Adeiladu Alban decach

gan Dr Lesley Sawers, Scotland Commissioner

Cyhoeddwyd: 25 Jul 2017

Mae’r cyhoeddiad diweddar bod i fyny at £1 biliwn yn ychwanegol yn mynd i gael ei fuddsoddi yn Rhanbarth Caeredin o ganlyniad i’r Fargen Ddinesig ddiweddaraf yn newyddion i’w groesawu. Fel gyda llawer o Fargenau Dinesig a Thwf Cynhwysiol sydd yn bodoli eisoes yn yr Alban, mae bargen Caeredin yn canolbwyntio yn fawr iawn ar fuddsoddi mewn isadeiledd, trafnidiaeth, tai a thwristiaeth. Nod pob un o Gytundebau Twf a Buddsoddi yr Alban, gan gynnwys un Caeredin, yw creu swyddi, cynyddu eu heconomi lleol a chenedlaethol, cefnogi twf busnes a mentergarwch ac annog mwy o ryngwladoli.

O ran eu heffaith economaidd, mynnwyd ar y mesurau ariannol o’r dechrau’n deg. Fodd bynnag, mae’r buddion go iawn, sydd yn newid bywyd, a ddaw i gymunedau, teuluoedd ac unigolion ar draws yr Alban yn llai eglur.

Mae adeiladu yn rhan allweddol pob Bargen Ddinesig. Fel sector mae’n creu swyddi, yn cyflenwi isadeiledd ffisegol ac asedion cyfalaf ac mae’n llythrennol yn gosod y briciau a’r morter sydd yn darparu cartrefi fforddiadwy ac yn creu cymunedau cynaliadwy. Mae’n ffodd ar gyfer buddsoddiad, yn creu cadwyn gyflenwi sydd yn cefnogi llawer o fusnesau a sectorau eraill ac mae’n allweddol ar gyfer adfywio tir diffaith, cydgysylltu cymunedau eithredig a chyflenwi gwelliant amgylcheddol.

Ond, rydym yn gwybod hefyd bod diffyg amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu yn yr Alban. Dim ond 17% o gyflogeion yn y maes adeiladu sydd yn fenywod, ac mae llai na 2% o leiafrifoedd ethnig. Byddai defnyddio caffael y sector cyhoeddus i osod targedau i adeiladwyr ar sut fyddan nhw’n denu a chadw gweithlu mwy amrywiol yn ganolog o ran gwneud cynnydd yn y maes hwn.

Mae potensial gan Fargeniau Dinesig hefyd i drawsnewid bywydau’r sawl sydd yn byw yn y tai newydd hyn. Ar hyn o bryd yn yr Alban gwyddom fod rhyw 15,000 o ddefnyddwyr cadair olwyn yn byw mewn tai amhriodol. Yn yr un modd, rydym yn gwybod bod lleiafrifoedd ethnig ar draws yr Alban yn bedair gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn. Gallai adeiladu 50,000 o gartrefi fforddiadwy newydd, a buddsoddiad Bargen Ddinesig ym maes tai, os cynllunnir ef yn briodol, wneud effaith sylweddol ar y ddau fater.

Ac mae’r effaith honno’n mynd y tu hwnt i gael rhywle i fyw ynddo – bod â chanolfan sefydlog a hygyrch, pobl anabl yn gallu cymryd rhan ym mywyd economaidd, diwylliannol a dinesig yr Alban. A bydd y ffaith bod gan leiafrifoedd ethnig gartrefi mwy o faint yn golygu y bydd plant yn gallu ffynnu mewn amgylchedd sydd yn cynnig preifatrwydd a gofod iddyn nhw astudio ynddo.

O fewn y Comisiwn rydym yn gweithio i helpu llunio a ffurfio’r ffocws buddsoddi cymdeithasol hwn ar gyfer Bargeniau Dinesig yr Alban. Dros y misoedd i ddod byddwn yn gweithio gyda’r llywodraeth, awdurdodau lleol, rhanddeiliaid y sector preifat a’r trydydd sector i wireddu hyn ond, yn bwysig, byddwn yn rhoi llais i’r unigolion a grwpiau eithriedig hynny sydd â’r mwyaf i elwa o’r cyfle ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ hwn o ran buddsoddi.

Ledled yr Alban, mae gan y Fargen Ddinesig y potensial i wneud effaith ar adeiladu, materion biofferyllol, diwydiannau creadigol a TGCh, wedi’i thiwnio i amgylchiadau lleol. Fel enghraifft, gallai prosiectau sydd wedi’u sefydlu yng Nglasgow flaenoriaethu cyflogaeth pobl ethnig lleiafrifol ifancach sydd ar hyn o bryd yn dioddef lefelau uchel o ddiweithdra a lefelau isel o gael mynediad a dyrchafiad ym meysydd allweddol yr economi. Mewn meysydd eraill, gallai demograffeg leol bennu mwy o bwyslais ar gydraddoldeb rhyweddol ac o ran anabledd.   

Mae angen i dyfiant cynhwysol, economiau ac enillion cynaliadwy ar gyflafal fod yn fwy na chysyniadau damcaniaethol neu sioe mewn prospectws buddsoddi. Mae angen i ni gyflenwi newid cam o ran sut rydym yn targedu’r buddsoddiad hwn i gefnogi’r meysydd neu’r unigolion hynny sydd â’r angen fwyaf. Mae angen meddwl ar raddfa fawr arnom yn hytrach na dim ond o ran Enillion ar Fuddsoddiad, twf cynnyrch domestig gros neu gynnydd o ran dechrau busnesau fel ein mesurau llwyddiant. Mae angen i ni ddechrau siarad a blaenoriaethu anghenion cymdeithasol economaidd dinasoedd a chymunedau a defnyddio buddsoddiad Bargen Ddinesig i adeiladu’n llythrennol Alban sydd yn decach ac yn fwy cynhwysol.