Woman looking through window blinds Woman looking through window blinds

Agenda i gydraddoldeb ac iechyd meddwl

gan Liz Sayce - Chief Executive of Disability Rights UK

Cyhoeddwyd: 16 May 2016

Prif Weithredwr Disability Rights UK

Mae gostwng stigma a gwahaniaethu ym maes iechyd meddwl yn ymddangos fel pe bai wedi symud o fod yn syniad radicalaidd blin yn y 90au i’r polisi sy’n cael y flaenoriaeth uchaf heddiw. Mae’r bobl sydd wedi’i drafod cyn belled yn 2016 yn cynnwys David Cameron a Duges Caergrawnt a ddywedodd:

“Rydym yn gobeithio annog George a Charlotte i siarad am eu teimladau, a rhoi’r arfau a’r sensitifrwydd iddyn nhw allu bod yn gyfoedion cefnogol i’w ffrindiau wrth iddyn nhw heneiddio. Gwyddom nad oes cywilydd mewn plentyn ifanc yn ei chael yn anodd dygymod â’u hemosiynau neu ddioddef salwch meddwl.”[1]

Er bod hyn yn cynrychioli cynnydd i’w groesawu, mae dau gwestiwn yn aros i’r sawl a diddordeb mewn cydraddoldeb: yn gyntaf, sut i gadw ffocws cryf ar gyfleoedd bywyd cyfartal (cymdeithasol, economaidd a chyfranogiad dinesig), ac nid ar driniaeth iechyd meddwl yn unig; ac yn ail – 20 mlynedd ar ôl iddo yn y diwedd ddod yn anghyfreithiol i wrthod swydd i rywun oherwydd problem iechyd meddwl yn unig – sut allwn dorri trwy ganrifoedd o wahaniaethu a chyflawni cydraddoldeb gwell.  

Canolbwyntio ar gyfleoedd bywyd cyfartal

Er yr holl siarad am ostwng stigma, prif ffocws y drafodaeth ar hyn o bryd yw mynediad i driniaeth. Pan arwyddodd Alistair Campbell, Ruby Wax a Joanna Lumley i gynllun 10 pwynt ar gyfer ‘Cydraddoldeb i Iechyd Meddwl’, roedd saith pwynt yn ymwneud â thriniaeth ac iechyd; dau i’r heddlu a charchardai; a dim ond un i gyfleoedd bywyd cyfartal [2]. Canolbwyntiodd y pwynt sengl hwn ar gyflogaeth – ond hyd yn oed yma, diffyg ‘triniaethau’ i helpu pobl i ddychwelyd i’w gwaith oedd y pwynt.  

Mae pobl sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl yn dweud dro ar ôl tro bod agweddau pobl eraill yn waeth na’r cyflwr gwreiddiol, a’r hyn maen nhw eisiau’n bennaf yw cefnogaeth gyda chyflogaeth, tai, cyfeillgarwch a chymryd rhan lawn yn y gymdeithas [3]. Canfu arolwg 2015 CQC i ddefnyddwyr cymunedol gwasanaeth iechyd meddwl mai dim ond 25% oedd wedi cael cefnogaeth o ran cyflogaeth; dywedodd 47% nad oedden nhw wedi cael y fath gefnogaeth, ond roedden nhw wedi’i ddymuno. Cymharwch hyn â’r ffigurau ar gyfer cael therapïau/triniaeth siarad - i’r gwrthwyneb yn union : cafodd 47% therapïau siarad, a dim ond 25% a ddywedodd nad oedden nhw wedi’u cael ond wedi’u dymuno [4].

Mae angen cynllun iechyd meddwl arnom ar gyfer cyfranogiad cyfartal – i ddyfal doncio ar yr anghydraddoldeb sydd mor amlwg wrth edrych ar yr ystadegau:

  • Canfu Arolwg Agweddau Cymdeithasol ym Mhrydain mai dim ond 8% o unigolion 18-24 oed a fyddai’n teimlo’n gysurus petai cyflwr iechyd meddwl gan eu rheolwr. (Mae’r ffigwr hwn ychydig yn well i grwpiau hŷn, sydd wrth ei hunan yn peri gofid: a yw cenhedloedd iau yn fwy ofnus na’u hynafgwyr?) a;
  • Mae triniaeth seiciatrig yn erbyn ewyllys pobl yn cynyddu’n ddi-baid, gyda thwf o 10% y llynedd yn unig.

Sut i orchfygu gwahaniaethu a chyflawni mwy o gydraddoldeb

Hyd yn hyn mae’r ymdrechion i ostwng gwahaniaethu wedi bod yn amrywiol iawn ond weithiau maen nhw wedi bod yn hynod o wrthgynhyrchiol. Er enghraifft, mae’r neges gyffredin mai ‘salwch yw salwch meddyliol fel unrhyw salwch arall’ mewn gwirionedd yn cadarnhau rhagfarn. Os oes salwch ymenyddol ar rywun, maen nhw’n fwy tebygol o gael eu hystyried yn ddiamcan, yn anrhagweladwy ac o bosib yn beryglus - yr union stereoteipiau y cynlluniwyd ymgyrchoedd gwrth-stigma i’w difetha.

