Refferendwm yr UE: Byddwn yn llais annibynnol cryf yn y sgwrs ar hawliau pobl

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 27 Jun 2016

Mae canlyniad y refferendwm yr wythnos ddiwethaf wedi tanlinellu dau begwn barn rhannau gwahanol Prydain Fawr ar ein perthynas gydag Ewrop.

Rydym yn parchu’r safbwyntiau a gafodd eu cadarnhau yn y broses ddemocrataidd a’r penderfyniad a gymerwyd. Mae mudo wedi dod â buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol enfawr i’r DU, ond rydym hefyd yn cydnabod bod gan rai pobl bryderon am effaith mewnfudo.

Bydd cyfnod o ansicrwydd cenedlaethol – yn wleidyddol, yn economaidd ac yn gyfansoddiadol – ac ni fydd yr effaith hir dymor yn glir am lawer o fisoedd.

Bydd ein rôl wrth amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol yn allweddol yn y misoedd i ddod wrth i’r Llywodraeth wneud penderfyniadau a negodi unrhyw ardrefniant newydd gydag Ewrop fel rhan o adael yr UE.

Mae’n bwysig cofio bod Prydain yn ffodus i fod â fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol cryf sydd wedi ei ymgorffori yn y gyfraith a bod ein safle hawliau dynol, o dan y Ddeddf Hawliau Dynol ac fel llofnodwr i gyfamodau’r CU, heb ei effeithio arno gan y canlyniad.

Ond yn glir ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon. Yn ystod hynt yr ymgyrch, amlygodd llawer o bobl sut roedd deddfwriaeth Ewropeaidd wedi gwella hawliau i bobl anabl a gweithwyr, yn ogystal â grwpiau eraill.

Mae hefyd gwestiynau cyfansoddiadol mawr ynglŷn â beth allai ein perthynas fod yn y dyfodol â Llysoedd Ewrop a’r rôl maen nhw’n chwarae fel rhan o’n system cyfiawnder.

Bydd y Comisiwn yn parhau i fod yn llais cryf, annibynnol a chadarn wrth amddiffyn hawliau yn y misoedd i ddod ac wrth ddylanwadu ar y drafodaeth hon.

I’n helpu i sicrhau y byddwn yn gwneud hynny, rwy wedi comisiynu ein Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Strategaeth a Pholisi i archwilio’r materion cyfreithiol a chyfansoddiadol posibl sy’n berthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol y bydd angen i ni eu hystyried yn y misoedd i ddod wrth i ni ddeall  oblygiadau’r bleidlais Brexit yn fwy eang. Byddwn hefyd yn amlinellu’n hargymhellion ar gyfer ein safbwynt i fanteisio i’r eithaf ar ein dylanwad yn y drafodaeth.

Mae’n hanfodol na fydd yr hawliau a’r amddiffynfeydd, yr ydym yn eu mwynhau yn y DU ac sy’n helpu i wneud ein gwlad yn decach, yn gwanhau. Byddwn yn llais annibynnol na fydd yn gwyro yn y sgwrs genedlaethol hon wrth i’r manylion gael eu hystyried yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Mae’r refferendwm hefyd wedi codi materion ehangach yn gysylltiedig ag ymgysylltu a chyfranogi gwleidyddol, mewnfudo a chydlyniad cymunedol, ac mae’r rhain i gyd yn berthnasol i’n blaenoriaethau o fewn ein Cynllun Strategol.

Byddwn yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau hyn ac yn eich hysbysu’n rheolaidd ynglŷn â’n gwaith.

O ran trafodaeth y refferendwm, mae dadl gadarn a bywiog yn rhan bwysig o ddemocratiaeth Brydeinig a does neb am weld ein rhyddid barn yn cael ei wanhau.

Er fy mod yn croesawu’r nifer uchel a bleidleisiodd yn y refferendwm, rwy o’r farn bod cwestiynau ehangach ynglŷn ag ymgysylltiad gwleidyddion â’r cyhoedd. Dylai’r refferendwm wedi bod yn gyfle i egnioli a chynnwys pobl yn ein democratiaeth. Yn anffodus, bu cyhuddiadau o orliwio ac aflunio. Mae hynny i gyd yn niweidio ein hymddiriedaeth ym myd gwleidyddiaeth.

Mae angen i wleidyddion pob plaid bellach ystyried yn fanwl yr hyn a ddigwyddodd. Mae angen cymodi’r wlad, ailadeiladu ymddiriedaeth wrth ymgysylltu’n wleidyddol a dwyn y wlad ynghyd.