Blog A yw Prydain yn Decach?

gan Rebecca Hilsenrath

Cyhoeddwyd: 30 Nov 2015

Nid yw tegwch yn un o’n gwerthoedd Prydeinig mwyaf hanfodol yn unig ond, yn ôl pob tebyg, y gair mwyaf dadleuol yn ein geirfa wleidyddol hefyd.

Os bu angen prawf erioed, mae’r digwyddiadau yn San Steffan yr wythnos hon yn dangos hyn yn glir.

Boed ai trafodaeth fywiog am gredydau treth a thlodi mewn-gwaith, sut rydym yn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid neu bentwr o gyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth ar gydraddoldeb, tegwch yn ôl pob tebyg yw’r mater a ddadleuir mwyaf tanbaid yn ein cymdeithas.

Mae pob un o’n prif bleidiau gwleidyddol wedi rhoi cyflawni mwy o gydraddoldeb a thegwch yn ganolog i’w hagendau am y pum mlynedd nesaf. Tanlinellodd y tymor cynadleddau plaid sut y cododd egwyddor cydraddoldeb uwchlaw’r wahanfa chwith-dde. Nid p’un ai a oes angen cymdeithas decach arnom yw’r pos i Brydain mwyach ond sut i’w gyflawni, ac mae hwn yn ei hunan yn gam ymlaen pwysig a thra bositif.

Mewn hinsawdd ariannol dynn a chyda’r dadleuon parhaus dros brif newidiadau megis, diwygio lles, ni fu’r angen yn fwy erioed am wneud penderfyniadau deallus, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae tystiolaeth well yn caniatáu trafodaeth well a phenderfyniadau gwell. Yn rhy aml, mae’r sgyrsiau cenedlaethol, hynod ddyrys hyn yn hir o ran honiadau pleidiol neu ddehongliad unochrog ac yn fyr o ran ffeithiau. Yn y cyd-destun hwn, mae hyd yn oed y llunwyr polisi, heb sôn am y cyhoedd, yn cael trafferth i ddeall y darlun gwirioneddol.

Dyna pam mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw yn cyhoeddi’r adolygiad mwyaf cynhwysfawr erioed o gynnydd tuag at fwy o ddiogelwch o ran cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.

Ategir ein hadroddiad golwg cyffredinol gan 1,840 o dudalennau tystiolaeth annibynnol, awdurdodol ac fe’i seilir ar filoedd o ffynonellau gwahanol. Mae’n cynnwys 10 prif faes bywyd pob dydd, gan gynnwys addysg, cyflogaeth, safon byw, iechyd, cyfiawnder, diogelwch, hunaniaeth a chyfranogiad.

Datgela, er bod bywyd i lawer wedi dod yn decach dros y pum mlynedd ddiwethaf, i eraill, mae’r cynnydd wedi sefyll yn stond, ac i rai, mae wedi gwaethygu.

Mae penawdau’r adroddiad yn cynnwys:

  • Dioddefodd disgyblion gwyn o gefndir tlotach, yn enwedig bechgyn, y dechreuad gwaethaf i fywyd wrth iddyn nhw barhau i gwympo ymhellach yn ôl i bob grŵp ethnig arall yn yr ysgol
  • Mae Prydeinwyr yn gyffredinol wedi dod yn fwy goddefgar o gyfeiriadedd rhywiol ac amrywiaeth hiliol ond yn llai goddefgar yn gyffredinol o amrywiaeth grefyddol, gyda throsedd casineb gwrth-semitig ac Islamoffobig yn cynyddu
  • Pobl ifanc a gafodd y cwymp mwyaf o ran incwm a chyflogaeth o’i gymharu â grwpiau oedran hŷn, a bellach, maen nhw’n  wynebu mwy o rhwystrau rhag cyflawni annibyniaeth a llwyddiant economaidd
  • Cafodd diwygiadau deddfwriaethol a pholisi eu rhoi ar waith i daclo camdriniaethau hawliau dynol difrifol megis caethwasiaeth fodern, priodas dan orfod a llurgunio organau cenhedlu merched
  • Mae pobl Bangladeshaidd a Phacistanaidd wedi gweld y gwelliannau mwyaf ym myd addysg a chyflogaeth er eu bod ar eu hôl hi o hyd ar y rhan fwyaf o ddangosyddion, tra dioddefodd gweithwyr Du, a oedd gynt yn un o’r grwpiau ethnig a dalwyd yn well, un o’r cwympiadau mwyaf o ran cyflogau
  • Mae merched bellach yn perfformio’n well na bechgyn yn yr ysgol ac yn y brifysgol, ond mae menywod o hyd yn dioddef bwlch cyflog sydd yn cynyddu wrth iddyn nhw gyrraedd ‘y blynyddoedd brechdan’, yn jyglo gofalu am blant a rhieni
  • Mae pryderon am brofiad pobl anabl, gyda gormod ohonyn nhw wedi’u cloi allan o’r gymdeithas brif ffrwd drwy dlodi a chael eu hynysu ac ar adegau yn cael anhawster i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fyw’n annibynnol

Mae’r adroddiad yn nodi wyth ‘rhwystr ffordd’ rhag cyfle cyfartal i gael eu taclo gan lunwyr polisi, cyrff cyhoeddus, NGOau a grwpiau eraill.

Mae hyn yn cynnwys yr angen am dystiolaeth fwy cynhwysfawr ac o ansawdd gwell. Ar hyn o bryd, mae tyllau du gwybodaeth yn gwneud rhai grwpiau bregus cymdeithas yn anweledig drwy ddata cyfyngedig. Mae hyn yn cynnwys pobl 80 oed a mwy, pobl drawsryweddol a dioddefwyr bwlio yn yr ysgol.

Mae’r Comisiwn hefyd yn dechrau ymgynghori heddiw ar ei gynllun strategol drafft. Ein cenhadaeth graidd yw bod yn gatalydd er newid i wella bywydau pobl. Rydym bob amser yn ymdrechu i fod yn sefydliad arbenigol, awdurdodol a berchir, gan ddefnyddio’n pwerau yn strategol ac wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn i sbarduno newid a chyflawni’r effaith fwyaf. Ni fu ein rôl fel corff arbenigol, cenedlaethol, annibynnol - gyda phwerau statudol clir ac mewn sefyllfa i helpu cymdeithas lywio drwy’r ddadl gymhleth hon - erioed mor bwysig i wireddu cynnydd pellach.

Mae Prydain wedi newid eisoes. Mae’n galonogol na fo ni bellach yn byw mewn gwlad lle bo rhan fwyaf o bobl o’r farn bod cyfle cyfartal yn faich i’r genedl, neu’n foethusrwydd drud. Mae llawer mwy i’w wneud o hyd, ond mae’r rhan fwyaf o fusnesau, gwleidyddion a’r cyhoedd yn deall bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn hanfodol i degwch a thwf economaidd fel ei gilydd. Edrychwn ymlaen at fod wrth galon yr ymdrech genedlaethol hon a’r drafodaeth i ddatgloi doniau ar draws pob cymuned. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud hynny mewn partneriaeth ag eraill ar draws cymdeithas sydd yn rhannu’r gyfrifoldeb hon â ni.

Mae Prydain wedi newid eisoes ond, fel mae’r adroddiad heddiw’n tanlinellu, mewn llawer i ardal, dim ond dechrau mae’r gwaith caled.