Mae’n amser i ailfeddwl ac mae tystiolaeth dda ar yr hyn all newid agweddau ac ymddygiadau yn bositif, gan gynnwys:

  • Cyswllt, ar delerau cyfartal o leiaf, lle gall pobl ddod i nabod ei gilydd ac ymgysylltu â’i gilydd ar gyrchnodau cyffredin: er enghraifft, drwy weithio, dysgu neu chwarae gyda’i gilydd.   
  • Naratifau positif ar y cyfraniad mae’r rheini ohonom sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl yn gwneud i gymunedau
  • Liferi grymus ar gyfer cymryd rhan yn ymarferol: gall pŵer ddod o leisiau pobl ar y cyd, pobl â phrofiad uniongyrchol ohono na ellir eu cadw’n dawel, er enghraifft: “Yn sgil fy ngwallgofrwydd, ces fy nghymryd i leoedd nad oeddwn wedi bod iddyn nhw erioed. Dangosodd y bydysawd i mi yn ei noethder…. Mae llawer o bobl yn mynd trwy’r diriogaeth hon rywbryd yn eu bywyd. Mae’r rhan fwyaf yn llwyddo mynd wrth ei ymyl ac edrych arno’n frawychus yn y pellter. Ond mae’r rheini sydd wedi’u gorfodi i’w grombil yn dod allan gyda darluniau mwy cyfoethog o fod dynol sydd wedi bod ar gyfeiliorn ond sydd wedi dod o hyd i’w hunan unwaith eto” [5]
  • Gall ddod o bwerau cyfreithiol systemig: fel ymchwiliadau ffurfiol y Comisiwn i feysydd megis gelyniaeth a throsedd casineb, sy’n sbarduno gweithredu systemig gan sefydliadau megis, yr heddlu a gwasanaethau erlyn
  • Gall ddod o liferi polisi: er enghraifft, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i greu 3 miliwn o brentisiaethau newydd erbyn 2020; 486,000 ohonyn nhw yn y sector cyhoeddus. Os yw’r llywodraeth wedi ymrwymo i haneru’r bwlch cyflogaeth anabledd, gallai yn rhagweithiol roi cymhelliant i gyflogwyr agor prentisiaethau hyblyg i nifer fawr o bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol.

Mae angen model trosfwaol newydd arnom - hawliau cyfranogi - y gall pobl danyn nhw wella, beth bynnag eu barn o’u gwallgofrwydd neu gyni, beth bynnag yw’r triniaethau maen nhw’n eu dymuno neu nad ydyn nhw eu heisiau. Mae’r dull hwn yn mynd i’r afael orau â phob symbyliad gwahaniaethu. Mae’n ymwneud â’n dynoliaeth gyffredin, yn torri allan rhag gwleidyddiaeth hunaniaeth, yn tarfu ar wahanrwydd, yn adeiladu ar gryfderau a galluoedd - ac yn tynnu ar ffurfiau pwer gwahanol i gynhyrchu newid cymdeithasol. Mae hawliau cyfranogi hefyd yn creu’r amodau ar gyfer cyswllt parhaus, dro ar ôl tro ar delerau cyfartal, a gydnabyddir fel rhai sy’n newid agweddau ac ymddygiad yn arwyddocaol - gan greu cylch daionus; a gwna hynny drwy fywyd cyffredin, yn hytrach na dibynnu ar ‘ymyriadau’ penodol.

Yn y pendraw, y nifer fawr o bobl sy’n byw gyda chynghreiriaid a heriau iechyd meddwl, gyda doniau amrywiol, safleoedd a ffynonellau o ddylanwad, sy’n gallu bod yn gatalyddion er newid. Ymhen amser, gyda dulliau effeithiol, gallwn leihau’r bylchau arswydus o ran cyfleoedd bywyd rhwng pobl sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl a dinasyddion eraill. Mae trafod y syniadau i danategu camau yn hanfodol, i gipio’r hawliau cyfranogi sy’n hawl sylfaenol pob bod dynol ar y blaned.  

Ar gyfer dadansoddiad llawnach gweler Sayce (2016) From Psychiatric Patient to Citizen Revisited. 

Prif Weithredwr Disability Rights UK yw Liz Sayce, yn arwain gwaith i gyflawni cyfranogiad cyfartal i bawb, drwy raglenni ar fyw’n annibynnol, cyfleoedd gyrfa a symudiadau o ran ymddygiad ac agweddau diwylliannol. 

[1] http://www.theguardian.com/media/2016/feb/17/duchess-of-cambridge-mental-health-huffpo-george-charlotte
[2] http://www.equality4mentalhealth.uk/
[3] Sayce L (2016) From Psychiatric Patient to Citizen Revisited. Palgrave Macmillan
[4] http://www.cqc.org.uk/content/community-mental-health-survey-2015. Of course, people requiring community or crisis services do want more access to therapy and treatment; but this survey suggests an even higher priority placed on employment support
[5] O’Hagan M (2014) Madness Made Me. Wellington: Open Box