Yn croesi ffiniau: gweithio gyda’i gilydd i daclo anghydraddoldeb rhanbarthol yn Lloegr

gan Caroline Waters

Cyhoeddwyd: 09 May 2019

Lloegr gyfartal. Lle mae gennych, ble bynnag y cawsoch eich geni neu ble rydych yn byw, yr un cyfleoedd i ffynnu mewn bywyd. Yr un safon o addysg. Yr un amseroedd aros am wasanaethau gofal iechyd.

Yn drist nid dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd. Yn ddiweddar cynhaliom astudiaeth eang am gydraddoldeb ar lefel rhanbarthol yn Lloegr, astudiaeth sy’n dilyn ein hadroddiad 2018, A yw Prydain yn Decach?, am sut rydym ni fel cenedl yn perfformio ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Canfu A yw Lloegr yn Decach? fod y safon o addysg a gwasanaethau iechyd, cyfraddau tlodi, a chyfleoedd gyrfa yn hynod o wahanol, gan ddibynnu ar ble rydych yn byw yn Lloegr.

Mae rhai ardaloedd – yn enwedig Gogledd Lloegr a’r Canolbarth Gorllewinol – ar ei hôl hi’n sylweddol, gyda chanlyniadau difrifol.

Nid yn unig bo’r bobl yn y De yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth neu addysg, maen nhw hefyd yn byw’n hirach ac mewn amodau gwell.

Roedd hanner y bobl anabl yng Ngogledd Dwyreiniol Lloegr wedi dioddef amddifadedd materol dybryd

Yn ogystal, roedd pethau’n waeth yn sylweddol i grwpiau megis lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Er enghraifft:

  • roedd hanner y bobl anabl yng Ngogledd Dwyreiniol Lloegr wedi dioddef amddifadedd materol dybryd
  • roedd y gyfradd tlodi a ddioddefwyd gan leiafrifoedd ethnig yn fwy na 10% yn uwch yn y Gogledd nag yn y De

Ond nid yw’n gwbl ddu. Er y rhwyg daearyddol sydd yn gyffredinol yn ehangu, canfu’r adroddiad rai meysydd o lwyddiant nad oedden nhw wedi’u dathlu – megis amseroedd aros isel ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Lloegr a gwelliannau enfawr o ran cyrhaeddiad addysg y blynyddoedd cynnar yng Ngogledd Dwyreiniol Lloegr.

Mae angen i ni gasglu’r llwyddiannau hyn ac ystyried sut y gallwn eu cymhwyso i ardaloedd eraill.

Dyna’r rheswm yr ydym yn lansio rhwydwaith newydd heddiw lle gall llunwyr polisi a busnesau ar draws Loegr ddod at ei gilydd i rannu’r arfer orau a thaclo anghydraddoldeb daearyddol.

Oherwydd ni all neb greu newid ystyrlon, cynaliadwy wrth ei hunan. Ac yn ogystal, ni ddylen nhw.

Ni all neb greu newid ystyrlon, cynaliadwy wrth ei hunan.

Os oes gan ddarparwr addysg fewnwelediad defnyddiol ar sut i leihau gwaharddiadau ysgol, neu fod busnes yn llwyddiannus wedi cau rhywfaint ar ei fwlch cyflog o ran anabledd, mae angen i ni’u hannog i rannu â sefydliadau eraill y gallai fod yn cael anhawster yn y maes hwnnw sut y cyflawnon nhw hynny.

Trwy gyfuno profiad ac arbenigedd awdurdodau lleol a’u partneriaid busnes ac elusen ar hyd a lled y wlad, bydd gennym gyfle llawer gwell o wella canlyniadau bywyd  i bawb, waeth ble maen nhw’n byw.

Mae meiri, cynghorau, elusennau a busnesau a chysylltiadau cryf ganddyn nhw â’u cymunedau lleol mewn sefyllfa unigryw i ddatrys yr heriau yr ydym ar hyn o bryd yn eu hwynebu fel gwlad a mynd i’r afael â’r rhaniadau a’r rhwygiadau yn ein cymdeithas.

Rydym yn eu cymell i gymryd yr her a mwynhau’r buddion o weithio gyda’i gilydd drwy ymuno â’n Rhwydwaith Rhanbarthau Seisnig.

Trwy sicrhau bod twf economaidd rhanbarthol yn darparu mynediad i gyfle i bawb ac nid yw’n gadael unrhyw un ar ôl, byddwn gam yn agosach i greu Loegr gwirioneddol deg lle caiff cyfleoedd eu rhannu’n gyfartal ar draws y wlad.

I ganfod rhagor ynglŷn ag ymgysylltu, anfonwch e-bost i EnglandNetwork@equalityhumanrights.com.