
gan Marion Sandner
Cyhoeddwyd: 02 Mar 2018
Mae hawliau economaidd cymdeithasol yn ganolog i ddatblygiad a goroesiad dynol. Maen nhw’n amlinellu beth sydd raid i’r Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod gan bawb yn y wlad hon y blociau adeiladu sylfaenol ar waith i allu byw bywyd boddhaol gydag urddas. Pethau fel cael mynediad i dai fforddiadwy, diogel a chymwysadwy, gofal iechyd a bwyd maethlon, digonol. Maen nhw hefyd yn ymestyn i’r gweithle, gan sicrhau nad yw pobl yn dioddef gwahaniaethu, eu bod yn cael dewis rhydd yn y gwaith a wnân nhw a bod amodau gweithio gweddus ganddyn nhw.
Mewn byd delfrydol byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn gweithio ei ffordd drwy restr argymhellion yr amlinellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol bron i ddwy flynedd ar ôl adolygu cyflwr hawliau economaidd a chymdeithasol yn y DU. Byddai bywyd yn gwella i filiynau o bobl ledled y wlad. Yn drist, dengys ein tystiolaeth, y byddwn yn ei chyhoeddi ddydd Mercher, nad yw hyn yn digwydd.
Er bod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, gwyddom fod nifer cynyddol o bobl yn dibynnu ar fanciau bwyd, mae llawer o deuluoedd yn byw islaw’r llinell dlodi, ac nid yw ein system nawdd cymdeithasol yn darparu cynhorthwy digonol i daclo safonau byw annigonol cynifer o bobl yn ein cymdeithas. Ar ben hynny, mae llawer o bobl yn dioddef cyflog isel ac nid oes unrhyw ddiogelwch swydd ganddyn nhw.
Dyma’r rheswm yr ydym wedi penderfynu llunio adroddiad (a gyhoeddir ddydd Mercher 7 Mawrth) yn asesu cyflwr hawliau economaidd cymdeithasol ym Mhrydain ddwy flynedd ymlaen. Yn bennaf, i atgoffa’r Llywodraeth y gwaith sydd angen ei wneud eto fyth er mwyn iddi wireddu’i hymrwymiadau, ond hefyd i dynnu sylw’r CU at y diffyg cynnydd, a hyd yn oed adlithriad mewn rhai meysydd, yr ydym wedi’u gweld hyd yn hyn.
Dengys ein hadroddiad:
- mae diwygiadau i nawdd cymdeithasol ers 2010 yn effeithio’n ddrwg ar blant, pobl anabl, unig rieni a lleiafrifoedd ethnig
- mae tlodi plant cymharol (ar ôl costau tai) wedi codi, gyda’r defnydd o sancsiynau yn gwaethygu sefyllfa ddrwg i lawer o bobl
- mae cyflog isel, cyflogaeth annigonol, hunangyflogaeth simsan a chytundebau oriau sero o hyd yn gyffredin
- mae newidiadau i gymorth cyfreithiol yn golygu bod cyfiawnder y tu hwnt i gyrhaeddiad nifer o bobl, yn enwedig plant, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i chwarae ‘rôl arweiniol wrth amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol’ unwaith i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, fel y dywedodd Eleanor Roosevelt, ‘human rights begin in small places, close to home’. Mae angen gweithredi’n awr, ac nid siarad.
I lansio’r adroddiad rydym yn dwyn ynghyd, ar y cyd â’n cyd- westeiwr Just Fair, arbenigwyr allweddol sydd yn gweithio yn y maes hwn – gan gynnwys Cadeirydd Pwyllgor y CU ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, Virginia Bras-Gomes, a Dr Phillip Lee AS o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bydd y digwyddiad yn trafod sut i wneud cynnydd go iawn ar y materion hyn, gan symbylu’r Llywodraeth i weithredu a datblygu cynllun clir yn amlinellu sut yn union bydd argymhellion y Pwyllgor yn cael eu rhoi ar waith.
Mae hawliau economaidd cymdeithasol yn ymwneud â galluogi pobl i fyw gydag urddas a rhoi’r cyfle iddyn nhw nid i oroesi’n unig ond i ffynnu. Ni allwn fforddio i aros mwyach.
Cysylltwch â Marion Sandner os ydych am ganfod mwy am ein hadroddiad.