, roedd pobl yn grac ac yn rhwystredig ar brydiau - ond cafwyd cynnydd gwirioneddol unwaith i ni beidio gweiddi ar ein gilydd.

Bu lleisiau angerddol a theimladau a gofidion dilys o blaid pob ochr ein trafodaethau hanesyddol anodd, ond dim ond trwy drafod materion yn ystyrlon gan ystyried teimladau pobl y gallwn lwyddo i’w symud i ffwrdd o safbwyntiau sydd wedi hen galedu.

Wrth gwrs, nid oedd un o’r ymagweddau hyn yn ddigonol o ran ei hunan i wireddu diwygiad cyfreithiol a chymdeithasol. Roedd dewrder, dyfal barhad, tactegau synnwyr cyffredin cyfrwys y cyfryngau a chefnogaeth seneddol i gyd yn gynhwysion hanfodol wrth symbylu newid.

Beth bynnag, rwy o’r farn y bu, ymgysylltu’n barchus â gwrthwynebwyr wrth drafod, yn allweddol wrth wireddu cynnydd ystyrlon. Hebddo, rwy’n sicr na fyddai newid wedi digwydd mor gyflym.

Does dim un o’r ymagweddau hyn yn unigryw i’r achos LGBT; efallai eu bod yn gynhwysion hanfodol i unrhyw actifiaeth llwyddiannus. Ond dewch i ni ddefnyddio Mis Hanes LGBT i fyfyrio ar y mewnwelediad y gall y 50 mlynedd ddiwethaf ei ddarparu.