Twf teg: Sut allwn sicrhau mwy o gyfleoedd i fwy o bobl?

gan Caroline Waters

Cyhoeddwyd: 17 Dec 2019

Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw Caroline Waters OBE, a hi yw ein comisiynydd arweiniol ar gyfer Lloegr.

Gyda’r rhanbarthau ar hyd a lled y wlad ar hyn o bryd yn llunio’u strategaethau diwydiannol lleol, mae gan arweinyddion lleol gyfle i lywio dyfodol economaidd eu meysydd eu hunain.

Ond fel dengys ein hadroddiad ‘A yw Prydain yn Decach?’, mae anghydraddoldeb enbyd ar draws y wlad, gyda phobl â nodweddion gwarchodedig arbennig yn fwy tebygol o ddioddef anfantais, diweithdra a safonau byw tlotach mewn rhai rhanbarthau.

Gall ffyniant economaidd fod yn hwb gwirioneddol i gydraddoldeb. Gellir targedu buddsoddiad mewnol i greu swyddi lleol, gall buddsoddi mewn sgiliau sbarduno cyfleoedd a gall datblygiad mewn tai ac isadeiledd wella bywydau pobl.

Yn ei dro, gall cydraddoldeb gryfhau twf economaidd drwy greu’r amodau lle gall pobl wireddu’u potensial.

I’r gwrthwyneb, gall pobl â rhai nodweddion gwarchodedig gael eu heffeithio’n fwy gan economi gwan, gan y gellir ystyried camau megis hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chynnig gweithio hyblyg fel rhywbeth hwylus i’w gael yn hytrach nag yn angenrheidiol.

Yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae gennym rôl i’w chwarae wrth yrru hwn, gan ddefnyddio’n pwerau gorfodi unigryw i daclo achosion o fynd yn groes i hawliau dynol a chydraddoldeb a gweithio gyda phartneriaid sector preifat a chyhoeddus i hyrwyddo’r arferion gorau.

Drwy ein Rhwydwaith Lloegr a lansiom yn ddiweddar, rydym am weithio gydag arweinyddion busnes a dinesig lleol ar draws y wlad i rannu’r arfer orau a thaclo anghydraddoldeb daearyddol. Felly sut allwn ni greu swyddi a thwf economaidd heb adael pobl ar ôl a lledaenu anghydraddoldeb?

Gall cydraddoldeb gryfhau twf economaidd drwy greu’r amodau lle gall pobl wireddu’u potensial.

Efallai daw un ateb o’r adroddiad ‘Good Growth for Cities’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sydd yn rhestru dinasoedd mwyaf y DU yn erbyn dangosyddion y mae pobl bob dydd yn meddwl yw’r pwysicaf pan ddaw i lesiant economaidd.

Yn hytrach na dim ond olrhain y GDP, ystyria’r adroddiad hwn ffactorau ehangach megis argaeledd swyddi da, datblygu sgiliau, incwm yr aelwyd, iechyd, tai a chludiant. O gael ei mapio yn erbyn y mesurau hyn, ni chaiff Llundain (yn cael ei hystyried yn draddodiadol fel pwerdy economaidd y wlad) ei hun hyd yn oed yn y deg man uchaf, wedi’i rhestru’r tu ôl i ddinasoedd megis Rhydychen, Bryste, Caeredin a Leeds.

Honna’r adroddiad fod pum ffactor llwyddiant i dwf da, gyda’r un gyntaf: Dechrau a diweddu â deilliannau dinasyddion. Dyma’r ymagwedd a hyrwyddir gan y Ddeddf Cydraddoldeb, y ddeddfwriaeth garreg filltir yr ydym yn ei harddel.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau sector cyhoeddus i ystyried effaith polisïau a darpariaeth gwasanaeth ar grwpiau cydraddoldeb gwahanol. Wrth eu cynnal yn gadarn, gall asesiadau effaith ar gydraddoldeb ar gynlluniau hir dymor lleol a rhanbarthol helpu sicrhau bod pawb yn elwa gan ddyfodol disgleiriach.

Byddai’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus ystyried a yw polisïau’n gostwng neu’n cynyddu anghydraddoldeb a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. Er na chafodd yr adran hon o’r Ddeddf Cydraddoldeb ei deddfu gan lywodraeth y DU, cafodd darpariaeth debyg ei basio gan Lywodraeth yr Alban ac o fis Ebrill y flwyddyn nesaf caiff ei deddfu yng Nghymru.

Mae rhai awdurdodau lleol a rhanbarthol yn Lloegr hefyd yn ymgymryd â’r orchwyl o ystyried eu gweithgareddau drwy’r lens hwn, a byddwn yn annog pob arweinydd lleol i ymrwymo i wneud felly.

Mae meiri, cynghorau, busnesau ac elusennau â chysylltiadau cryf â’u cymunedau lleol mewn man unigryw i ddatrys yr heriau yr ydym ar hyn o bryd fel gwlad yn eu hwynebu ac i fynd i’r afael â’r rhwygiadau yn ein cymdeithas. Rydym am weithio gyda nhw i sicrhau bod anghenion pob un o’n dinasyddion yn cael eu hystyried yn eu cynlluniau.

Gallaf weld llawer i’w wneud i daclo anghydraddoldeb ond rwy’n credu’n gryf os caiff pawb gyfle teg mewn bywyd, byddwn oll yn ffynnu.

Am ragor o wybodaeth ac ymgysylltu, anfonwch e-bost i : EnglandNetwork@equalityhumanrights.com