
gan Helen Pankhurst
Cyhoeddwyd: 08 Mar 2019
Bob blwyddyn, bydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn darparu cyfle i ni ddathlu cynnydd tuag at gydraddoldeb rhyweddol trwy gydol y byd ac i fyfyrio arno.
Y llynedd nodom 100 o flynyddoedd ers i rai menywod ennill yr hawl i bleidleisio - a’r hawl i sefyll fel Aelod Seneddol.
Darparodd y canmlwyddiant gyfle i ddathlu geiriau a gweithredoedd y swffragetiaid a’r etholfreinwyr fel ei gilydd a sicrhaodd y fuddugoliaeth hanesyddol honno.
Ond er y newid mawr, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019 rydym o hyd yn bell oddi ar gyflawni cydraddoldeb ym myd gwleidyddiaeth.
"Ni fyddai fy hen mam-gu, Emmeline Pankhurst ... yn hapus gyda’r bwlch cynrychiolaeth sydd yn parhau mewn gwleidyddiaeth"
Er mai menywod yw 51% o’r boblogaeth ym Mhrydain, dim ond 32% o ASau a 29% o Arglwyddi yn San Steffan sydd yn fenywod.
Ar y radd cynnydd presennol, gallai gymryd o leiaf 40 o flynyddoedd eraill i gyflawni cynrychiolaeth gyfartal.
Efallai byddai fy hen fam-gu, Emmeline Pankhurst, a’r miloedd o fenywod eraill a ymgyrchodd i gael pleidiais inni yn teimlo’n galonogol gan rai o’r newidiadau ym mywydau menywod yn yr unfed ganrif ar hugain, ond ni fydden nhw’n hapus gyda’r bwlch cynrychiolaeth sydd yn parhau mewn gwleidyddiaeth.
Ers 1918 dim ond 491 o fenywod a fu’n ASau, a 100 mlynedd ymlaen ers i fenywod ennill yr hawl i sefyll fel Aelod Seneddol, rydym yn dal y tu ôl i 37 o wledydd pan ystyrir cydraddoldeb rhyweddol mewn gwleidyddiaeth.
Mae angen i Lywodraeth y DU ofyn i’w hunan, beth yw’r rhwystrau ffyrdd? Pam mae pleidiau yn methu dethol menywod? Beth allwn ni i gyd ei wneud i gyflawni cynrychiolaeth gyfartal?
"Yn syml does dim data digon da gennym"
Dengys ymchwil newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar amrywiaeth swyddogion etholedig ym Mhrydain pa mor sylweddol yw’r broblem. Yn arbennig, mae’n datgelu diffygion difrifol yn y modd y cesglir data amrywiaeth, ei goladu ac adrodd arno.
Yn blwmp ac yn blaen, yn syml, does dim data digon da gennym. Ni chaiff ei gasglu’n drefnus ac felly nid oes cysondeb yn y prosesau casglu data, gan ein gadael â llun bratiog.
Mae’n gofyn y cwestiwn, os nad ydym yn gwybod y sefyllfa o ran amrywiaeth ymgeiswyr, sut wnawn ni gynnydd pellach ar ddileu’r diffyg amrywiaeth; sut wnawn ni sicrhau bod yr ASau sydd yn ein cynrychioli yn wir adlewyrchu pobl Prydain?
Saethodd yr adrodd ar y bwlch cyflog rhyweddol fis Ebrill y llynedd gydraddoldeb i frig agendau llawer o gyflogwyr. Roedd gwybod y cai’r wybodaeth ei gyhoeddi a bydden nhw’n cael eu cymharu â chwmnïau eraill wedi annog cyflogwyr i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn eu sefydliadau.
Gallai casglu data amrywiaeth yn y senedd gael yr un effaith. Byddai’r sbotolau – yn dangos yn glir pwy sy’n cael ei annog i biblinnell gwleidyddiaeth a phwy sy ddim, yn arwain nid yn unig i welliannau yng nghynrychiolaeth menywod, ond hefyd o grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol, ar sail ethnigrwydd, rhywioldeb, anabledd etc.
"Cyfrifoldeb y genhedlaeth hon, y senedd hon, yw gweithredu"
Dyna pam mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Grŵp Gweithredu Canmlwyddiant ac eraill yn gofyn i ddod ag adran 106 y Ddeddf Cydraddoldeb i rym.
Os daw ag ef i rym, byddai rhaid i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys data, am nodweddion gwarchodedig ymgeiswyr; gwybodaeth y gellir wedyn ei defnyddio i lywio camau ymarferol, ystyrlon i wella amrywiaeth ein cynrychiolwyr etholedig.
"Cyfrifoldeb y genhedlaeth hon, y senedd hon, yw gweithredu"
Byddai dod ag adran 106 i rym, ar unwaith yn trawsnewid yn radicalaidd y cyd-destun. Byddai’n hybu tirlun gwleidyddol sydd yn meithrin tryloywder ac felly yn hybu cynrychiolaeth gyfartal mewn gwleidyddiaeth.
Nawr yw’r amser.
Helen Pankhurst
Actifydd datblygu rhyngwladol a hawliau menywod ac ysgrifenwraig yw Helen Pankhurst CBE.
Hen wyres Emmeline Pankhurst yw a gwyres Sylvia Pankhurst, a oedd ill dwy yn arweinyddion yn y mudiad swffragét Brydeinig.
Our research
Ein hymchwil
Darllenwch yr adroddiadau ymchwil:
- Amrywiaeth ymgeiswyr a swyddogion etholedig ym Mhrydain Fawr
- Barriers to participation in standing for election to local government in Scotland