Pawb arno? Rhwystrau i deithwyr anabl ar drafnidiaeth gyhoeddus

gan Frank Jarvis

Cyhoeddwyd: 11 Mar 2020

Mae Frank Jarvis, cyfreithiwr yn ein tîm yn yr Alban, yn egluro sut mae rhai gweithredwyr trafnidiaeth yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn teithwyr anabl

Passenger exits bus

Yn 2018, canfu’n hadroddiad, Is Scotland Fairer?, ar gyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol yn yr Alban fod pobl anabl a phobl hŷn yn parhau i wynebu problemau wrth geisio defnyddio pob ffurf o drafnidiaeth gyhoeddus.

Un o’n Nodau Blaenoriaeth presennol yw bod “trafnidiaeth gyhoeddus yn cefnogi cynhwysiant economaidd a chymdeithasol pobl anabl a phobl hŷn”. I’n helpu i gyflawni hyn fe lansiom brosiect yn ddiweddar i gefnogi hawliadau cyfreithiol gan unigolion sydd yn profi’r problemau hyn.   

Rydym o’r farn bod gweithredwyr cludo, yn rhai o’r achosion hyn, efallai’n methu yn eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Isod mae rhai enghreifftiau o’r math o broblemau a allai arwain at hawliadau o wahaniaethu anghyfreithlon.

Train station platform

Yn 2016/17, cefnogom yr achos Paulley vs FirstGroup [2017] UKSC 4, y dyfarnodd y Goruchaf Lys ynddo bod rhaid i weithredwyr bws ddod â pholisiau ‘cyntaf i’r felin gaiff falu’ i ben a gwneud mwy ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Fodd bynnag, dywed asiantaethau cynghori a grwpiau defnyddiwr wrthym na fod y dyfarniad eto wedi cyflawni newid sylweddol ‘ar lawr gwlad’.

Os yw defnyddwyr cadair olwyn yn dioddef anfantais sylweddol yn sgil darpariaeth, meini prawf neu ymarfer ar ran cwmni bws, yna gallai’r cwmni bws fod yn methu yn eu dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.

Nid achos o ‘un maint yn ffitio pawb’ yw addasiadau rhesymol a go brin y bydd gwneud un addasiad rhesymol yn ddigon i ddileu’r rhwystrau a wyneba pob teithiwr ag anableddau.

Er bod lifftiau codi cadeiriau olwyn gan rai bysys i gynorthwyo teithwyr wrth ddringo ar y bws, dim ond teithwyr yn defnyddio  cadair olwyn a allai ddefnyddio nifer o’r lifftiau hyn. Golyga hyn y gallai fod angen addasiadau eraill i sicrhau cymorth i deithwyr nad ydyn nhw’n gallu defnyddio grisiau serth i ddringo ar y cerbyd, ond nid er hynny yn defnyddio cadair olwyn, i allu defnyddio’r gwasanaeth.

Rhaid i gost yr addasiad rhesymol gael ei dalu gan y darparwr gwasanaeth ac ni ddylid fyth ei estyn ymlaen i’r defnyddiwr gwasanaeth. Mae rhai teithwyr anabl yn angen cynorthwyydd personol arnyn nhw wrth deithio fel addasiad rhesymol.

Felly gallai gweithredwyr cludo sydd yn gwneud i deithwyr anabl dalu cost lawn eu cynorthwyydd teithio personol fod o bosib yn mynd yn groes i’w dyletswyddau addasiad rhesymol.  

Gall y defnydd cynyddol o dechnoleg mewn systemau neilltuo lle greu rhwystrau arbennig. Bydd gweithredwyr sydd yn gofyn i deithwyr anabl, heb allu ei gyfiawnhau’n ddigonol, i ddefnyddio gweithdrefnau penodol ac anghyfleus wrth neilltuo lle ar y cerbyd fod yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol.

Yn olaf, mae’n bwysig cofio nad yw’r rhwystrau mae pobl ag anableddau’n wynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig i broblemau symudedd.

Gall hygyrchedd gwybodaeth teithio (gan gynnwys amserlenni a chyhoeddiadau) greu anawsterau i’r rheini â namau golwg neu glywed, yn ogystal o bosib ag y rheini â namau gwybyddol, cyflyrau iechyd meddwl neu gyflyrau niwroamrywiol.

Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain i roi syniad o’r ystod o broblemau a ellid mynd i’r afael â nhw drwy hawliadau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, ac efallai y gallwn eu cefnogi drwy ein prosiect cymorth cyfreithiol presennol. Gall cynghorwyr a chyfreithwyr sydd yn cefnogi cleientiaid gyda phroblemau o’r fath ddod o hyd i fwy am y prosiect cymorth cyfreithiol a gwneud cais am gymorth.